Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 30 Ionawr 2019.
Diolch yn fawr iawn ichi am hynny. Felly, nid yw 29 Mawrth ond mater o wythnosau i ffwrdd, ac i lawer o fusnesau a sefydliadau ledled Cymru, mae'r ansicrwydd ynglŷn â Brexit yn frawychus iawn. Gwn o sgyrsiau a gefais yn fy etholaeth gyda chwmnïau ym Merthyr Tudful a Rhymni eu bod yn pryderu'n fawr ynglŷn â hynny. Ni allaf ond tybio nad yw cynrychiolwyr UKIP a'r Ceidwadwyr wedi bod yn siarad â chwmnïau yn eu hetholaethau, oherwydd fel arall byddent—[Torri ar draws.] Na, nid wyf yn derbyn ymyriad. Oherwydd fel arall, byddent wedi cael yr un ymateb ag a gefais i ynglŷn â'r pryderon sydd ganddynt.
A gwyddom y gallai'r tro pedol gan y Prif Weinidog ddoe fod wedi ennill peth amser ychwanegol iddi gydag aelodau ei meinciau cefn ei hun, ond mae'n ymddangos, Adam, eu bod yn sydyn iawn yn hoffi'r ffordd y mae'r ddynes hon yn troi. Ond y cyfan a glywaf yw tician y cloc, a thra bo'r cloc yn dal i dician, rwy'n bryderus ynghylch natur wenwynig y ddadl ynglŷn â'n perthynas gyda'n partneriaid yn yr UE yn y dyfodol, a dylai hynny fod yn destun gofid i bob un ohonom. Y siarad dyddiol am feddylfryd amser rhyfel, o fod yn y ffosydd, ysbryd y blits; nid dyma yw hanfod ein perthynas â 27 gwlad arall yr UE. Ar adegau, teimlaf ein bod ond un cam i ffwrdd o alw ein cyd-Aelodau yn yr UE yn 'Johnny Foreigner'. Er mwyn popeth—nid yr UE a aeth â ni i'r llanastr hwn. Y Torïaid a'u hadrannau mewnol ledled Ewrop a wnaeth hynny, ac nid wyf am eistedd yn ôl a derbyn nad yw eu rhethreg wrth-UE yn ceisio rhoi'r argraff mai'r UE yw'r bobl ddrwg yn y sefyllfa hon. Nid yr UE a ofynnodd inni adael. Maent yn parhau i fod yn unedig fel 27 gwlad wrth i'n Llywodraeth ni yn y DU fethu uno.
Felly, i mi, dadl yw hon bellach ynglŷn â diogelu swyddi ym Merthyr Tudful a Rhymni. Mae'n ymwneud â sicrhau nad yw diogelwch ein pobl dan fygythiad. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr fod gennym fynediad di-dor at y meddyginiaethau sydd eu hangen ar ein dinasyddion. Mae'n ymwneud â sicrhau hawliau ein dinasyddion. Mae'n ymwneud â sicrhau nad ydym yn peryglu'r hyn sydd, a dweud y gwir, yn dal i fod yn heddwch bregus yn Iwerddon.
Lywydd, cyn belled yn ôl â mis Gorffennaf diwethaf gofynnais i'r Gweinidog Brexit a chyllid ar y pryd, y Prif Weinidog yn awr, a oedd hi'n bryd oedi erthygl 50. Roedd yn amlwg i mi bryd hynny, fel yn awr, nad oedd gennym amser i sicrhau cytundeb derbyniol ar delerau ein hymadaiad â'r UE. Nawr, chwe mis yn ddiweddarach, mae Prif Weinidog y DU wedi gwneud yn union yr hyn y dywedodd nad oedd yn bosibl. Mae hi'n mynd i fynd yn ôl i geisio ailagor y trafodaethau ar ôl dweud wrthym am fisoedd ei fod yn ddewis rhwng ei chytundeb hi a dim cytundeb.
Ond credaf o hyd y byddai oedi yn rhoi amser i bawb gael trafodaethau mwy ystyrlon ac yn bwysicach, i ddatrys rhai o'r tensiynau sy'n gwrthdaro yn ein gwlad ein hunain. Rwy'n glir nad yw oedi yn y trafodaethau yn gwrthdroi'r refferendwm, mae'n diwygio'r amserlen ar gyfer trafodaethau o dan erthygl 50, dyna i gyd. Gadewch imi roi cymhariaeth: pe bawn yn gwerthu fy nhŷ heddiw, mae'n debyg y cymerai tan ddiwedd mis Mawrth, ar y cynharaf mae'n debyg, i gwblhau'r broses honno, a thrafodiad cyfreithiol i werthu un tŷ yn unig fyddai hwnnw. Ni allaf weld, felly, sut y mae'r wlad gyfan yn mynd i ailnegodi a chwblhau'r holl drefniadau cyfreithiol cysylltiedig sydd eu hangen ar gyfer gadael erbyn 29 Mawrth. Efallai fy mod yn anghywir, ond i mi, mae synnwyr cyffredin yn dweud wrthyf nad yw'n bosibl.
Ar ôl dweud hynny, nid oes gennyf unrhyw ffydd y bydd y Prif Weinidog, ni waeth faint o amser sydd ganddi, yn cyflawni'r hyn sydd ei angen arnom ar gyfer ein gwlad. Fel y dywedais o'r blaen, nid ymwneud â beth sydd orau i'n gwlad y mae hyn—mae'n ymwneud bellach â dal y blaid Dorïaidd gyda'i gilydd. Byddai gadael i'r cloc dician tuag at Brexit 'dim cytundeb'—[Torri ar draws.]—er mwyn plesio'r DUP a'r Grŵp Diwygio Ewropeaidd yn frad anferthol. Mae'n risg na allwn ganiatáu iddi ddigwydd. Dyna fyddai'r gwaethaf o bob byd, felly rwy'n falch fod mwyafrif o ASau neithiwr wedi dynodi nad Brexit heb gytundeb fydd y canlyniad ar ôl y rownd nesaf o drafodaethau, ond mae'n rhaid inni dorri unrhyw sefylla ddiddatrys sy'n parhau.
Drwy gydol y broses hon, nid wyf wedi cefnogi ail bleidlais neu refferendwm. A minnau'n cynrychioli etholaeth a bleidleisiodd dros adael, teimlwn fod dyletswydd ar Lywodraeth y DU i geisio negodi cytundeb effeithiol ar gyfer gadael. Er ei bod yn dod yn fwyfwy amlwg nad oes fawr o obaith ar hyn o bryd o gael consensws yn San Steffan, yr hyn a fyddai orau gennyf fyddai gofyn am oedi—ymestyn erthygl 50—i weld pa gonsensws a allai fod yn gyraeddadwy o hyd. Ond nid wyf yn dadlau bellach chwaith nad yw'n synhwyrol dweud hefyd y dylai Llywodraeth y DU o leiaf ddechrau paratoi ar gyfer y posibilrwydd o ail bleidlais, oherwydd pe bai'r sefyllfa'n parhau'n ddiddatrys yn San Steffan, ac os na chawn etholiad cyffredinol i helpu i ddatrys y mater, y bobl yn unig a all gael y gair olaf i ddweud a ddylid derbyn y cytundeb terfynol hwn ai peidio, felly byddaf yn pleidleisio dros y cynnig hwn heddiw.