Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 30 Ionawr 2019.
Diolch i chi am y cwestiwn. Rwyf wedi comisiynu adolygiad annibynnol o'r modd y mae'r bwrdd iechyd wedi ymdrin â'r pryderon a godwyd ynghylch Kris Wade. Cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yr adroddiad hwnnw ddoe. Rwy'n disgwyl yn awr i'r bwrdd iechyd gymryd camau brys i fynd i'r afael â'r canfyddiadau a'r argymhellion. Byddwn yn gweithredu mesurau mewn ymateb i hynny ledled Cymru cyn gynted â phosibl.