Part of the debate – Senedd Cymru am 7:07 pm ar 30 Ionawr 2019.
A wnewch chi ildio? Mae ychydig ar ei hôl hi ond fe sonioch chi am yr ymchwil ar ddelwedd corff mewn oes ddigidol, ac roeddwn yn meddwl tybed a ellid rhannu hwnnw ag Aelodau'r Cynulliad. Nid wyf yn siŵr pwy a wnaeth hwnnw, ond yn sicr buaswn yn falch o'i rannu gyda'r grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta fel y gallwn weld sut y gallwn gymryd rhan yn hynny yn y dyfodol.