Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 30 Ionawr 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad a'r ddadl heddiw. Efallai na fyddwn yn cytuno ar bob mater ar ei ddiwedd, ond credaf fod yna uchelgais a rennir ar gyfer ein dyfodol digidol o fewn y byd iechyd a gofal. Wrth gwrs, mae 'Cymru Iachach' yn gosod trawsffurfio technoleg ddigidol a defnydd sylfaenol a hanfodol o dechnoleg wrth wraidd y gwaith o weddnewid iechyd a gofal. Rwy'n glir mai ein huchelgais yw sicrhau buddsoddiad, systemau, sgiliau ac arweinyddiaeth ar gyfer cyflawni hynny.
Mae hon yn agwedd allweddol ar ein bywydau bob dydd, ac wrth gwrs, nid yw iechyd a gofal yn eithriad. Ein her yw dal i fyny â realiti'r ffordd rydym yn byw ein bywydau. Mae pobl yn disgwyl i wybodaeth am eu gofal fod ar gael lle bynnag a phan fo'i hangen, a dyna y mae ein dull gweithredu cenedlaethol yn ceisio ei ddarparu. Rwy'n cydnabod pryderon ynglŷn â chyflymder y broses o ddarparu'r wybodaeth honno, sefydlogrwydd ein systemau ac arweinyddiaeth. Gwneuthum ymrwymiad clir yn 'Cymru Iachach' i gyflymu newid digidol er budd cymdeithas, ac economi ehangach Cymru yn wir. Bydd buddsoddiad ychwanegol y Llywodraeth o £25 miliwn o gyfalaf a £25 miliwn o refeniw ar gyfer technoleg ddigidol yn y flwyddyn ariannol nesaf yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'n helpu i sbarduno'r newid hwnnw. Er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio'n gyflymach ac yn canolbwyntio ar flaenoriaethau, mae gennym bellach gynllun gwybodeg cenedlaethol tair blynedd a ddatblygwyd drwy ymgysylltiad â'r byrddau iechyd, yr ymddiriedolaethau a swyddogion polisi, a byddwn yn canolbwyntio ar adnewyddu systemau canser, gofal llygaid, patholeg a fferyllfeydd ysbyty. Byddwn yn cynyddu buddsoddiad mewn technoleg i gynorthwyo i gyfarparu ein gweithwyr gofal proffesiynol a darparu gwasanaeth ar-lein.
Mae'n werth cofio, yng Nghymru, ein bod wedi mabwysiadu dull cynyddrannol o ddatblygu systemau TG ar gyfer y GIG. Pan sefydlwyd Hysbysu Gofal Iechyd yn 2003 roedd ganddo gyllideb flynyddol o £30 miliwn. Er cymhariaeth, yn Lloegr, cafodd y rhaglen genedlaethol ar gyfer TG ei thorri'n fyr ar ôl gwario £7.3 biliwn ac adroddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol nad oedd arian a wariwyd ar systemau cofnodi gofal yn darparu gwerth am arian. Yn ogystal, daeth yr Awdurdod Prosiectau Mawr i'r casgliad nad oedd y rhaglen yn Lloegr yn addas ar gyfer darparu'r gwasanaethau TG modern sydd eu hangen ar y GIG.
Rydym eisoes wedi cyflawni amryw o bethau mewn perthynas â chyflawniad digidol. Mae ein systemau cenedlaethol yn caniatáu i weithwyr proffesiynol ar draws iechyd a gofal gael mynediad at y cofnod diweddaraf o ofal y claf ac i ddelweddau gael eu rhannu ledled Cymru. Mae lefel y gwasanaethau yn gwella, arbedir amser a cheir llai o risg a chost. Cymru yw un o'r gwledydd cyntaf i ddefnyddio gwasanaeth canlyniadau prawf cenedlaethol, sy'n golygu bod canlyniadau profion ar gael lle bynnag a phan fo'u hangen ar draws y ffiniau sefydliadol. Gwelais o lygaid y ffynnon, fel y mae'r Aelodau hefyd wedi'i weld, gobeithio, y gwahaniaeth y mae Dewis Fferyllfa yn ei wneud i gleifion, a bellach gallant gael meddyginiaethau ar bresgripsiwn gan fferyllwyr mewn argyfwng heb fynd at feddyg teulu am fod gan fferyllfeydd fynediad at wybodaeth y claf. Mae'r system honno ar waith mewn mwy na 95 y cant o fferyllfeydd cymwys erbyn hyn, ac am unwaith mae'n brosiect TG sy'n gweithredu o fewn y gyllideb ac yn gynt na'r disgwyl.
Mae meddygon teulu yng Nghymru yn gallu defnyddio un o ddwy system TG wedi'u rheoli'n ganolog i ddarparu popeth o gymorth bwrdd gwaith i reoli gwasanaethau argraffu, gyda'r gobaith o ganiatáu i feddygon teulu ganolbwyntio mwy o'u hamser ar drin pobl yn eu gofal. Mae cleifion yn gallu gwneud mwy a mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol i helpu eu gofal a'u triniaeth eu hunain, yn cynnwys trefnu apwyntiadau ar-lein, archebu presgripsiynau amlroddadwy a chael gafael ar ddata o'u cofnodion iechyd. Fodd bynnag, mae llawer mwy i'w wneud. Mae cyflwyno negeseuon testun i atgoffa am apwyntiadau yn un enghraifft sydd wedi helpu i leihau nifer yr apwyntiadau a gollir.
Mae ein dull o weithredu systemau digidol yn cefnogi system lle caiff iechyd a gofal eu hintegreiddio a rhaid iddynt roi'r dinesydd yn y canol. Felly, mae system wybodaeth gofal cymunedol Cymru eisoes wedi cael ei rhoi ar waith mewn 13 o sefydliadau eisoes ac rwy'n glir fy mod am i ragor ddod yn rhan ohoni ar sail gynyddol hyd nes y cawn y wlad gyfan wedi'i chynnwys, i ddarparu cofnod a rennir am y claf, yr unigolyn, i gydweithwyr ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, er mwyn gwella diogelwch ac ansawdd gofal. Dyma'r tro cyntaf y cyflawnwyd rhaglen o'r fath ar raddfa genedlaethol yn unman.