5. Datganiadau 90 Eiliad

– Senedd Cymru am 3:46 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:46, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Eitem 5 yw'r datganiadau 90 eiliad, a daw'r cyntaf y prynhawn yma gan Vikki Howells.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 3:47, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd fy swyddfa etholaethol sesiwn hyfforddi Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau. Cafodd ei drefnu gan Centrica (Nwy Prydain), ac roedd yn tynnu sylw at faint y broblem. Mae 53 y cant o bobl 65 oed a hŷn wedi cael eu targedu gan sgamiau, sydd gyda'i gilydd yn costio rhwng £5 biliwn a £10 biliwn y flwyddyn i economi'r DU. Mae'r canlyniadau dynol yn sylweddol. Mae dioddefwyr sgamiau yn colli arian mawr, ond gallant hefyd golli rhywbeth hyd yn oed yn waeth: eu hurddas. Gall sgamiau arwain at straen, iselder ac arwahanrwydd. Mae rhai dioddefwyr yn ystyried, yn ceisio neu'n llwyddo i gyflawni hunanladdiad, ac mae pobl sy'n cael eu twyllo yn eu cartrefi eu hunain ddwywaith a hanner yn fwy tebygol o farw neu fynd i ofal preswyl. Oedran cyfartalog dioddefwr sgam yw 75, er y gall unrhyw un fod yn ddioddefwr. Gall pobl gael eu sgamio drwy'r post, dros y ffôn, ar garreg y drws neu ar-lein. Beth bynnag yw'r dull a ddefnyddir, maent yn droseddol, yn dwyllodrus, a'r hyn sy'n gwneud y sefyllfa'n waeth yw bod sgamiau'n creu ymdeimlad o gywilydd. Mae eu dioddefwyr yn dioddef yn dawel, ac amcangyfrifir mai un o bob 20 sgam yn unig sy'n dod i sylw'r awdurdodau.

Hoffwn ddiolch i Matt a Rachel am ddod i Aberdâr i esbonio sut y mae Centrica (Nwy Prydain) yn rhoi camau ar waith i godi ymwybyddiaeth o sgamiau. Rwy'n gwisgo fy mathodyn Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau gyda balchder, a buaswn yn annog Aelodau eraill i fanteisio ar yr hyfforddiant gwerthfawr hwn. Mae gennym oll ran i'w chwarae yn codi ymwybyddiaeth o'r niwed y mae sgamiau yn ei achosi i helpu i wneud Cymru yn genedl o ffrindiau yn erbyn sgamiau.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour

(Cyfieithwyd)

Teithiodd CPD Casnewydd i Middlesbrough i gystadlu ym mhedwaredd rownd Cwpan yr FA y penwythnos diwethaf. Nid yn unig bod y ddau reolwr yn dod o Billgwenlli ac wedi mynychu'r un ysgol, rydym hefyd yn rhannu tirnod. Mae pont gludo Casnewydd yn un o ddim ond chwe phont o'r fath sy'n dal i weithredu yn y byd heddiw. Mae Middlesbrough yn gartref i un o'r lleill. Er mwyn dathlu'r gêm hon yng Nghwpan yr FA, awgrymodd cadeirydd Ffrindiau Pont Gludo Casnewydd, David Hando, y dylid cyflwyno print cynfas o bont Casnewydd i reolwr y tîm buddugol, o gofio bod y ddau ohonynt wedi cael eu geni yng nghysgod y bont. Daeth y gêm ddydd Sadwrn i ben yn gyfartal, ac edrychwn ymlaen at y gêm ailchwarae yn Rodney Parade. 

Wrth inni aros am y canlyniad pêl-droed terfynol, rydym eisoes yn gwybod bod Casnewydd wedi ennill brwydr y pontydd cludo. Fe'i hagorwyd yn 1906, ac mae'n eicon poblogaidd ar nenlinell Casnewydd ac yn symbol o'n balchder yn ein treftadaeth ddiwydiannol a morol. Mae'n rhychwantu'r afon Wysg lydan sy'n llifo'n gyflym, ac sydd ag un o'r amrediadau llanw mwyaf yn y byd. Cymerodd bedair blynedd i'w hadeiladu ac fe gostiodd £98,000. Mae gwirfoddolwyr ymroddedig Ffrindiau Pont Gludo Casnewydd yn gweithio'n galed gyda Chyngor Dinas Casnewydd i sicrhau grant gwerth £10 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae pont gludo annwyl Casnewydd wedi bod yn galon i'n dinas ers dros ganrif, ac rwy'n annog pobl ledled Cymru i gefnogi'r ymgyrch i sicrhau y bydd yn aros yno ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.