Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 30 Ionawr 2019.
Felly, dwi'n cymryd o hynny y byddwch chi yn dileu'r cymal sydd yn y Papur Gwyn, a hynny ar fyrder. Dŷch chi wedi cadarnhau bod trochi i'w ddatblygu ac i'w barhau. Felly, y cam hollol naturiol ydy tynnu'r cymal yna, cael gwared ar yr holl drafodaeth sydd yn digwydd, achos mae'r drafodaeth yn ddiangen. Felly, does dim angen iddo fo fod yn y Papur Gwyn.
Ond, yn ogystal â'r angen i ddatblygu addysg drochi, mae normaleiddio'r Gymraeg yn y system addysg drwyddi draw yn gwbl allweddol i gyrraedd y filiwn, gan gynnwys cynyddu dysgu cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Ac yn 2013, fe ddatganodd adroddiad yr Athro Sioned Davies bod angen newidiadau brys i sut mae'r Gymraeg yn cael ei haddysgu. Fe argymhellodd Sioned Davies bod angen dileu Cymraeg ail iaith erbyn 2018, a chyflwyno un continwwm dysgu, ac fe ddywedodd cyn-Weinidog y Gymraeg, Alun Davies, wrthyf i, yn y fan hon:
'Mi fydd y cymhwyster Cymraeg ail iaith yn cael ei ddisodli..yn 2021'.
Yn amlwg, mae'r amserlen wedi llithro, ond dwi yn croesawu'r cyhoeddiad y bydd yna un continwwm dysgu Cymraeg o 2022 ymlaen, a bod hynny'n arwydd o gynnydd o'r diwedd, ac felly, yn rhywbeth i'w groesawu.
Yr hyn sydd angen rŵan ydy cadarnhad ynglŷn â'r amserlen, ac ymrwymiad i gyhoeddi cymhwyster enghreifftiol er mwyn hwyluso'r paratoi yn yr ysgolion. Felly, a fedrwch chi ymrwymo heddiw i weithio efo'r Gweinidog Addysg ar amserlen glir ar gyfer cyhoeddi cymhwyster cyfunol enghreifftiol ar gyfer yr iaith Gymraeg?