10. Dadl Fer: Newid Lluniau, Niweidio Bywydau

– Senedd Cymru am 6:45 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:45, 30 Ionawr 2019

Mi fyddaf i'n symud i'r eitem nesaf, sef y ddadl fer. Ac os caf i ofyn i Bethan Sayed i gyflwyno'r ddadl fer—Bethan Sayed. 

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 6:46, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, ac rwyf wedi rhoi munud i Jack Sargeant a Lynne Neagle. Roeddwn am gyflwyno'r ddadl hon i archwilio sut—[Torri ar draws.]

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

[Anghlywadwy.]—yn dawel. Mae'n ddrwg gyda fi. Os gall Aelodau fod yn dawel neu adael y Siambr. Bethan Sayed. 

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Roeddwn am gyflwyno'r ddadl i archwilio pa mor driw rydym ni i'n bywydau ein hunain yn y modd y gweithredwn ar-lein, ac a yw yn ein niweidio o gwbl. Nawr, wrth dyfu fyny yng Nghymoedd de Cymru—a chredwch neu beidio, roedd hynny cyn i'r rhyngrwyd ddechrau magu gwraidd—nid oeddwn yn wynebu'r mathau hyn o ddylanwadau ar-lein, ond yn sicr roeddent yno mewn cylchgronau. Ynghanol fy ugeiniau, rhoddais y gorau i brynu llawer o'r cylchgronau ar gyfer menywod am eu bod yn dweud wrthyf o hyd beth y dylwn a beth na ddylwn ei wisgo, sut y dylwn edrych a pha ddeiet y dylwn ei ddilyn, ac achosodd broblemau enfawr i mi gyda gorbryder. Ond wedyn, ni wnaeth hynny helpu go iawn, gan i mi roi'r gorau i brynu cylchgrawn, ond wedyn, yn amlwg, symudodd ein bywydau ar-lein. Felly, trosglwyddodd yr holl fathau hyn o ddeietau a delweddau ar-lein a dechrau fy nilyn at Instagram ac at y cyfryngau cymdeithasol.

Ac felly, roeddwn yn yr un sefyllfa â phan oeddwn yn tyfu fyny a dyna'r sefyllfa rwyf ynddi nawr, eich bod weithiau'n cwestiynu eich hunan-barch a'ch hyder yn eich corff oherwydd y pethau a welwch ar-lein. Ac os wyf fi'n teimlo hynny fel menyw 37 oed, beth y mae ein pobl ifanc sy'n tyfu fyny yn ei deimlo pan gânt eu taro'n gyson gan y delweddau hyn? Maent yn teimlo dan bwysau, yn bryderus, wedi'u hynysu. Efallai nad yw hynny i'w weld o gwbl ar eu hidlyddion Snapchat, wrth gwrs, ond dyna sut y maent yn teimlo go iawn oherwydd byddant yn dweud hyn wrthyf yn ddyddiol.

Nawr, rwy'n gwneud llawer o waith gyda phobl ag anhwylderau bwyta, a dywedodd James Downs, sy'n ymgyrchydd iechyd meddwl gwych a oedd wedi dioddef anhwylder bwyta ei hun, 'Mae'r rhain yn fwy na lluniau. Maent yn dweud wrthym fod edrych mewn ffordd arbennig yn gysylltiedig â llwyddiant, atyniad rhywiol, cyfoeth, harddwch a phoblogrwydd. Nid yw lluniau a negeseuon o'r fath yn hawdd eu diystyru. Cawn ein hannog i feddwl bod yn rhaid inni edrych fel hyn, ac os nad ydym, nid ydym yn ddigon da. Rwyf wedi dioddef o anhwylder bwyta am dros hanner fy oes, a rhan fawr o ddod i delerau â fy nghorff fel y mae oedd dysgu nad yw'r delweddau hyn o berffeithrwydd yn realistig'.

Gellir gweld rhai agweddau ar yr hyn a welwn ar-lein gyda theimlad clir o chwilfrydedd. Nid yw popeth a welwn ar-lein yn cael ei dderbyn fel y mae'n ymddangos nac yn rhywbeth i anelu ato. Ceir rhai tueddiadau ffasiwn a delwedd corff sy'n wirioneddol ryfedd, a safonau harddwch rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod na ddylent eu dilyn o gwbl—y prawf trap bys, er enghraifft. Daeth hwn i enwogrwydd eang ar gyfryngau cymdeithasol Tsieineaidd fel prawf i weld a oedd rhywun yn hardd yn yr ystyr glasurol. Yn syml rhaid i chi roi blaen eich mynegfys ar flaen eich trwyn a'ch gên, ac os yw eich gwefusau'n cyffwrdd â'ch bys, llongyfarchiadau, rydych yn hardd, mae'n debyg. Os na, wel gwae ni oll.

Beth am y 'thighbrow'? Mae'r Kardashians, y Jenners, Amber Rose ac eraill wedi dod yn enwog iawn am eu cyrff yr honnir eu bod yn hardd a siapus. Y 'thighbrow' yw bod gennych linell lle mae croen meddalach yn plygu ar ben uchaf eich clun. Nid wyf am wneud hwn heddiw, gyda llaw. [Chwerthin.] Os yw hynny'n digwydd, mae'n debyg nad ydych yn rhy denau a bydd gennych gorff sy'n lluniaidd yn y mannau cywir, ac rwy'n ystyried hynny'n wirioneddol anhygoel.

Wel, beth am draed Barbie? Y term a fathwyd gan wefan ffasiwn Who What Wear lle bydd menywod, mewn bicinis yn bennaf, yn postio lluniau ohonynt eu hunain yn sefyll ar beli eu traed a phwyntio bysedd eu traed—ac unwaith eto, nid wyf am roi cynnig ar hyn—yn union fel Barbie heb esgidiau. Pam? Wel, gallant ddynwared effeithiau hwyhau a theneuo sodlau. Mae'n debyg nad yw'n ffasiynol gwisgo fflip-fflops i'r traeth.

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 6:50, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Felly, gallwn ysgwyd ein pennau a gwenu ar rywfaint o hyn, ond gwyddom pa mor hawdd yw hi i gael ein tynnu i mewn i hyn a chael ein sugno i mewn i sut y dylem, a sut na ddylem edrych neu ba chwiw y dylem neu na ddylem ei dilyn. Nawr, dewch, faint ohonom sydd wedi teimlo boddhad ar ôl cael nifer penodol o 'likes' neu gadarnhad ar ôl postio hun-lun neu lun proffil newydd ar-lein? Gadewch inni fod yn onest. Weithiau mae'n hollol ddiniwed, ond gall hefyd fod yn arwydd o ddiwylliant niweidiol o ddyhead corfforol afrealistig, sy'n dod yn niweidiol.

Ac nid yn unig ei fod yn niweidiol i fenywod. Os yw dyn yn ymuno â champfa, nid yw'n gyd-ddigwyddiad ei fod yn cael ei dargedu gan hysbysebion ar Facebook neu Instagram yn hysbysebu pob math o ymarfer corff y gellir ei ddychmygu, gan hyrwyddo safonau o harddwch yn aml sy'n llawn cymaint o ffantasi i lawer o ddynion ag y mae'r corff bicini perffaith i fenywod. Mae dynion, dynion ifanc yn enwedig, yn aml o dan bwysau tebyg i edrych mewn ffordd benodol. Dylai dyn gael pen llawn o wallt trwchus, er gwaethaf y ffaith y bydd y mwyafrif helaeth o ddynion yn profi rhyw fath o golli gwallt yn ystod eu hoes, gyda chanran fawr yn colli eu gwallt cyn eu bod yn 40 oed. Gall hyn gael effaith ddifrifol ar ddynion sy'n eu hansefydlogi'n feddyliol, ond mae'n gwbl normal. Dylai dynion gael abs perffaith; lliw haul braf, ond fel menywod, dim gormod; tatŵ ar y fraich, efallai; barf; cyn lleied o flew ar y corff â phosibl, neu os oes blew ar y frest, ei docio a'i gribo, yn y ffordd benodol honno y mae'r cyfryngau cymdeithasol yn ei ganiatáu.

Cyhyrau hefyd—mae obsesiwn dynion gyda chael cyhyrau wedi tyfu'n enfawr diolch i dwf cyfryngau cymdeithasol a sioeau teledu realaeth. Ceir cynnydd sy'n peri pryder yn y defnydd o steroidau, yn enwedig mewn lleoedd fel de Cymru. Yn wir, y llynedd galwodd un arbenigwr y cynnydd cynyddol yn y defnydd o steroidau ymysg dynion yng Nghymru yn fom amser i'r GIG yng Nghymru, a barnai ymhen 20 mlynedd, efallai llai, y byddai meddygon teulu'n gweld cynnydd yn nifer y dynion 40 i 50 oed â hanes o ddefnyddio steroidau gyda phroblemau gyda'r iau, y thyroid a'r arennau neu gyflyrau'r galon.

Ers blynyddoedd, mae menywod a mwyfwy o ddynion wedi troi at driniaethau cosmetig, sy'n aml yn beryglus, i newid rhannau o'u cyrff. Mae rhai wedi dod mor arferol bellach ac yn rhan dderbyniol o'n diwylliant fel nad yw'n cael ei drafod hyd yn oed, na'i gwestiynu nac yn peri inni godi ael os yw menyw'n talu miloedd o bunnoedd am driniaeth o'r fath. Nawr, rwy'n deall ei fod wedi'i normaleiddio, ac wrth gwrs, caiff y mwyafrif helaeth o'r llawdriniaethau eu gwneud mewn modd diogel. Ond gadewch i ni ofyn pam y mae llawer o bobl yn cael y llawdriniaethau hyn yn y lle cyntaf. Mae llawer o enwogion wedi cael llawdriniaethau o'r fath ac yna'n eu gwrthdroi yn nes ymlaen pan fyddant yn sylweddoli eu bod yn niweidio'u cyrff. Credaf fod ehangder y broblem hon, wedi'i hannog a'i chwyddo ar-lein yn anodd ei anwybyddu. Mae wedi dod yn rhan dreiddiol o'n bywydau bob dydd, pa un a ydym yn sylweddoli hynny ai peidio weithiau, a hyd yn oed os ydym yn sylweddoli beth sy'n digwydd, a yw hynny yn ein hatal rhag cael ein dylanwadu ganddo?

Yn 2016, adroddodd y Dove Global Beauty and Confidence Campaign ei bod hi'n adeg eithafol o ddrwg o ran delwedd corff a hyder. Teimlai mwy o fenywod nag erioed o'r blaen yn ddihyder neu nad oeddent yn hoffi eu cyrff. Canfu yn y DU nad oedd ond 20 y cant â hyder yn y ffordd roeddent yn edrych. Yn Awstralia, canfuwyd bod y ffigur syfrdanol o 89 y cant o fenywod wedi cyfaddef eu bod wedi canslo cynlluniau, trefniadau a hyd yn oed cyfweliadau ar gyfer swyddi oherwydd pryderon ynglŷn â sut roeddent yn edrych. Nawr, nid cyfres haniaethol o ystadegau yw hon. Mae iddi ganlyniadau mewn bywyd go iawn. Pan fydd pobl yn cael eu boddi gan hysbysebion, delweddau, dylanwadwyr, erthyglau dyddiol sy'n ceisio dweud wrthynt mewn ffordd amlwg neu lai amlwg nad ydynt yn ddigon da ac y bydd eu hyder yn gwella os byddant yn newid, neu'n gweithio i newid agweddau ar eu hymddangosiad, yna bydd hynny, yn naturiol, yn gadael ei ôl ar ein hiechyd meddwl.

Ceir effaith hefyd ar sut y mae rhai pobl, yn enwedig pobl iau a phlant, yn ymateb i eraill. Mae Ymddiriedolaeth Nuffield wedi dweud bod 55 y cant o ferched ym mis Chwefror 2018 wedi cael eu bwlio ynglŷn â'u hymddangosiad, ac er bod yr effaith yn croesi'r llinellau rhwng y rhywiau, mae'n amlwg fod merched yn cael eu heffeithio'n fwy na bechgyn, gan niweidio eu hiechyd meddwl mewn modd digynsail. Adroddodd Childline fod 2,000 o ferched wedi cael sesiynau cwnsela ar ddelwedd y corff. Dyna ran fach iawn mae'n debyg o'r hyn sydd ei angen, yn anffodus, a dyna pam yr ymgyrchais yn y gorffennol dros gael gwersi llesiant a hyder yn ein hysgolion er mwyn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn mewn bywyd go iawn.

Ond mae'n ymwneud â mwy na'r ffordd rydym yn edrych. Gall ein bywydau ar-lein fod yn wahanol iawn i realaeth ein bywydau. Gall dylanwadwyr ar-lein annog pobl o unrhyw oedran i ddilyn patrymau neu ymgyrraedd at bethau sydd weithiau'n afrealistig. Gwyddom yn rhy dda fel gwleidyddion sut y gall dylanwadwyr ar-lein ystumio'r gwir. Gadewch inni fod yn onest: faint ohonom sydd wedi cael sgyrsiau ar-lein gyda phobl sy'n credu mewn pethau neu sy'n cyfeirio at ddeunydd ar-lein y gwyddom ei fod yn gwbl ffug? Rwyf wedi siarad am y cynnydd mewn newyddion ffug yma cyn hyn, a'r hyn a allai fod yn syndod yw bod y rhan fwyaf o newyddion ffug, erthyglau ffug a lluniau ffug yn cael eu rhannu gan bobl hŷn. Mae gennym argyfwng cynyddol, sy'n cael ei fwydo ar-lein, o ddynion yn ymuno â grwpiau ac ystafelloedd sgwrsio adain dde, lle caiff rhethreg a newyddion ffug gwrth-fenywod, hiliol a threisgar eu rhannu a'u hannog. Caiff geiriau fel 'cuck' eu taflu o gwmpas i gyfeirio at ddynion sy'n credu nad ydynt yn cyrraedd safonau traddodiadol o wrywdod. Mae dylanwadwyr ar-lein sy'n ymateb yn erbyn rolau rhywedd newidiol neu golli rolau traddodiadol yn bwydo'r hyn a alwn bellach yn 'wrywdod tocsig'. Mae delweddau ac iaith ac erthyglau sy'n eich denu i glicio arnynt ar-lein yn bwydo brwydrau rhwng cenedlaethau, gyda thermau fel 'snowflake' a 'gammon' yn cael eu taflu yn ôl ac ymlaen.

Mae delweddau cyson o fath arbennig o ffordd o fyw ddelfrydol yn peri i deuluoedd fynd i ddyled. Mae pawb ohonom wedi gweld y delweddau ar Facebook o bobl yn rhoi anrhegion Nadolig mewn rhes i ddangos faint y maent wedi'i wario ar Joni bach y Nadolig hwn a sut y mae rhai pobl yn teimlo o dan bwysau pan fyddant yn gweld y lluniau hynny. Yn ddiweddar, cyflawnodd merch 14 oed hunanladdiad ar Facebook Live, a oedd yn enghraifft fwy trist na'r un o'r ffordd y gall bod ar-lein effeithio arnom i gyd.

Mae angen sgwrs yn y gymdeithas drwyddi draw ynglŷn ag effaith cyfryngau cymdeithasol ar ein bywydau. Wrth gwrs, dylem gydnabod yr effeithiau cadarnhaol, yr ymdeimlad o gymuned a gawn weithiau wrth gael sgyrsiau gwleidyddol a chreu cynghreiriau newydd; ni fyddem wedi gallu eu cael o'r blaen. Ond hefyd, mae wedi ein gwneud yn fwy toredig fel cymdeithas, yn fwy unig ac wedi'n difreinio i raddau mwy mewn sawl rhan o'n bywydau, yn enwedig mewn perthynas ag iechyd meddwl. Felly, sut y gallwn wneud hyn heb fynd i bregethu wrth eraill? Oherwydd, wrth gwrs, rydym yn treulio llawer o'n hamser ar-lein, a buaswn yn dweud bod angen inni geisio mynd all-lein yn amlach a rhyngweithio yn fwy real. Aeth llawer ohonom i angladd Steffan Lewis yr wythnos diwethaf, a'r hyn rwyf wedi'i ddweud wrthyf fy hun ers iddo farw yw, 'Wyddoch chi beth? Rhaid inni gael y rhyngweithio byw go iawn hwnnw. Rhaid inni dreulio mwy o amser gyda'r bobl sy'n ein caru fel nad ydym yn gadael i'r atgofion basio heibio yn yr amser sydd gennym, ond caniatáu i ni ein hunain ryngweithio'n gadarnhaol â phobl i ni gael trysori'r profiadau am byth, yn hytrach na boddi mewn sgyrsiau ar-lein a fydd yn mynd â ni i le tywyll iawn weithiau, i le negyddol na allwn ddod allan ohono.'

A oes angen inni reoleiddio mwy ar y rhyngrwyd? Dyna'r cwestiwn oesol. A oes angen inni atal pobl rhag doctora delweddau? A oes angen inni reoleiddio Facebooks a Googles y byd hwn? Buaswn yn dweud 'oes', oherwydd bod ganddynt gyfrifoldeb cymdeithasol. A gall dewis ddod i mewn i'r peth; gallwn ddewis peidio â mynd ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae'r hysbysebion yn ein dilyn i ble bynnag yr awn. A dyna realiti'r bywydau rydym yn eu byw.

Rwyf am orffen â cherdd y deuthum ar ei thraws ar-lein, ar Pinterest, a cheisiaf dreulio llai o amser ar-lein a gwneud y pethau rwy'n eu pregethu heddiw oherwydd fy mod eisiau bod yn driw i mi fy hun yn yr hyn rwy'n ei ddweud, ond credaf fod y gerdd hon yn un dda i orffen arni.

'Nid wyf am i fy nghorff fod yn ddifrycheuyn / yn ddi-dor a difefl / rwyf am iddo fod wedi torri mewn mannau / i fod â chreithiau a straeon bach / wedi'u gweu i'w dapestri / marciau sy'n dweud sut y mae wedi ymestyn / a phlygu a chracio ar agor / i adael goleuni'r byd / yr holl ffordd i mewn... / Nid wyf am edrych yn berffaith / hoffwn edrych fel pe bawn i wedi byw.'

Felly, credaf fod honno'n neges i bawb ohonom, ac os gallwn fynd yn ôl i'n cymunedau a chael y mathau hyn o drafodaethau gyda'n hetholwyr a gydag aelodau o'n teuluoedd, boed ar-lein ai peidio, yna rwy'n gobeithio y byddwn yn creu cymuned ar-lein sy'n well ac yn fwy cadarnhaol yma yng Nghymru.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 6:59, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i fy ffrind Bethan Sayed am gyflwyno'r ddadl fer hon a chaniatáu imi ddilyn yr araith agoriadol wych honno? Nid oes gennyf gerdd, ond rwy'n croesawu'r cyfle i rannu fy meddyliau. Mae'r holl faterion y soniodd Bethan amdanynt yn costio bywydau mewn gwirionedd. Maent yn achosi torcalon a gofid i bobl ag anhwylderau bwyta a mathau eraill o salwch iechyd meddwl a'u teuluoedd yn ogystal. Ac yn y pen draw, mae'n costio mwy i'r GIG oherwydd y cynnydd yn y gwariant pan fydd rhywun yn cyrraedd pwynt o argyfwng.

Rydych yn llygad eich lle, rydym yn mynd â'r cyfryngau cymdeithasol adref gyda ni—yn fwy felly nag erioed o'r blaen. A chredaf ein bod fel gwleidyddion yn gwybod hynny'n rhy aml gyda throliau, ond nid troliau'n unig sydd allan yno. Efallai na fydd rhai ohonynt yn ei feddwl, ond ceir delweddau allan yno, ceir hysbysebion sy'n portreadu'r pethau anghywir mewn bywyd o bosibl. Ond rydych yn iawn, oherwydd oes, mae gennym Snapchat ac rydym yn rhoi hidlydd ar ein Snapchat, ein hun-luniau neu ein post Instagram, ond a yw hynny'n ei wneud yn iawn? Nid wyf yn meddwl ei fod, a dyna'r cwestiwn y dylai pawb ohonom ei ofyn i ni ein hunain. Felly, diolch, Bethan, am ddod â hyn gerbron heddiw oherwydd mae angen i bawb ohonom yn y Siambr fod yn gweithio'n galetach ar y mater hwn.

Ond rwy'n credu ei bod hi'n werth myfyrio am eiliad am y cynnwys arall sydd ar gael ar-lein ac ystyried hunanladdiad y ferch 14 mlwydd oed heb fod yn hir yn ôl. Ac rwy'n meddwl am ei theulu a theuluoedd arall mewn sefyllfa debyg, fel y mae'r Aelodau eraill yn y Siambr hyn yn ei wneud. Nawr, roedd hynny'n dangos i mi fod yna blant allan yno, mae yna bobl ifanc allan yno, sy'n gallu cael gafael yn hawdd iawn ar negeseuon ar-lein sy'n hyrwyddo hunanladdiad ac iechyd gwael. Mae hynny'n gwbl annerbyniol, a chredaf fod angen inni edrych ar reoleiddio gwahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Rwyf am orffen ar un pwynt olaf, a dod yn ôl at anhwylderau bwyta, ac rwy'n croesawu cyfle i gyfarfod yn y misoedd nesaf â'r ymgyrchydd Hope Virgo sy'n ymgyrchydd da iawn ar y materion hyn. Rwy'n croesawu'r cyfle hwnnw, a gwn y byddaf yn cyfarfod â hi gyda Bethan yn ogystal. Felly, un adduned olaf i'r Aelodau yn y Siambr ac ar draws y pleidiau, os gwelwch yn dda cefnogwch ac ewch i edrych ar ymgyrch Dump the Scales Hope. Roedd ganddi hithau hefyd broblemau anhwylder bwyta tebyg yn ystod ei bywyd ac mae'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r stigma sy'n sail iddynt ac iechyd meddwl yn gyffredinol. Felly, da iawn, Bethan, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ac at herio'r Llywodraeth ar y mater hwn.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 7:01, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Roeddwn eisiau diolch i Bethan am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn. Yn ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i iechyd emosiynol a meddyliol pobl ifanc y llynedd, roedd y cyfryngau cymdeithasol yn thema gyson a godai ei phen, ac fel rydych chi eisoes wedi amlygu, rydym wedi ein cysylltu fwy nag erioed o'r blaen. Ond mewn gwirionedd, credaf ein bod yn fwy ynysig mewn llawer o ffyrdd nag erioed o'r blaen. Mae rhai o'r storïau a glywsom—ac fe gyfeiriodd y ddau ohonoch, rwy'n credu, at Molly Russell a fu farw drwy hunanladdiad o ganlyniad i ddelweddau ar y cyfryngau cymdeithasol—yn tynnu sylw at ba mor ddrwg y gall pethau fynd, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi mesurau ar lefel y DU i reoleiddio rhai o'r cwmnïau hyn. Ond credaf hefyd ei bod hi'n hanfodol ein bod yn gwneud yr hyn a allwn yng Nghymru, drwy ein cwricwlwm newydd, i wneud plant a phobl ifanc yn fwy gwydn, ond hefyd i fanteisio ar y cyfleoedd y mae'r cyfryngau cymdeithasol yn eu darparu i helpu pobl ifanc i siarad â'i gilydd mewn ffyrdd cadarnhaol ac adeiladol. Credaf y gallwn newid y sefyllfa hon ac rwy'n gobeithio bod gennym ewyllys wleidyddol i wneud hynny. Felly, diolch i chi, Bethan.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 7:03, 30 Ionawr 2019

Diolch yn fawr, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Bethan Sayed am gyflwyno'r ddadl fer hon ar bwnc mor bwysig heddiw ac am wneud hynny mewn ffordd mor ysgogol a diddorol, ond hefyd gan wneud cyfiawnder gwirioneddol â difrifoldeb y mater. Credaf fod hynny i'w deimlo hefyd yng nghyfraniadau Jack a Lynne yn ogystal.

Mae'r rhyngrwyd yn arf rhyfeddol. Mewn mater o eiliadau, gallwn fod yn chwilio am y rhyfedd a'r rhyfeddol yn ogystal â'r cyffredin. Gallwn fod yn siopa ar-lein, yn gwylio'r cyfresi bocs diweddaraf, yn chwarae Minecraft gyda rhywun ar gyfandir gwahanol, neu'n cymharu eich barn ar yr albwm canu gwlad diweddaraf—a dyna sut rwy'n treulio fy amser sbâr—ond gan gael y newyddion diweddaraf hefyd a siarad â theulu a ffrindiau yn ogystal. Ceir mynediad at lawer o'r bywyd modern drwy'r rhyngrwyd. Mae'n anodd cofio weithiau sut y byddem yn ymdopi o'r blaen, ac mae'n eithaf rhyfedd meddwl am blant a phobl ifanc heddiw—y ffaith nad ydynt wedi adnabod byd heb y rhyngrwyd. Iddynt hwy yn arbennig, bydd sgiliau digidol mor bwysig o ran eu gwytnwch mewn bywyd, ond hefyd o ran sut y maent yn camu ymlaen yn eu haddysg ac yn eu gwaith.

Mewn sawl ffordd, pobl ifanc sy'n arwain y ffordd, a gwn o brofiad mai pobl ifanc sydd yn y sefyllfa orau i ddweud wrthym am yr ap diweddaraf neu'r llwyfan cyfryngau cymdeithasol diweddaraf a sut i'w ddefnyddio yn y ffordd orau. Ond wrth gwrs, ymysg yr holl fanteision hyn, ceir cost wirioneddol, ac rydym wedi clywed am yr ochr dywyll i'r rhyngrwyd. Mae seiberfwlio, meithrin perthynas amhriodol ar-lein a stelcio oll yn faterion sydd wedi dod yn rhy gyfarwydd o lawer. Rhaid inni amddiffyn plant a phobl ifanc ac oedolion yn wir, fel y clywsom, rhag peryglon y rhyngrwyd. Fodd bynnag, nid yw gwahardd pobl o fyd ar-lein yn briodol nac yn ddymunol. Yn hytrach, rhaid i ni roi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i bobl allu meddwl yn feirniadol a llywio'u ffordd drwy'r byd digidol mewn modd diogel, cyfrifol a pharchus. Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer diogelwch ar-lein. Lansiwyd y cynllun yn swyddogol gan fy nghyd-Aelod Kirsty Williams yn Ysgol Gyfun Porthcawl ar 14 Tachwedd, ac mae'n darparu ffocws ar gyfer ein gwaith diogelwch ar-lein. Gan adeiladu ar ein rhaglen bresennol, mae'n darparu gweledigaeth strategol ar gyfer y gwaith a wnawn ar wella diogelwch ar-lein yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel. A chefnogir hyn gan y parth diogelwch ar-lein, ar Hwb, sef man pwrpasol ar gyfer cefnogi athrawon, teuluoedd a dysgwyr yn y maes hollbwysig hwn.

Ond wrth gwrs, nid diogelwch ar-lein yw'r unig fater sy'n codi, fel y clywsom—mae delwedd corff a chywilyddio corfforol, canfyddiadau wedi'u hystumio a achosir gan hidlyddion a Photoshop oll yn achosi problemau go iawn i bobl heddiw. Bob dydd wynebwn negeseuon sy'n dweud wrthym nad ydym yn ddigon da. Gwelwn gymaint o ddelweddau o bobl sydd i'w gweld yn berffaith, ac nid ydym yn gweld yr haenau o ffilteri neu'r delweddau niferus a ddilëwyd cyn hynny. Ceir corff cynyddol o dystiolaeth sy'n dangos y niwed y mae hyn yn ei achosi, yn enwedig i bobl ifanc. Felly, dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi cyhoeddi adnoddau addysgol yn edrych ar ddelwedd corff a hunan-barch yn y byd digidol. Y nod yw annog trafodaeth am effaith y rhyngrwyd ar ddelwedd corff a hunan-barch. Rydym yn gobeithio dangos i blant a phobl ifanc sut y gallant ddatblygu ymdeimlad cadarnhaol ohonynt eu hunain yn y byd yn lle hynny a thrwy gymryd rheolaeth a datblygu gwytnwch.

Ceir agweddau eraill hefyd ar fywyd ar-lein a all fod yn niweidiol. Efallai y bydd gennym filoedd o ddilynwyr ar Twitter neu Instagram ond ychydig iawn o ffrindiau go iawn. Drwy'r cyfryngau cymdeithasol, rydym yn fwy cysylltiedig nag y buom erioed o'r blaen a gall hyn greu manteision cadarnhaol—gall pobl chwilio am grwpiau cymorth, dod o hyd i fasnachwyr lleol a gweithgareddau lleol i'w gwneud. Fodd bynnag, mae ochr fwy negyddol i'r cysylltedd hwn, fel y soniodd Lynne Neagle, oherwydd gall byw ein bywydau ar-lein arwain at unigrwydd gwirioneddol ac arwahanrwydd cymdeithasol, a gall hynny gael effaith niweidiol ar ein lles meddyliol a chorfforol.

Gwyddom nad canlyniad gofal iechyd da yn unig yw iechyd da, a bod gan faterion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol bob un ran arwyddocaol i'w chwarae yn ein hiechyd a'n lles hirdymor. Felly, rydym wedi cyhoeddi adnoddau ar iechyd meddwl a'r rhyngrwyd. Mae'r rhain yn ceisio ysgogi sgyrsiau yn yr ystafell ddosbarth am effeithiau cadarnhaol a negyddol y rhyngrwyd, ac rydym wedi cydweithio â Childnet i ddatblygu Ymddiried ynof fi Cymru. Datblygwyd yr adnodd i helpu athrawon cynradd ac uwchradd i addysgu plant i werthuso'n feirniadol y wybodaeth y dônt o hyd iddi ar-lein, gan gynnwys deunydd a allai geisio dylanwadu'n fwriadol ar eu barn.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 7:07, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi ildio? Mae ychydig  ar ei hôl hi ond fe sonioch chi am yr ymchwil ar ddelwedd corff mewn oes ddigidol, ac roeddwn yn meddwl tybed a ellid rhannu hwnnw ag Aelodau'r Cynulliad. Nid wyf yn siŵr pwy a wnaeth hwnnw, ond yn sicr buaswn yn falch o'i rannu gyda'r grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta fel y gallwn weld sut y gallwn gymryd rhan yn hynny yn y dyfodol.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 7:08, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, buaswn yn hapus i ysgrifennu atoch gyda mwy o wybodaeth am yr ymchwil y cyfeiriais ato.

Felly, mae'r adnoddau roeddwn yn sôn amdanynt yn ychwanegu at adnoddau cynyddol ar y parth diogelwch ar-lein, ac anogir ysgolion ledled Cymru i ddefnyddio'r deunyddiau hynny. A'r wythnos nesaf, wrth gwrs, ar 5 Chwefror, byddwn yn ymuno yn y dathliad byd-eang i gydnabod Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, fel cefnogwyr swyddogol. Mae'r thema eleni yn bwysig iawn: 'gwella'r we gyda'n gilydd'.

Fodd bynnag, nid yw ein gwaith yn gyfyngedig i adnoddau am y byd ar-lein yn benodol. I bobl ifanc, mae'r byd ar-lein a'u byd all-lein yn aml yn plethu mor dynn yn ei gilydd fel y gallant deimlo fel pe baent yn un peth. Mae angen inni helpu pobl ifanc i ragori ym mhob agwedd ar fywyd fel eu bod yn tyfu'n oedolion sy'n unigolion iach a hyderus. Dylai addysg annog a chynorthwyo pobl ifanc i barchu eu hunain ac eraill, i werthfawrogi amrywiaeth a rhoi gallu iddynt feithrin perthnasoedd iach a llawn parch. Mae'r cwricwlwm newydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu yn rhoi'r egwyddorion hynny wrth wraidd dysgu. Mae angen inni gofio, fodd bynnag, y gall y byd ar-lein ddwyn llawer o fanteision yn ei sgil ac nad yw rhai pobl yn cael y cyfleoedd hynny. Mae mynd i'r afael ag allgáu digidol yn hanfodol os ydym am greu cymdeithas gyfartal, lle mae gan bawb yr un cyfle i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus ar-lein, a lle mae gan bawb yr un cyfle i ddod o hyd i waith, i ddysgu ac i arbed arian drwy brynu gwasanaethau a nwyddau rhatach ar-lein. Felly, mewn un ffordd neu'r llall, mae'r rhyngrwyd yma i aros. Gall effeithio ar bron bob agwedd ar ein bywydau bob dydd, felly rhaid inni wneud popeth a allwn i wneud yn siŵr ei fod yn lle diogel sy'n parchu pawb.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 7:09, 30 Ionawr 2019

Diolch yn fawr, a daw hynny â thrafodoion heddiw i ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:10.