Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:49, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n flin gennyf fy mod wedi camddeall cymhlethdodau'r broses o newid portffolios o fewn y gweinyddiaethau yn ogystal â rhyngddynt, ond mae codiadau yn y dreth gyngor yn arwain at feichiau anferthol ar unigolion, ac yn wir, ar fusnesau. Mae'r band cyfartalog ar gyfer y dreth gyngor wedi mwy na threblu yng Nghymru ers 1997 ac wedi cynyddu ddwywaith a hanner ers creu'r Cynulliad. Mae hyd yn oed cyn-brif swyddog gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Steve Thomas, wedi dweud:

Y gwir amdani yw bod y fformiwla fel y mae ar hyn o bryd wedi'i dal at ei gilydd gan dâp gludiog a phlasteri ac na all barhau. Mae angen inni gael adolygiad brys o gyllid awdurdodau lleol ac ailystyried y cysylltiad rhwng rhagfynegiadau Llywodraeth Cymru o angen awdurdodau lleol a chyfraddau'r dreth gyngor dros y blynyddoedd blaenorol, a ymgorfforir yn y fformiwla. Fel y Gweinidog cyllid, wrth gwrs, mae'n rhaid bod y Gweinidog yn elfen ganolog mewn unrhyw newid a allai ddigwydd yn y dyfodol. Felly, hoffwn gael rhyw syniad i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn yn flaenoriaeth. Nid yw'n rhywbeth y gellir ei ateb dros nos, ac efallai y bydd yn cymryd sawl blwyddyn i sicrhau newid ystyrlon. Felly, a ydym am weld unrhyw symud tuag at wneud rhyw fath o ddiwygio yn ystod tymor y Cynulliad hwn?