Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 30 Ionawr 2019.
Pan gyhoeddodd grŵp REHAU gynigion a allai arwain at gau ei safle gweithgynhyrchu yn Amlwch, ar ôl bod yno am dros 40 mlynedd, roedd yn dweud nad oedd unrhyw arwydd y byddai'r farchnad ar gyfer band ymyl PVC yn gwella, ond roedd hefyd yn dweud bod gweithgynhyrchu cynhyrchion amgen ar y safle, ac rwy'n dyfynnu, 'yn amhosibl oherwydd cyfyngiadau gofod'. O gofio beth rydych newydd ei ddweud wrthym, pa drafodaethau a gawsoch naill ai cyn y penderfyniad neu'r cyhoeddiad hwn, neu yn awr gan eich bod bellach mewn trafodaethau gyda'r cwmni ers eu cyhoeddiad, mewn perthynas â'r gofod ar y safle fel y gallent arallgyfeirio o bosibl?