2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 6 Chwefror 2019.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am barcio am ddim ar safleoedd ysbytai yng Nghymru? OAQ53366
Mae parcio yn rhad ac am ddim yn holl ysbytai'r GIG yng Nghymru. Byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG sy'n gyfrifol am weithrediadau rheoli lleol a'r trefniadau ar gyfer meysydd parcio ar eu safleoedd.
Yn ddiweddar, cefais ohebiaeth gan etholwr a ysgrifennodd ataf mewn perthynas â phrofiad a gafodd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Roedd wedi parcio mewn parth a nodwyd yn amlwg ar wefan bwrdd iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel un ar gyfer cleifion ac ymwelwyr. Roedd yn synnu, felly, pan gafodd ddirwy o £40 gan gwmni gorfodi parcio o'r enw ParkingEye, a ddywedai mai parth ar gyfer parcio staff yn unig oedd y parth hwnnw. Talodd y ddirwy am ei fod yn ofni'r costau cynyddol posibl yn sgil camau cyfreithiol. Ymddengys bod dryswch rhwng yr hyn y mae'r bwrdd iechyd a ParkingEye yn ei ystyried yn barthau parcio penodol a'r rhai a ddynodir ar gyfer mathau penodol o ddefnydd.
Yn y cyfamser, mae'r bwrdd iechyd wedi dweud na fyddant yn ymyrryd mewn unrhyw apeliadau i ddirwyon parcio a orfodwyd gan gwmnïau gorfodi parcio. Credaf fod parcio am ddim mewn ysbytai yn un o lwyddiannau allweddol Llywodraeth Cymru, ac yn ei ateb, dywedodd y Gweinidog ei fod yn rhywbeth sy'n digwydd ym mhob man. A all roi sicrwydd, felly, fod byrddau iechyd yn gweithredu'r polisi hwn yn effeithiol, gan gynnwys bwrdd Caerdydd a'r Fro, ac y ceir deialog clir, lle bo angen, rhwng y byrddau iechyd a chwmnïau parcio preifat i wneud hyn yn iawn?
Dyna'n union rydym yn ei ddisgwyl. Wrth gwrs, mae her i'w chael o ran sicrhau nad yw parcio am ddim ar safleoedd ysbytai yn arwain at bobl yn parcio am ddim ar safleoedd ysbytai heb eu bod yn defnyddio gwasanaethau gofal iechyd yn yr ysbyty hwnnw. Felly, yr her yw sut y gallwn sicrhau bod y bobl sydd yno'n gallu parcio am ddim fel y dylent allu ei ddisgwyl.
Mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn a ddywedodd yr Aelod ynglŷn â dryswch rhwng parth yr ymddengys ei fod wedi'i nodi fel parth parcio ar gyfer cleifion, a'u bod wedi parcio yno a chael dirwy. Os caf y manylion gan yr Aelod, rwy'n fwy na pharod i edrych ar y mater i sicrhau bod y polisi'n cael ei roi ar waith yn union fel y bwriadwyd. Ond credaf mai'r gwir amdani, pan gyflwynwyd parcio am ddim ar draws yr ystâd yng Nghaerdydd a'r Fro—un o'r olaf i newid oherwydd problemau hirdymor roeddent wedi'u cael o'r blaen—cafwyd rhai heriau, a bydd Aelodau o Gaerdydd a'r fro wedi gweld hynny yn eu bagiau post. Cawsant eu lleihau'n sylweddol, ond mae gennyf ddiddordeb mewn unrhyw achosion pellach er mwyn sicrhau y rhoddir y polisi ar waith yn gywir. Felly, os gwelwch yn dda, ysgrifennwch ataf, a byddaf yn sicrhau y caiff y mater ei archwilio.
Weinidog, croesawaf y cyhoeddiad fod parcio ym mhob un o ysbytai'r GIG yng Nghymru wedi bod yn rhad ac am ddim ers diwedd mis Awst y llynedd. Ers i'r Gweinidog iechyd ar y pryd, Edwina Hart, gyhoeddi parcio am ddim mewn ysbytai am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2008, yn gyntaf oll, pam ei bod wedi cymryd 10 mlynedd i roi hyn ar waith? Yr ail beth yw, mae'n dipyn o anhrefn mewn rhai ardaloedd, mae angen ei reoli'n briodol—y parcio—gan ei fod yn cael ei ddefnyddio gan staff, ac i rai ohonynt, mae'n bwysig iawn dod i mewn ar yr adeg iawn ac nid oes lle, maent yn mynd o gwmpas mewn cylchoedd, yna cleifion ar frys, ac yna ymwelwyr. Mewn rhai ardaloedd, trafodwyd defnyddio technoleg ANPR gyda'r bwrdd, sef systemau adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig. Felly, a ydych yn trafod gyda chwmnïau o'r fath i sicrhau bod parcio yn ein hysbytai yn rhad ac am ddim ac yn deg i gleifion, staff ac ymwelwyr yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Rwyf am ymateb i'ch pwynt cyntaf ynglŷn â'r amser y mae wedi'i gymryd. Rwy'n falch iawn fod ymrwymiad Llafur Cymru wedi'i gyflawni. Nid oedd modd inni ei gyflawni mor gyflym ag y gobeithiem oherwydd y contractau hirdymor a oedd ar waith—pe baech yn gwrando ar fy ateb cyntaf byddech wedi fy nghlywed yn dweud hynny—ac roedd pwynt ymarferol ynghylch cost prynu'r contractau hynny i bwrs y wlad. Bellach, mae gennym ystâd lawn ar gyfer parcio am ddim i gleifion, ac edrychwn ymlaen at weld Lloegr yn dal i fyny â ni. Er gwaethaf addewidion hirdymor gan y Llywodraeth bresennol, nid yw eu cyflawniad ar yr un lefel â'r hyn y gallwn ei ddathlu yma yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y byddech yn ymuno â mi i gydnabod hynny.
O ran y pwynt mwy cyffredinol ynglŷn â rheoli traffig, mae hon yn her wirioneddol, nid yn unig o ran sicrhau y gall cleifion barcio, ond y gall staff barcio hefyd. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â defnydd effeithlon o'n safleoedd mawr a sylweddol—mae llawer o symudiadau traffig i mewn ac allan yn ystod y dydd—yn ogystal ag annog pobl i ddewis ffyrdd gwahanol o gyrraedd safleoedd ysbytai, boed hynny yng Nghaerdydd, lle y ceir cyfleuster parcio a theithio, neu yn wir, yr un a ddefnyddiais gyda'r Dirprwy Lywydd yng Nglan Clwyd. Felly, mae'n ymwneud ag amrywiaeth o fesurau i sicrhau bod y bobl sydd angen cyrraedd y safle yn gallu gwneud hynny a gwneud defnydd priodol o hynny. A dyna rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd ei gyflawni wrth reoli ystâd pob ysbyty yn briodol.