Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 30 Ionawr 2019.
Gallaf gadarnhau y bydd y rhan fwyaf o bobl yn talu trethi yn eu man preswylio. Fodd bynnag, mae eithriad yn y rheolau sy'n golygu y bydd holl Aelodau'r Cynulliad yn talu cyfraddau treth incwm Cymru ni waeth ble maent yn byw. Byddaf yn cadarnhau y bydd rhaglen gyfathrebiadau gynhwysfawr ar waith i sicrhau bod pobl yn gwbl ymwybodol o gyfraddau treth incwm Cymru a beth y gallai hynny ei olygu iddynt hwy, ac yn amlwg, i allu cael atebion i unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.