Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 30 Ionawr 2019.
Dwi ddim yn siŵr os oeddwn i wedi ei wneud e'n ddigon clir yn fy ateb cyntaf i, ond dwi yn meddwl bod yn rhaid i fi danlinellu does yna ddim newid o ran y polisi pan mae'n dod i drochi. Mae yna ymwybyddiaeth. Rŷn ni wedi bod yn gwneud hyn ar hyd y blynyddoedd. Mae gyda ni hanes mae pobl yn copïo drwy'r byd i gyd o ran pa mor effeithiol yw'r system yna o drochi. Dyw hynny ddim yn mynd i newid yn y dyfodol. Felly, dwi eisiau ichi fod yn hollol glir mai dyna yw'r sefyllfa, nid jest am nawr, ond ar gyfer y dyfodol hefyd.
Mae'n rhaid i fi hefyd danlinellu bod e werth gweld, yn y cwricwlwm newydd, fod y targed yna o gyrraedd miliwn o siaradwyr ddim jest ar gyfer pobl sy'n mynd trwy addysg cyfrwng Cymraeg, ond ar gyfer cenedlaethau'n gyfan—y plant ysgol i gyd sydd yn mynd drwy'r system. Felly, mae pob un yn mynd i elwa. Ond, wrth gwrs, o ran y system drochi, mae honna'n mynd i fod yn wahanol i'r rheini.