Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 30 Ionawr 2019.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb. Dwi innau wedi cyfarfod uwch swyddogion lleol ac ar lefel Brydeinig. Dwi yn ddiolchgar i swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn am fod wedi ymgysylltu'n fuan efo REHAU yn dilyn y cyhoeddiad. Mi oedd o'n gyhoeddiad a ddaeth o nunlle mewn difrif. Mae'n gwmni sydd wedi gweithredu yn Amlwch ers dros 40 mlynedd. Mae yna weithlu da, cynhyrchiol a theyrngar yna. Mae o'n gwmni sydd ddim mewn trafferthion. Ailstrwythuro ydy hyn ac, yn anffodus, mae Amlwch yn gorfod talu'r pris am hynny, oherwydd gostyngiad yn y galw am y cynnyrch penodol maen nhw'n ei wneud yno. Mae yna 104 yn gweithio yno, wrth gwrs, a all gogledd Ynys Môn ddim fforddio colli'r swyddi yna. Mae'n ardal sydd wedi dioddef ergyd ar ôl ergyd yn economaidd. Mi ddaeth cyhoeddiad Hitachi, wrth gwrs, am oedi cynllun Wylfa Newydd wythnos yn unig cyn cyhoeddiad REHAU. Mae rhagor o swyddi, rhyw 150, yn mynd i fynd o'r hen Wylfa ymhen rhyw flwyddyn wrth i'r broses ddadgomisiynu barhau.
Dwi wedi gofyn yn benodol yn yr wythnosau diwethaf i chi a'r Llywodraeth am gymorth datblygu economaidd o'r newydd i Fôn, a'r ardal yma yn benodol. Ond, o ran REHAU, pedwar cwestiwn. Allaf i ofyn am ragor o sicrwydd, yn ychwanegol at yr hyn ddywedsoch chi yn gychwynnol, y bydd y Llywodraeth yn darparu adnoddau digonol i allu gwneud cynnig sylweddol i'r cwmni am gymorth a allai eu perswadio i arallgyfeirio neu ddatblygu cynnyrch newydd yno o bosib? Allaf i gael rhagor o sicrwydd hefyd y bydd y Llywodraeth yn rhoi cefnogaeth i gadw pob un opsiwn ar y bwrdd ar gyfer parhad posib i'r gwaith, yn cynnwys edrych ar unrhyw opsiynau ar gyfer cefnogi management buy-outs ac yn y blaen? Ond, os ydy hi'n dod i'r gwaethaf, dwi'n gobeithio gallwn ni ddibynnu ar y Llywodraeth i fuddsoddi yn helaeth mewn cyfleon ailsgilio a chwilio am ailgyflogaeth i'r gweithwyr. Gaf i ofyn am sicrwydd am hynny? A hefyd mae'r gweithwyr yn bryderus am y math o becynnau diswyddo gallan nhw gael eu cynnig, os ydy hi'n dod i hynny. Gaf i sicrwydd gan y Llywodraeth y bydd pob cyngor a chymorth yn cael eu cyfeirio atyn nhw i sicrhau eu bod nhw—mewn sefyllfa lle dŷn nhw ddim, fel dwi'n deall, yn cael trafod trwy undebau—yn cael chwarae teg?