Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 30 Ionawr 2019.
Diolch am egluro'r pwynt hwnnw, ac edrychaf ymlaen at gyhoeddiadau yn y dyfodol. Nawr, mae llawer o sôn wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf am adeiladu canolfan gynadledda fawr yng Nghaerdydd. Nid wyf yn gwybod a oes digon o alw amdani ai peidio ag ystyried bod un wrthi'n cael ei hadeiladu yng Nghasnewydd. Efallai fod perygl o orgyflenwi, ac wrth gwrs, mae'n rhaid inni fod yn wyliadwrus rhag adeiladu eliffantod gwyn weithiau. Ar y llaw arall, efallai fod rhai o fewn y sector rheoli digwyddiadau yn credu bod digon o alw am ddwy ganolfan gynadledda. Nid wyf yn gwybod a oes gennych farn ar hynny, Weinidog.