6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Systemau Gwybodeg GIG Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 4:15, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog. Rwy'n meddwl tybed a allwch roi i ni heddiw—. Mae'r hyn rydych wedi bod yn ei ddweud yn gadarnhaol iawn, a byddem oll yn croesawu hynny, rwy'n siŵr, ond a allwch roi'r ffigurau diweddaraf inni o ran methiannau yn system bresennol y GIG? Os nad ydych yn gallu darparu'r ffigurau hynny heddiw, a fyddech yn barod i ysgrifennu at yr Aelodau ynglŷn â hynny? Oherwydd mae hynny'n gwbl allweddol wrth gwrs—ni fydd y datblygiadau cadarnhaol a ddisgrifiwch heddiw yn gweithio os yw'r systemau'n dal i fethu.