Datblygu Mesurau Trethiant

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:00, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

A fyddech yn cytuno, Weinidog, fod yn rhaid i bolisi Llywodraeth Cymru o ran cyfraddau treth incwm Cymru gynnwys ymrwymiad i ddarparu canllawiau cynhwysfawr a hygyrch i drethdalwyr Cymru, ac a allwch gadarnhau y bydd canllawiau'n cael eu darparu ar wefannau megis rhai Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru?

A fy mhwynt arall, Weinidog: os yw pobl sy'n byw yn ne-ddwyrain Cymru yn gweithio dros y ffin—gwyddom fod un unigolyn yn y Siambr hon yn byw yn Lloegr ac maent yma yn y rhan hon o'r byd—felly os oes gwahaniaeth mewn trethi rhwng y ddau ranbarth, y ddwy wlad, lle mae'r budd ar gyfer y dreth? A fydd modd iddo ef neu hi wneud cais a mynd am eu man preswylio yn hytrach na lle maent yn ennill yr arian?