Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 30 Ionawr 2019.
Ar ôl bod yn absennol o'r lle hwn am beth amser, weithiau rwy'n myfyrio ynglŷn â'r hyn sydd wedi newid a'r hyn sydd heb newid ers i mi ddychwelyd. Cofiaf orfod ymdrin â sefyllfa yn fy etholaeth lle na ellid trosglwyddo gwybodaeth yn effeithiol rhwng dau ysbyty yn sir Gaerfyrddin. Canlyniad hynny, mewn gwirionedd, oedd bod y claf, a oedd yn oedolyn ifanc—rhoddwyd ei gofnodion i'w rieni eu gyrru o Lanelli i Gaerfyrddin. Nid oedd yn ddefnydd diogel iawn o ddata neb, ond yr unig ffordd y gallent gael y wybodaeth drwodd mewn pryd. Ddirprwy Lywydd, nid oeddwn yn disgwyl dychwelyd yma ar ôl cymaint o amser i weld mai systemau TG hen ffasiwn o'r fath sydd gennym o hyd, fel y mae'r adroddiad hwn yn ei ddangos. Mae'r ffaith bod unrhyw un yn dal i ddefnyddio peiriant ffacs—nid wyf yn credu y buaswn yn cofio sut i ddefnyddio peiriant ffacs pe bai galw arnaf i wneud hynny—wedi bod yn dipyn o sioc i mi, ac fel y gŵyr y Dirprwy Lywydd, nid wyf yn un sy'n dychryn yn hawdd.
Nid wyf am ailadrodd y pwyntiau a wnaed eisoes yng nghyfraniad clodwiw Nick Ramsay i'r ddadl. Nid oes angen ailadrodd y problemau; mae'r problemau'n ddigon clir yn yr adroddiad i bawb eu darllen. Ond mae'n werth ystyried nad sôn am ddadl damcaniaethol a wnawn yma, neu rywbeth cwbl dechnegol; mae hyn yn effeithio ar fywydau pobl. Nododd Canolfan Ganser Felindre na chafodd claf driniaeth gemotherapi am nad oedd canlyniadau gwaed ar gael a bu oedi cyn rhoi triniaeth radiotherapi i wyth o gleifion. Cleifion go iawn yw'r rhain; bywydau pobl go iawn yw'r rhain.
Rwyf am ganolbwyntio yn fy nghyfraniad heddiw, Ddirprwy Lywydd, ar faterion yn ymwneud â diwylliant, materion yn ymwneud ag anallu ymddangosiadol i gyfaddef bod yna broblemau difrifol, y duedd i symud y pyst gôl yn hytrach na chyfaddef bod prosiectau ar ei hôl hi, a methiant syml i gydnabod bod yna broblem. Ac rwyf am ailadrodd yr hyn a ddywedodd Nick Ramsay. Mae'r adroddiad yn dweud:
'Mae ein hymchwiliad wedi codi cwestiynau difrifol am gymhwysedd, gallu a chapasiti ar draws y system iechyd i gyflawni gweddnewidiad digidol yng ngofal iechyd Cymru. Ac eto canfuwyd diwylliant o hunan-sensoriaeth a diarddeliad ymhlith y rhai sy’n gyfrifol am fwrw ymlaen â’r agenda—yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ei hun yn ogystal â’i bartneriaid yn y byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru.'
Nawr, credaf fod hwnnw'n gyhuddiad difrifol tu hwnt. Felly, roeddwn yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion y pwyllgor. Ond pan ddarllenais fanylion y derbyniad hwnnw, roedd yn ymddangos i mi unwaith yn rhagor eu bod yn dweud wrthym y byddai popeth yn iawn am fod Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud yr hyn roedd y pwyllgor wedi dweud bod angen ei wneud ac y byddai popeth yn berffaith iawn. Wel, nid oes ond angen inni wrando eto ar gyfraniad Nick Ramsay heddiw i wybod nad yw hynny'n wir. Ac nid fi'n unig sy'n sôn am y diwylliant hwn. Hoffwn ddyfynnu i'r Gweinidog ei gyd-Aelod Llafur—ei gyd-Weinidog, bellach—Lee Waters, a ddywedodd,
Nid ymwneud â thechnoleg yn unig y mae newid digidol, mae'n ymwneud â newid diwylliant. Mae'n ymwneud â bod yn agored. Mae'n ymwneud â defnyddio data i ddatrys problemau. Yn hytrach na chynllunio gwasanaethau o safbwynt beth y mae bwrdd iechyd neu awdurdod lleol yn credu sydd ei angen ar ddinesydd, mae dull digidol yn golygu cynllunio gwasanaethau sy'n diwallu anghenion y defnyddiwr.
Ac rwy'n credu bod hynny'n hollol gywir. Nid yw ymateb y Llywodraeth yn tawelu fy meddwl eto, ac rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog roi sicrwydd i mi, ac yn bwysicach, i aelodau'r pwyllgor a wnaeth y gwaith gwerthfawr hwn y bydd pethau'n newid o ddifrif o hyn ymlaen, oherwydd yn bendant, nid ydynt wedi newid eto.
Nawr, credaf fod yr adroddiad bob chwe mis i'r pwyllgor—ac rwy'n arbennig o falch o weld bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud hynny—. Mae'n anarferol i bwyllgor ofyn am hynny ar sail barhaus, a chredaf fod hynny'n dangos pa mor bwysig yw'r materion hyn iddynt, ac felly dylent fod yn bwysig i bob un ohonom ninnau hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig ac i'w groesawu'n fawr. Bydd gweld a yw'r Gweinidog yn barod i roi'r gorau i fod yn ymddangosiadol hunanfodlon ac yn barod i ddangos arweiniad cadarn i sicrhau newid a chreu diwylliant a all dderbyn her yn bwysicach byth. Rhaid aros i weld a yw'n gallu, neu a yw'n dewis gwneud hynny.