Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 30 Ionawr 2019.
Croesawaf y gwaith sy'n mynd rhagddo i wella argaeledd data ar gamblo cymhellol. Mae'n fater y mae angen inni gymryd camau mwy pendant i fynd i'r afael ag ef. O ran rhai o'r camau eraill y gallech eu cymryd, tybed a allwch ddweud wrthym a roddwyd unrhyw ystyriaeth i'r defnydd o ardrethi busnes fel cyfle i leihau effaith, os mynnwch, y nifer cronnol o siopau sy'n ymddangos ar y stryd fawr leol mewn rhai cymunedau ledled Cymru. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi mynegi'r pryderon hyn yn y Siambr hon yn y gorffennol, ynglŷn â'r ffaith bod rhai cymunedau, yn enwedig cymunedau difreintiedig yng Nghymru, i'w gweld yn cael eu targedu gan gwmnïau gamblo diegwyddor â gormodedd o siopau betio. A oes unrhyw beth y gallwch ei wneud i gynyddu ardrethi busnes mewn ffordd gosbedigol er mwyn lleihau effaith bosibl siopau o'r fath ar y cymunedau hynny?