Ystadegau Gwladol ynghylch Gamblo Cymhellol

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:15, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am godi'r mater hwn, ac am dynnu sylw hefyd at yr hyn a nodwyd gan y prif swyddog meddygol yn ei adroddiad, fod y niwed a achosir gan hapchwarae yn anghyfartal iawn o ran ei ddosbarthiad, a bod pobl sy'n economaidd anweithgar, er enghraifft, ac yn byw mewn ardaloedd difreintiedig yn llawer mwy tebygol o ddioddef niwed o ganlyniad i hapchwarae. Byddaf yn sicr o roi ystyriaeth bellach i'r awgrym a wnaethoch heddiw.