2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 30 Ionawr 2019.
5. Beth yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ran meithrin cysylltiadau â chenhedloedd di-wladwriaeth? OAQ53316
Wel, Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd, wrth gwrs, yn bennaf gyfrifol am gysylltiadau diplomyddol yn swyddogol, ond dydy Llywodraeth Cymru ddim yn mynd i ymatal rhag datblygu perthynas â rhanbarthau, cenhedloedd neu bobl lle byddai hynny'n fanteisiol i Gymru.
Rwy'n gweld bod bwriad gyda Llywodraeth Cymru i ymestyn ei rwydwaith o lysgenadaethau, fel petai, o fewn gwladwriaeth Sbaen. Gaf i ofyn a yw hi'n fwriad i edrych yn benodol ar Gatalonia a Gwlad y Basg, wrth gwrs, lle mae yna berthynas agos rhwng Cymru a'r gwledydd hynny'n barod? Dwi'n codi hynny'n benodol oherwydd, mewn ymweliad yn ddiweddar o gynrychiolaeth Llywodraeth Catalonia ym Mrwsel, mi oedd Meritxell Serret, sydd yn gweithio i Lywodraeth Catalonia, wedi dweud bod diddordeb gyda nhw—Llywodraeth Catalonia—agor llysgenhadaeth fan hyn yng Nghymru, yn arbennig pe baem ni'n gwneud yr un fath.
A gaf i ofyn hefyd—? Oherwydd bod Meritxell ei hunan, wrth gwrs, yn ffoadur, yn methu dychwelyd i Gatalonia ar hyn o bryd—ac wrth gwrs mae'r Llywydd ei hunan wedi ymweld yn ddiweddar â chyn-lywydd Senedd Catalonia, Carme Forcadell, sydd yn y carchar yn fanna—a fyddai'n bosib i'r Gweinidog, ar ran Llywodraeth Cymru, godi'r mater yma gyda llysgennad Sbaen? Dwi'n gwybod bod hynny'n fater cadwedig, ac yn y blaen, ond mae hwn yn sefyllfa anarferol iawn yn hanes democratiaeth diweddar yn Ewrop, ac, wrth gwrs, mae yn nhraddodiad Cymru, wrth feddwl am yr hyn a ddigwyddodd adeg y rhyfel cartref yn Sbaen, ein bod ni'n mynegi ein cydlyniad llwyr gyda phobl Catalonia ar hyn o bryd.
Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl bod yna tua 20 o swyddfeydd ar draws y byd ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru. Un o'r pethau dwi'n awyddus i wneud yw jest i aros ac i edrych pa mor ddylanwadol ydyn nhw a beth yw'r impact y maen nhw'n ei gael. Mae un o'r cyfarfodydd yma, un o'r pwyllgorau yma, wedi gofyn inni fel Llywodraeth i sicrhau ein bod ni'n cael gwerth am arian. Dwi'n awyddus iawn i sicrhau bod hynny'n digwydd. Felly, cyn inni edrych ar ehangu'r rhwydwaith, dwi eisiau sicrhau bod beth sydd gyda ni nawr yn iawn. Ond dwi yn ymwybodol iawn bod angen inni ddatblygu ar y berthynas naturiol yna sydd gyda ni gyda rhanbarthau fel Catalonia a Gwlad y Basg.
Dwi ddim yn meddwl o reidrwydd bod wastad rhaid inni agor swyddfeydd. Os ŷm ni'n mynd i ganolbwyntio ar ddatblygu economaidd, er enghraifft, efallai y byddai'n well inni anfon pobl o fan hyn sydd gydag arbenigedd mewn maes arbenigol, yn hytrach na chael generalists mewn rhai o'r llefydd yma. Mae hwnna'n rhan o'r pethau dwi eisiau eu hystyried pan dyn ni'n edrych ar sut mae'r strategaeth i'r dyfodol yn mynd i edrych. Ond dyn ni ddim jest yn mynd i ganolbwyntio ar faterion economaidd, wrth gwrs. Bydd yna faterion diwylliannol. Ac, wrth gwrs, lle mae perthynas gyda ni eisoes, mae'n gwneud synnwyr inni beidio â thorri'r rheini, ac mae'n gwneud synnwyr, o beth dwi'n ei ddeall, gyda materion tramor—beth sy'n gwneud i hyn ddigwydd yn well na dim yw perthnasau personol, ac mae'n rhaid inni sicrhau ein bod ni'n yn adeiladu ar rheini. Dwi'n meddwl bod cyfrifoldeb arnom ni i gyd i sicrhau ein bod ni yn gwneud beth y gallwn ni i godi'r faner tra'n bod ni'n teithio dramor hefyd.
Weinidog, dyma'r tro cyntaf i mi eich holi yn eich rôl newydd, felly llongyfarchiadau ar eich penodiad. Credaf ei bod yn wych fod yna ffocws a phwyslais newydd ar feithrin cysylltiadau rhyngwladol rhwng y Cynulliad a rhannau eraill o'r byd, sydd weithiau'n gythryblus.
O edrych ar fy nyddiadur, gwelaf eich bod yn cynnal digwyddiad yn y Senedd ddydd Iau lle byddwch yn nodi eich strategaeth ryngwladol gyda rhanddeiliaid allweddol—Cymru ar lwyfan y byd. Bydd dau o fy etholwyr, Dave a Martha Holman, yn cynrychioli Love Zimbabwe yn y digwyddiad hwnnw. Gobeithio y cewch gyfle i siarad â hwy. Mae'r sefyllfa yn Zimbabwe yn wirioneddol drychinebus. Mae'r llawenydd a'r gobaith a oedd yno ychydig fisoedd yn ôl bellach wedi'i ddisodli gan golli gwaed a thristwch a gofid. Fel rhan o'ch strategaeth ryngwladol newydd, a gaf fi ofyn am roi ffocws ar gynnig cymorth i bobl Zimbabwe, boed yn byw yn Zimbabwe neu yma yng Nghymru, fel fy etholwyr? Mae'r bobl rwy'n eu hadnabod o Zimbabwe yn hoff iawn o Gymru ac yn ddiolchgar iawn am y croeso cynnes y mae pobl Cymru wedi'i roi iddynt, felly credaf y byddai'n ardderchog pe gallech ystyried meithrin perthynas â'r rhan gythryblus honno o'r byd.
Diolch. Rwy'n edrych ymlaen at gynnal y digwyddiad hwnnw ddydd Iau yr wythnos hon, lle byddwn yn lansio'r ymgynghoriad hwnnw ar gynnwys strategaeth ryngwladol i Gymru yn y dyfodol. Wrth gwrs, fel rhan o'r datblygiadau yn rhaglen Cymru o blaid Affrica, bydd Zimbabwe'n ymddangos yn honno eisoes, rwy'n siŵr. Un o'r pethau rwy'n awyddus i'w gwneud yw sicrhau ein bod yn datblygu cronfa ddata gynhwysfawr o'r hyn sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru, felly os bydd pobl o Gymru yn ymweld â Zimbabwe, byddant yn gallu cysylltu â phobl a sicrhau ein bod yn adeiladu'r rhwydweithiau hynny. Felly, mae cysylltu'r diaspora yng Nghymru yn rhywbeth sy'n galw am lawer o ffocws hefyd, ond ni ddylem golli golwg ar rym meddal. Credaf fod angen i ni feithrin ac annog y cysylltiadau personol hynny. Ond Zimbabwe—edrychaf ymlaen at gyfarfod â'r cynrychiolwyr hynny ddydd Iau.