Dyraniadau'r Gyllideb i'r Portffolio Tai a Llywodraeth Leol

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:54, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Yn ystod y mis diwethaf, rydym wedi colli tair cangen banc yn y Rhondda. Cyhoeddodd Barclays eu bod yn cau eu canghennau yn Nhonypandy a Glynrhedynog, ac yn fwy diweddar, mae Santander wedi cyhoeddi y byddant yn cau eu cangen yn Nhonypandy hefyd. Golyga hyn nad oes unrhyw gangen banc yn y Rhondda Fach bellach. Nawr, mae'n amlwg i mi, yn sgil y rhaglen ddidrugaredd hon gan y banciau corfforaethol i gau canghennau, y bydd swyddfeydd post yn mabwysiadu lefel uwch o bwysigrwydd. Yn y gorffennol, roedd gennym y gronfa arallgyfeirio swyddfeydd post. Roedd honno'n elfen allweddol o Lywodraeth Cymru'n Un Plaid Cymru-Llafur a oedd yn dyfarnu grantiau i swyddfeydd post i wneud y busnesau hynny'n fwy cynaliadwy. Pe gallem amddiffyn a chryfhau rhwydwaith y swyddfeydd post, gallai hynny sicrhau nad yw cysylltiad pobl a chymunedau â gwasanaethau ariannol yn cael ei dorri'n llwyr. Felly, yng ngoleuni hyn, a wnewch chi ystyried rhyddhau arian i ailgychwyn cronfa o'r fath?