Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 30 Ionawr 2019.
Diolch yn fawr. Byddwch chi’n ymwybodol nawr o ran addysg Gymraeg fod hynny wedi mynd i bortffolio’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros addysg, ond dwi yn meddwl ei bod yn werth i ni danlinellu’r ffaith ein bod ni’n deall bod trochi cyfrwng Cymraeg yn hanfodol o ran gwireddu ein gweledigaeth ni ar gyfer 1 miliwn o siaradwyr. Rwyf wedi cael fy sicrhau gan y Gweinidog Addysg y bydd y trefniadau trochi Cymraeg presennol, y rhai sy’n cael eu darparu gan y Mudiad Meithrin, er enghraifft, yn parhau heb eu newid fel rhan o’r cwricwlwm newydd yma.