Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 30 Ionawr 2019.
Credaf fod y ffaith bod 160 miliwn o bobl wedi gwylio rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn golygu bod Caerdydd yn arbennig wedi'i rhoi ar y map mewn ffordd nad ydym, efallai, wedi'i gweld o'r blaen. Felly, mae pêl-droed yn iaith ryngwladol sy'n wahanol i unrhyw iaith arall, a chredaf fod y digwyddiadau trasig a welsom yr wythnos diwethaf yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd hefyd yn enghraifft o lle mae'r math o ffocws a welsom ar Gaerdydd nad oeddem yn ei ddymuno fel y cyfryw yn golygu bod yr iaith ryngwladol hon yn rhywbeth y mae pawb yn canolbwyntio arno.
Credaf y daw cyfleoedd i ni gydweithredu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i ystyried digwyddiadau pêl-droed yn y dyfodol, ac wrth gwrs, gorau po fwyaf o'n rhan ninnau. Felly, byddwn yn ystyried cyd-gynnal rhai digwyddiadau o'r maint hwnnw a'r natur honno yn y dyfodol.