Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:45, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Iawn. Credaf fod hynny'n synhwyrol oherwydd, weithiau, gallwch glywed honiadau fod y digwyddiadau hyn yn arwain at seilwaith enfawr a chyfranogiad enfawr mewn chwaraeon yn nes ymlaen. Cawsom yr honiadau hyperbolig hyn am Gemau Olympaidd Llundain yn 2012, ac nid ydynt bob amser yn arwain at y canlyniadau hynny. Felly, yn sicr, byddem yn ddoeth i ystyried y pethau hyn yn ofalus.

Gan edrych ar ddigwyddiad posibl arall—os gallwch wneud sylwadau am fanylion hyn—cawsom rownd derfynol lwyddiannus iawn Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd. Mae hwnnw'n un sydd, wrth gwrs, yn canolbwyntio ar—cwestiwn sy'n canolbwyntio ar Gaerdydd. Roedd hynny yn 2017. Nawr, roedd hwnnw'n ddigwyddiad da ac roedd yn enghraifft o lobïo da, ond dylid nodi ein bod heb gael unrhyw ran yn cyd-gynnal y pencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd yn 2020. Mae posibilrwydd y gallai Cymru gyd-gynnal pencampwriaethau Ewropeaidd yn y dyfodol gan fod UEFA yn fwyfwy awyddus i weld mwy nag un wlad yn cynnal digwyddiad. Eu diffiniad o 'gwlad' yw ardal sydd â'u cymdeithas bêl-droed eu hunain. Felly, mewn egwyddor, gallai Cymru gyd-gynnal pencampwriaethau Ewropeaidd yn y dyfodol gyda'r gwledydd cartref eraill. A yw hynny'n rhywbeth y byddech yn ei ystyried?