Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 30 Ionawr 2019.
Wel, y cwestiwn mawr sy’n codi o beth rydych chi newydd ei ddweud ydy: beth sy’n mynd i ddigwydd i’r dyfodol? Beth am y cenedlaethau nesaf o blant sydd yn dod ymlaen? A fyddan nhw hefyd yn parhau i gael eu trochi? Mae’ch strategaeth chi—a’ch strategaeth chi fel Gweinidog y Gymraeg ydy hon o hyd, dwi’n cymryd, y strategaeth 1 miliwn o siaradwyr—yn dweud yn hollol ddiamwys mai addysg drochi cyfrwng Cymraeg yw’r prif ddull ar gyfer sicrhau bod plant yn gallu datblygu eu sgiliau Cymraeg ac ar gyfer creu siaradwyr newydd. Yn wir, mae’r dystiolaeth ryngwladol a phwyslais Donaldson ei hun yn cadarnhau hynny. Dwi wedi clywed chi’n sôn droeon eich bod chi yn disgwyl i bob adran o fewn Llywodraeth Cymru fod yn ystyried y Gymraeg a’r strategaeth 1 miliwn o siaradwyr ym mhob datblygiad polisi ac ym mhob elfen o’u gwaith. Ac, o ystyried bod cynnig y Llywodraeth yn bygwth y drefn hynod effeithiol sy'n bodoli ar hyn o bryd o ran addysg drochi, ac yn mynd yn gwbl groes i un o gonglfeini eich strategaeth iaith, mi fuaswn i yn licio gwybod faint o gyfathrebu fu rhyngoch chi a’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wrth ddatblygu’r cynnig hwn. A fedrwch chi ddweud wrthym ni hefyd beth ydy’r dystiolaeth y mae’r adran addysg yn ei ddefnyddio i hyrwyddo’r cynnig yma?