Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 30 Ionawr 2019.
Diolch am godi hynny. Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae arnaf ofn nad oes cyllid ar gael i ni ymgymryd â gwaith y dylai Llywodraeth y DU fod yn ei wneud. Mae gan Lywodraeth y DU raglen drawsnewid rhwydwaith gwerth £2 biliwn i foderneiddio'r swyddfeydd post hynny. Mae'n debyg iawn i'r hyn a wnaethom o'r blaen drwy'r gronfa arallgyfeirio. Gall swyddfeydd post yng Nghymru wneud cais i'r gronfa honno, ac yn sicr, buaswn yn eu hannog i wneud hynny.