– Senedd Cymru am 3:23 pm ar 13 Chwefror 2019.
Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Llywydd: cyflwyno Bil arfaethedig y Comisiwn—Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), a galwaf ar y Llywydd, Elin Jones.
Mae cyflwyniad Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) heddiw yn benllanw cyfnod hir o ymgynghori ac ymgysylltu gyda’r cyhoedd, grwpiau gwleidyddol a phartneriaid ehangach ar ddiwygio etholiadol, ac yn manteisio ar y cyfleon a gyflwynir yn Neddf Cymru 2017 i rymuso ein Cynulliad Cenedlaethol er gwell.
Hanfodion y Mesur felly yw creu Senedd sy’n fwy effeithiol a hygyrch, a sicrhau bod crud ein democratiaeth yn addas i bwrpas wrth iddi ddathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu. Fel yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, rwyf wedi gwrando ar ystod eang o safbwyntiau ar brif elfennau’r ddeddfwriaeth ddrafft—newid enw’r Cynulliad Cenedlaethol, ehangu’r etholfraint ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, a newid y gyfraith ynghlwm â threfniadau anghymhwysedd unigolion i sefyll etholiad.
Mae’r prif ddarpariaethau hyn wedi eu llunio gyda’r amcan o sicrhau’r consensws ehangaf posib ymysg Aelodau, ac adeiladu ar y mandad a roddwyd gan fwyafrif o’r Senedd i’r ddeddfwriaeth hon fis Hydref 2018.
Beth, felly, mae’r Bil yn ei gynnwys? Yn gyntaf, gostwng yr isafswm oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiad Cynulliad 2021—amcan y Comisiwn yw i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Gan adeiladu ar y gwaith o ethol Senedd Ieuenctid gyntaf erioed Cymru y llynedd, mae’r Comisiwn yn gweithio gyda phartneriaid eraill i ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed mewn pryd ar gyfer etholiad Cynulliad 2021. Law yn llaw â’r ddarpariaeth hon mae’r angen am addysg wleidyddol briodol fydd yn galluogi pobl ifanc i ddeall eu hawliau democrataidd ac i gynyddu cyfranogiad mewn etholiadau. Mae’r Comisiwn yn gweithio gyda phartneriaid perthnasol i sicrhau bod y wybodaeth briodol yn cyrraedd cynifer o bobl ifanc â phosib cyn i’r newid cadarnhaol hwn ddod i rym.
Yn ail, bydd y Bil yn ailenwi’r Cynulliad yn 'Senedd'. Bydd ailenwi’r Cynulliad yn 'Senedd' yn sicrhau bod enw’r sefydliad yn adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol ac yn helpu i wella dealltwriaeth gyhoeddus o rôl a chyfrifoldebau’r ddeddfwrfa yma. Bydd y cymal yn y Ddeddf sy’n nodi y gellir hefyd cyfeirio at y Senedd fel 'Welsh Parliament' yn adlewyrchu’r farn a fynegwyd gan nifer fod angen cynnwys yr opsiwn o ddefnyddio’r term esboniadol Saesneg yn y Bil i atgyfnerthu’r newid yn statws y sefydliad. Dyma ddatganiad clir, felly, fod 'Senedd' bellach yn gyfystyr â 'parliament' nid 'assembly'. Y bwriad yw y bydd y newid enw yn dod i rym yn gyfreithiol fis Mai 2020 i sicrhau bod y cyhoedd yn gyfarwydd gyda’r enw newydd mewn da bryd cyn etholiad Cymru yn 2021. Ynghlwm â’r newid hwn bydd newidiadau cysylltiol—er enghraifft, y disgrifydd sy’n ymddangos ar ôl enw Aelodau ac enwau cyrff megis y Comisiwn. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn dod yn Aelodau o’r Senedd—'Members of the Senedd' yn Saesneg.
Yn drydydd, bydd y Bil yn diwygio’r fframwaith ynghlwm ag anghymwyster i fod yn Aelod Cynulliad. Mae’r Comisiwn yn cyflwyno argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Chyfreithiol y pedwerydd Cynulliad a fyddai’n newid y gyfraith ar gymhwyster unigolion i sefyll. Diben y newid hwn fydd i sicrhau eglurder i ymgeiswyr posib am eu cymhwysedd i sefyll etholiad. Bydd y newid yn caniatáu'r mwyafrif o bobl i sefyll heb orfod ymddiswyddo o’i gwaith yn gyntaf, gydag ymddiswyddiadau o’r fath yn angenrheidiol pe baent yn cael eu hethol yn unig. Yn ogystal, bydd y cymal hwn yn gwahardd aelodau o Dŷ’r Arglwyddi rhag bod yn Aelodau Cynulliad, oni bai eu bod yn cymryd seibiant ffurfiol o’u gwaith yn San Steffan.
Yn olaf, mae’r Bil yn cynnig newidiadau i drefniadau etholiadol a mewnol y Cynulliad. Bydd y newidiadau ymarferol hyn yn creu mwy o hyblygrwydd yn dilyn etholiad drwy ymestyn y terfyn amser ar gyfer Cyfarfod Llawn cyntaf y Cynulliad o saith diwrnod i 14 diwrnod. Bydd hyn yn caniatáu mwy o amser i’r pleidiau gynnal trafodaethau pwysig wrth symud tuag at ethol Prif Weinidog a ffurfio llywodraeth. Un o amcanion eraill yr adran yma yw creu eglurder am hawl Comisiwn y Cynulliad i godi tâl am ddarparu gwasanaethau neilltuol i gyrff allanol.
Yn ogystal, barn Comisiwn y Cynulliad yw y dylai’r Cynulliad ystyried newid trefniadau cyllido a throsolwg y Comisiwn Etholiadol, gan ei fod eisoes yn gyfrifol am etholiadau datganoledig. Barn y Comisiwn Etholiadol yw y dylai gael ei gyllido gan a bod yn atebol i’r Cynulliad, yn hytrach na Senedd y Deyrnas Gyfunol am ei waith ynghlwm ag etholiadau Cymru, yn genedlaethol a lleol. Mae’r Mesur hwn felly yn rhoi dyletswydd ar y Senedd i ystyried y newid hwn. Os oes cefnogaeth ar ddiwedd Cyfnod 1 i symud ymlaen yn gynt gyda’r newid yma, yna gellid cyflwyno gwelliannau i’r perwyl yma yn ystod Cyfnod 2.
Bydd y Bil yn destun craffu helaeth drwy gyfuniad o sesiynau pwyllgor a’r Cyfarfod Llawn. Mae memorandwm esboniadol ar gael sydd yn sicrhau eglurder a thryloywder ynghylch goblygiadau cyllidol y Bil. Mae hefyd asesiadau manwl wedi'u cwblhau ar effaith y cynlluniau ar ieithoedd swyddogol y Cynulliad, cydraddoldeb a chynhwysedd, hawliau plant, y system gyfiawnder a meysydd eraill.
Wrth gwrs, man cychwyn yw’r Bil hwn. Wrth ei gyflwyno, fy ngobaith yw y bydd y Bil yn sbarduno dadleuon diddorol ac ystyrlon, ac yn annog cyfranogiad Aelodau, partneriaid a’r cyhoedd ehangach yn y drafodaeth am ddyfodol ein Senedd genedlaethol. Hoffwn hefyd gymryd y cyfle i ddiolch i’r Llywodraeth am eu cydweithrediad hyd yma wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth hyd yn hyn. Fel y mae’r Senedd Ieuenctid wedi'i brofi i ni mewn modd mor galonogol, mae yna awydd pendant gan ein pobl ifanc i chwarae eu rhan. Pa gyfle gwell nag achlysur penblwydd ein Senedd yn 20 mlwydd oed i'w hysbrydoli ac i'w cynnwys nhw, a phob dinesydd arall, yn uniongyrchol yng nghyfleon 20 mlynedd nesaf ein democratiaeth a'n Senedd ni? Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r Bil hwn, sy'n garreg filltir bwysig arall ar daith datganoli.
Mae Llywodraeth Cymru'n gefnogol iawn i dri phrif nod y Bil, fel rŷn ni'n eu gweld nhw. Yn gyntaf, rhoi enw i'n Senedd sy'n adlewyrchi ei statws fel deddfwrfa, yn ail, rhoi cyfle i bobl ifanc bleidleisio, ac yn drydydd, rhoi mwy o eglurder i ymgeiswyr posib ynghylch a oes modd iddyn nhw sefyll.
Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl gefnogol i ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed yn Rhan 3 o'r Bil. Roedd hyn yn ymrwymiad yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb.' Rwy'n falch iawn bod modd i ni gynnig cymorth gan ein swyddogion i gynhyrchu'r darpariaethau yn y Rhan hon. Rŷn ni'n credu dylai'r etholfraint ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol fod yn gyson â'i gilydd. Yn benodol, rŷn ni am weld y Bil yn ymestyn yr etholfraint i gynnwys gwladolion tramor sy'n byw yn gyfreithlon yng Nghymru, i adlewyrchu'r darpariaethau y byddwn ni'n eu cyflwyno mewn perthynas â'r etholfraint llywodraeth leol.
Ar ben hynny, mynegodd y Cynulliad yn ddiweddar ei fod yn cefnogi'r hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru. Rŷn ni'n cefnogi'r safbwynt hwnnw mewn egwyddor, ac yn aros gyda diddordeb i glywed casgliadau ymchwiliad y pwyllgor cydraddoldeb.
Rydym yn credu ei bod yn bwysig fod perthynas ariannu ac atebolrwydd y Cynulliad gyda'r Comisiwn Etholiadol yn cael ei osod ar sail ffurfiol, ac rydym yn barod i weithio gyda'r Llywydd, y Comisiwn Etholiadol a'r Trysorlys yng ngoleuni gwaith craffu Cyfnod 1, i archwilio a allem fynd â hyn gam ymhellach nag y mae'r Bil yn darparu ar ei gyfer ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi'r camau y mae'r Bil yn eu cymryd i wahaniaethu rhwng y rheini sydd wedi'u gwahardd rhag bod yn ymgeiswyr yn etholiadau'r Cynulliad a'r rheini sydd wedi'u gwahardd rhag bod yn Aelod Cynulliad. Byddwn yn rhoi mwy o ystyriaeth i'r angen am unrhyw newidiadau pellach i fanylion y darpariaethau hyn wrth i'r Bil fynd rhagddo. Rydym hefyd yn cydnabod yr amcanion sy'n sail i'r ddarpariaeth yn Rhan 5, sef pŵer i Weinidogion Cymru weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith mewn perthynas ag etholiadau. Ond nid ydym yn credu ei bod yn angenrheidiol nac yn briodol i'r pŵer hwn fod yn nwylo Gweinidogion Cymru, a hoffem archwilio hyn ymhellach yn ystod y gwaith craffu.
Rydym yn croesawu'r cyfle a gyflwynir yn Rhan 2 i ystyried ailenwi'r sefydliad hwn er mwyn adlewyrchu ei swyddogaeth ganolog fel deddfwrfa ym mywyd Cymru. Mater i'r Cynulliad cyfan yw penderfynu beth ddylai'r enw hwnnw fod, ond byddem yn annog yr holl Aelodau i gadw mewn cof y bydd darpariaethau'r Bil hwn yn diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006—ein prif statud gyfansoddiadol. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod y darpariaethau ar gyfer newid enw, yn ogystal ag ar gyfer materion eraill, mor glir ac mor hygyrch â phosibl. Fel y mae'r Bil wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, rwy'n pryderu nad yw hynny'n wir. Byddaf yn ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol cyn hir i roi mwy o wybodaeth am safbwynt cychwynnol Llywodraeth Cymru ar y Bil. Ond rwy'n gobeithio bod y Llywydd, fel yr Aelod cyfrifol, yn gallu cadarnhau ei bod yn rhannu fy marn i, a barn y Llywodraeth, y dylai'r Bil hwn, fel darn allweddol o ddeddfwriaeth gyfansoddiadol, fod yn batrwm ar gyfer diwygio cyfansoddiadol cyn belled ag y bo modd, ac y bydd yn parhau i weithio'n agos gyda mi, yn ogystal â phwyllgorau'r Cynulliad, Aelodau eraill sydd â diddordeb a'n rhanddeiliaid, i sicrhau hynny.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei sylwadau a'i gwestiwn, ac a gaf i gydsynio gyda'r hyn mae e wedi'i ddweud wrth orffen? Mae hwn yn Fil cyfansoddiadol o bwys, ac felly, mae'n bwysig ei fod e'n ecsemplar o ddeddfwriaeth dda mae'r Cynulliad a'r Senedd yma yn gyfrifol amdani. A dwi'n gobeithio, wrth ei gyflwyno, ac wrth ei sgrwtineiddio, y byddwn ni yn dangos hynny yn glir iawn.
Mae yna nifer o agweddau rŷch chi wedi amlinellu, Cwnsler Cyffredinol, le mae yna gydsyniad rhwng yr hyn sydd wedi cael ei gyflwyno yn y Mesur, a'r hyn rŷch chi'n dyheu amdano fel Llywodraeth. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny.
Ar yr etholfraint, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth yn edrych i gyflwyno ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn 2022 i bobl ifanc 16 ac 17 hefyd. Ac mae hi wedi bod yn bwysig fy mod i, wrth fy mod i'n datblygu'r Bil yma, yn gweithio yn agos iawn â swyddogion y Llywodraeth a chi fel Cwnsler Cyffredinol, ac ein bod ni yn gwneud hynny mewn ffordd sydd yn gyffredin, ac yn defnyddio mecanwaith y Bil yma, sydd yn mynd i edrych i gynyddu'r etholfraint yn yr etholiad sy'n dod o'n blaenau ni yn gyntaf—sef etholiad Cymru yn 2021.
Mae yna ddwy agwedd, wrth gwrs, ac rŷch chi wedi cyfeirio atyn nhw, sydd ddim yn y Bil fel y mae e wedi ei ddrafftio a'i gyflwyno ar hyn o bryd o ehangu'r etholfraint, ac mae hynny i wladolion tramor ac i garcharorion. Ac wrth gwrs mae yna faterion gweddol o gymhleth yn y ddwy agwedd yna, ac efallai ddim y mandate llawn, oddi wrth y Cynulliad yn llawn, i edrych ar roi'r bleidlais i wladolion tramor, wrth gyflwyno'r Mesur. Ond dwi'n gobeithio, wrth drafod o fewn y pwyllgor a'r Cynulliad yma'n llawn, os oes yna fodd inni edrych i weld ein bod ni'n sicrhau yn weddol o gynnar wrth gyflwyno etholfraint newydd yng Nghymru fod yr etholfraint ar gyfer y Cynulliad yma a'r etholfraint ar gyfer llywodraeth leol yr un etholfraint. Dwi ddim yn credu ei bod hi o fantais mewn unrhyw ffordd inni gael dwy etholfraint wahanol ar gyfer ein hetholiadau domestig ni, yn yr etholiadau lleol hynny a'r etholiad cenedlaethol. Ac felly, fe fyddaf i'n gwrando'n ofalus ar yr hyn y bydd gan y pwyllgor ac eraill i'w ddweud wrth i'r Mesur yma fynd yn ei flaen.
Eich sylwadau chi ar Gomisiwn y Gyfraith—y Law Commission—mae'n ddiddorol iawn i fi glywed y Llywodraeth yn dweud efallai y bydden nhw ddim yn awyddus i weld y pwerau sydd yn cael eu rhoi yn y ddeddfwriaeth yma i'r Llywodraeth, ond o bosib yn aros yn y ddeddfwrfa. Ac mae'n siŵr y bydd hwnna'n fater, eto, i'r pwyllgor i edrych arno.
Ac yn olaf, eich pwynt chi ynglŷn â'r angen i'r ddeddfwriaeth yma, fel deddfwriaeth gyfansoddiadol, fod mor glir â phosib i bobl Cymru. Ac yna, wrth feddwl am y cymalau sydd yn ailenwi'r Cynulliad yn 'Senedd', ac mae yna gyfeiriad rŷch chi wedi ei wneud at farn sydd gennych chi am ffyrdd y gellid gwneud y cymalau yma yn gliriach. Mae yna gyfeiriad yn y memorandwm esboniadol hefyd at yr ystyriaeth roddais i i newidiadau yn sut roedd y cymalau yma wedi cael eu gosod; oherwydd rhai materion sydd yn ymwneud â chymhwysedd, a thrafodaeth ynglŷn â chymhwysedd, fe ddrafftiwyd y cymalau am yr enw yn y ffordd y mae nhw yn cael eu cyflwyno ar hyn o bryd. Ond mae'n siŵr y bydd y pwyllgor, unwaith eto, yn rhoi golwg o'r newydd ar y pwyntiau rŷch chi wedi eu gwneud, ac sydd hefyd yn cael eu hamlinellu yn y memorandwm esboniadol.
Ac felly, diolch ichi am eich cefnogaeth mewn egwyddor i nifer o wahanol agweddau sydd yn cael eu cyflwyno yn y Mesur heddiw. Ac eto, rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â chi, a hefyd wrth gwrs ar yr hyn ddywedoch chi am eich cefnogaeth i wneud y Comisiwn Etholiadol yn atebol, o ran eu cyllid a'u hatebolrwydd cyffredinol, i'r Cynulliad yma, yn hytrach nag i Senedd San Steffan am etholiadau Cymru—lleol a chenedlaethol.
Rydym yn croesawu cyflwyno'r Bil hwn. Mae'n gydnabyddiaeth bwysig o statws y Senedd fel deddfwrfa, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol hefyd wedi'i nodi. Felly, mae'n garreg filltir bwysig. Ac rwy'n credu bod y rhai ohonom sydd wedi gwasanaethu—fel rydych chi wedi'i wneud, yn y Gadair ar hyn o bryd, Ddirprwy Lywydd—ers 1999, mae bron fel pe baem wedi bod mewn confensiwn cyfansoddiadol enfawr, a ninnau wedi dechrau, rwy'n credu, gyda'r hyn a gafodd ei alw gan rywun yn gofiadwy fel 'Cyngor Sir Morgannwg ar stilts', cyn symud ymlaen i wahanu pwerau, cael proses y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol o ddeddfu deddfwriaeth sylfaenol drwy oddefiad gan San Steffan, i fod yn y diwedd yn ddeddfwrfa go iawn. Mewn ffordd, mae wedi bod fel rhyw fath o daith o Gaerdydd i Gasnewydd drwy Wrecsam, ond fe gyraeddasom serch hynny.
Rwyf hefyd yn cefnogi'r bwriad i greu deddfwrfa fwy effeithiol a hygyrch. Rwy'n credu mai dyna'r nod cywir, ac rydym angen y math hwnnw o eglurder a phwrpas yn ein meddylfryd cyfansoddiadol a'r ffordd rydym yn creu cyfraith.
Ar estyn yr etholfraint, credaf fod hwn yn fater sy'n galw am ei archwilio'n ofalus, er bod enghreifftiau amlwg o gwmpas y byd o'r manteision a ddaw yn sgil gostwng yr oedran pleidleisio i 16, neu'r oedran cymwys i 16. Mae hynny'n cwmpasu'r rhan o'r boblogaeth a fydd, yn amlwg, yn byw gyda'r penderfyniadau pwysicach a wneir ar eu rhan, ond hefyd o ran addysg, hyfforddiant—mae'r materion sylfaenol hyn yn hanfodol, mewn gwirionedd, i ffyniant y gymdeithas, ac maent yn effeithio'n fawr ar y grŵp oedran hwnnw, ac rwy'n credu y byddai'n bosibl i chi godi'r materion hynny wrth inni fynd ati i ystyried.
Rwy'n credu eich bod yn ddoeth i edrych yn gyffredinol ar sut y caiff gwleidyddiaeth ei dysgu mewn ysgolion. Nid yw pawb yn deall y broses wleidyddol yn dda bob amser, ac nid wyf eisiau troi pob dinesydd yn wyddorwyr gwleidyddiaeth ond yn yr ystyr fod gennym ddealltwriaeth sylfaenol o sut y mae'r system gyfraith droseddol yn gweithio a sut y mae rheithgorau'n bwysig, credaf fod dinasyddion angen cael eu haddysgu yn yr ysgol am y cyfrifoldebau sydd o'u blaenau mewn perthynas â dinasyddiaeth. Mae'n ganolog i ddemocratiaeth. Heb ddinasyddion, ni allwch gael system ddemocrataidd, neu'n sicr ni allwch gael system ddemocrataidd iach. Felly, credaf fod hynny'n bwysig iawn.
Ceir tystiolaeth bendant sy'n dangos, os ydych yn colli dau etholiad tra'n ifanc, ei bod yn debygol na fyddwch yn pleidleisio o gwbl yn ystod eich bywyd. Mae'n syfrdanol, rwy'n credu, i bawb yn y lle hwn fod yna ddinasyddion—a chryn dipyn ohonynt—nad ydynt erioed wedi bwrw pleidlais mewn democratiaeth. Felly, rwy'n croesawu'n arbennig y ddealltwriaeth honno y bydd angen i ni wneud rhywbeth mewn ysgolion i baratoi ein dinasyddion iau, yn enwedig os ydym yn gostwng yr oedran pleidleisio i 16.
Mae'r enw yn amlwg yn rhywbeth sydd ar y gweill, os caf ei roi felly. O fewn y swigen wleidyddol o leiaf, ceir derbyniad fod y gair 'senedd' wedi cael ei dderbyn. Dyna'r enw rwy'n ei ffafrio, mae'n rhaid i mi ddweud, ac yn sicr mae'r bobl rwy'n ymgysylltu â hwy—y rhan fwyaf o'n rhanddeiliaid—yn ei ddeall. Yn amlwg, po bellaf i ffwrdd yr awn ni, a pho fwyaf y siaradwn â'n hetholwyr, nid yw'r defnydd cyffredin hwnnw wedi gwreiddio i'r un graddau. Rwyf hefyd yn credu bod egwyddor dwyieithrwydd yn bwysig, ac mae 'senedd' yn un o'r geiriau prin hynny sy'n gwneud y ddau beth bron, ond credaf fod yna ran fawr o'r boblogaeth sy'n edrych ar y gair 'parliament' fel gair Prydeinig gwych, dealladwy. Wel, gair Ffrangeg ydyw, wrth gwrs, ond fe wyddoch beth rwy'n ei feddwl—[Chwerthin.]—a dyna fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn galw deddfwrfa ym model San Steffan, lle bynnag y caiff ei gymhwyso. Pe gallem gynnwys 'parliament' mewn ffordd fwy uniongyrchol, a gwn fod anawsterau wedi bod ynghylch cymhwysedd, a bydd angen eu harchwilio, ond rwy'n gobeithio y bydd gennym olwg eang ar hyn hefyd o ran sut y gallwn ddehongli ein cymhwysedd o dan Ddeddf 2006. Rwy'n gobeithio y bydd pobl o ewyllys da yn gallu datrys hyn yn y pwyllgor a thu hwnt.
Mae cymhwystra ar gyfer etholiad—credaf y dylwn ddatgan buddiant yma, Ddirprwy Lywydd, oherwydd pan oeddwn yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn y pedwerydd Cynulliad, buom yn edrych ar hyn. A chyn belled ag y gallaf weld, rwy'n ddiolchgar fod y darpariaethau, fwy neu lai, yn cyd-fynd â'r hyn a argymhellwyd gennym, fel na fernir eich bod yn anghymwys, bernir eich bod wedi ymddiswyddo o rywbeth pan gewch eich ethol, os oedd hynny'n eich gwneud yn anghymwys neu na allech ddal y ddwy swydd ar yr un pryd. Cawsom brofiad dychrynllyd yn 2011, gyda'r posibilrwydd y gallai dau Aelod fod wedi'u hanghymhwyso. Yn y pen draw, cafodd un ei anghymhwyso, ond ni chafodd y llall, ac nid oedd yn glir iawn i mi sut y gwahaniaethwyd rhyngddynt. Nid ydym eisiau bod yn y sefyllfa honno.
Yr hyn sydd wrth wraidd hyn, a'r hyn a oedd wrth wraidd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yw bod angen i ni ymestyn yr amrywiaeth o bobl a all sefyll etholiad i'r eithaf ac mae angen i ni gyfyngu ar y gwaharddiadau i gyn lleied ag y bo modd, a dyna y mae democratiaeth yn ei fynnu a chredaf y bydd hynny'n mynd yn bell iawn.
O ran gwahardd aelodau o Dŷ'r Arglwyddi rhag cael sedd yn y Senedd—tra bônt yn aelodau o Dŷ'r Arglwyddi, bydd darpariaeth, wrth gwrs, iddynt barhau i fod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi. Credaf mai'r rhesymeg y tu ôl i hynny yw na ddylech fod yn aelod o ddwy ddeddfwrfa ar yr un pryd. Ac mae hynny, i mi, yn ei roi mewn categori gwahanol iawn i aelodaeth o awdurdod lleol, er bod llawer o bobl efallai'n credu nad yw hynny'n arfer gorau chwaith—parhau i fod yn aelod o awdurdod lleol ac yn aelod yn y lle hwn. Ond rwy'n credu y bydd hyn yn helpu i ddyrchafu pwysigrwydd ein Senedd ac yn dileu unrhyw awgrym o wrthdaro buddiannau.
Yn olaf, a gaf fi grybwyll un maes lle gellir gwneud gwelliannau o hyd, sef ymgysylltiad â'r cyhoedd? Credaf ein bod angen modelau newydd ledled y DU. Rydym wedi gwneud llawer, a bod yn deg, gyda'n huned allgymorth, ond rwy'n credu o ddifrif, wrth i ni symud o ddemocratiaeth gynrychiadol i ddemocratiaeth gyfranogol, mai dyna'r her sydd o'n blaenau, a chredaf fod digwyddiadau diweddar yn ein cymell i wneud hyn. Bydd angen ymgysylltiad ehangach a dyfnach â'n dinasyddion a'r ffordd y gwnawn hynny, drwy reithgorau dinasyddion neu siambr y dinasyddion—ceir llawer iawn o fodelau—. Ond rwy'n credu, ar ryw bwynt—os nad dyma'r cyfrwng cywir, efallai y cawn olwg arno, nid wyf yn gwybod—dyna her sydd o'n blaenau ac un y bydd yn rhaid i ni ei hwynebu yn fuan iawn.
Diolch i David Melding am ei sylwadau ar y Bil fel y mae'n sefyll ar hyn o bryd. Ar fater pleidleisio yn 16 ac 17, mae'r pwyntiau rydych yn eu gwneud ar addysg ac ymwybyddiaeth o ddinasyddiaeth mewn addysg ac addysg pobl ifanc—dyna'r union bwyntiau a wnaed yn adroddiad annibynnol Laura McAllister wrth argymell y dylid cyflwyno pleidlais i rai 16 ac 17 oed yng Nghymru, ond na ddylid ond gwneud hynny ochr yn ochr ag archwiliad manwl iawn o sut rydym yn hyrwyddo gwybodaeth ac ymgysylltiad â phobl ifanc, boed hynny drwy rôl ffurfiol y cwricwlwm a'r ysgolion—. Ac mae'n fater rwyf eisoes wedi'i drafod gyda'r Gweinidog addysg ac rydym yn awyddus i weithio gyda'n gilydd ar sut y gwnawn hyn er mwyn paratoi, os caiff y ddeddf ei phasio, ar gyfer rhoi'r bleidlais i unigolion 16 a 17 oed yn 2021. Ac wrth gwrs, gellir ei wneud mewn cyd-destun mwy anffurfiol, drwy'r cyfryngau cymdeithasol a'n gwaith ar hynny, yn enwedig gyda Senedd Ieuenctid Cymru, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
Yn wir, mae'r pwynt a wnewch ynglŷn ag ymgysylltiad unigolion 16 a 17 mlwydd oed o gymharu ag oedrannau arall o bosibl yn un diddorol. Mae'r dystiolaeth yn yr Alban—ac wrth gwrs, mae rhai 16 a 17 oed yn yr Alban wedi cael pleidleisio ar ddau achlysur o leiaf, yn y refferendwm annibyniaeth ac ar gyfer Senedd yr Alban—wedi dangos bod unigolion 16 a 17 oed yn llawer mwy gwybodus ynghylch mecaneg pleidleisio, a sut i bleidleisio a ble i bleidleisio, na'r ystod oedran sy'n eu dilyn, rhai 18 i 24 oed, lle mae'n bosibl eu bod wedi gadael eu cartrefi a symud i ardal arall ac mae eu profiad cyntaf o bleidleisio mewn ardal nad ydynt mor gyfarwydd â hi. Yn sicr, dyna oedd y profiad diddorol yn yr Alban wrth roi pleidlais i rai 16 ac 17 oed.
O ran y prif newid, mae'r cymalau o fewn y Bil fel y'i drafftiwyd, yn ogystal â'r enw ei hun—y defnydd o 'Senedd' neu 'Senedd'/'Welsh Parliament'—mae'r gwaith hwnnw ar y gweill, fel y dywedoch chi, David, ac edrychaf ymlaen at ddod gerbron y pwyllgor o bobl ewyllys da i weld a allwn ddatblygu syniadau pellach ar hyn. Buaswn yn annog gofal bob amser a dylai'r Aelodau gofio bod hon yn ddeddfwriaeth gyfansoddiadol, ac y bydd angen 40 Aelod o'r Cynulliad, nid mwyafrif syml, i basio'r Bil yn derfynol, ac rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau, wrth feddwl am welliannau diddorol y gallent fod yn dymuno eu cyflwyno i'r Bil yng Nghyfnod 2 a Chyfnod 3, yn cadw mewn cof bob amser y bydd angen 40 Aelod i'w gefnogi yng Nghyfnod 4 ac nid mwyafrif syml yn unig. Roeddwn wedi anghofio mai chi oedd Cadeirydd y pwyllgor cyfansoddiadol yn ystod y pedwerydd Cynulliad, David—maddeuwch i mi am hynny. Ond mae'r darpariaethau mewn perthynas â threfniadau anghymhwyso fel y cawsant eu hamlinellu i ni gan y pwyllgor hwnnw, ac yn sicr felly yng ngoleuni profiad anodd 2011. Felly, rydym bellach yn dilyn Deddf Cymru 2017, sy'n rhoi pwerau inni roi argymhellion y pwyllgor hwnnw mewn deddfwriaeth.
Wrth gwrs, gellir gwella ymgysylltiad cyhoeddus heb fod angen deddfwriaeth, ac mae angen i ni wella'r gwaith hwnnw bob amser. Ond fel y dywedwch, mae yna drafodaeth ddiddorol y mae angen i ni ei chael yma ynglŷn â ffordd fwy gyfranogol o edrych ar wleidyddiaeth yng Nghymru, na fydd yn galw am ddeddfwriaeth o bosibl, ac mae angen inni edrych ar fodelau diddorol y gallwn eu treialu heb ddeddfwriaeth i weld beth sy'n bosibl inni ei wneud er mwyn gwella ein perthynas a dealltwriaeth pobl Cymru o'r hyn a wnawn yma a'u mewnbwn i'r hyn a wnawn ar eu rhan.
A allaf longyfarch y Llywydd ar gyflwyno'r datganiad yma heddiw, a hefyd groesawu, yn sylfaenol, y datganiad ar beth sydd yma o’m blaenau ni? Yn benodol, felly, buaswn i’n cefnogi’n gryf y bwriad i ostwng yr isafswm oedran pleidleisio lawr i 16 ar gyfer etholiadau’r Cynulliad 2020-1. Dwi’n sylweddoli ein bod ni'n gynnar iawn yn nhaith y Bil yma rŵan ac y bydd yn dod o flaen y pwyllgor cyfansoddiadol i gael rhagor o graffu a gogyfer Cyfnod 1. Felly, fel dŷch chi wedi cyfeirio eisoes, ar ddechrau’r daith rydyn ni rŵan, ond man a man inni gytuno’n sylfaenol efo beth dŷch chi wedi’i ddweud.
Dwi’n cofio, yn y trydydd Cynulliad, pan oedd e’n Gynulliad, bryd hynny, aeth y pwyllgor llywodraeth leol dros y dŵr i Ewrop i edrych ar systemau pleidleisio ac oedrannau pleidleisio ac ati, ac aethon ni i lefydd fel Denmarc a Sweden, a beth oedd yn dod yn amlwg yn fanna oedd bod plant yn eu harddegau yn derbyn addysg am y gwahanol bleidiau gwleidyddol—yng ngwledydd fel Denmarc. Hynny yw, roedden nhw’n olrhain yn union beth oedd y blaid 'Lafur' leol yn sefyll amdano fe, beth oedd y 'Plaid Cymru' lleol yn sefyll amdano fe, mewn ffordd a oedd jest yn addysgiadol. Roedd pobl yn derbyn hynny; roedd hynny’n ffordd o ddweud wrth bobl beth oedd y gwahanol safbwyntiau yn eu golygu. Mae hynny wedi gweithio yn Nenmarc dros y blynyddoedd. Dwi’n credu dyna hefyd oedd sylwedd beth oedd yn digwydd yn Sweden hefyd, ac roeddech chi’n gallu gweld fel oedd y plant a phobl ifanc â diddordeb heintus, felly, yn y system bleidleisio, ac yn tueddu i fod yn fwy parod i bleidleisio.
Felly, dyna oedd swm a sylwedd y dystiolaeth gwnaethon ni ei derbyn pan aethon ni i ffeindio allan y ffeithiau go iawn, felly, dros y dŵr. Felly, bydd angen i’r pwyllgor cyfansoddiadol fynd dros y dŵr unwaith eto i weld a ydy’r safbwynt yna wedi newid. Ond, yn bendant, mae yna rai gwledydd eraill ar flaen y gad yn y math hwn o beth. Achos fel y dywedodd David Melding eisoes, y dystiolaeth hefyd y cawson ni o’r daith yna oedd: os nad ydy pobl yn pleidleisio am y ddau dro cyntaf lle gallan nhw bleidleisio, dŷn nhw byth yn mynd i bleidleisio. Dyna beth yw hanfod pwysigrwydd, dwi’n credu, gostwng yr oedran pleidleisio i 16, tra bod y brwdfrydedd heintus yna i gael, ac i wneud yn siŵr bod yr hyder gan bobl ifanc, cyn iddyn nhw adael eu cartref, i bleidleisio, ac maen nhw’n llawer mwy tebyg o bleidleisio wedyn.
Rydyn ni wedi gweld yr un un brwdfrydedd yna efo’n Senedd Ieuenctid ni. Y rhai ohonon ni sydd wedi bod ynghlwm ac yn cyfarfod efo Aelodau’r Senedd Ieuenctid—rhai ohonyn nhw’n ifanc iawn—rŷch chi’n gweld pa mor frwdfrydig ydyn nhw am yr holl broses. Achos mae yna sawl math o anghyfiawnder allan yn fanna ac maen nhw eisiau gwneud rhywbeth amdano fe, ac maen nhw’n gwybod mai'r broses wleidyddol ydy’r ffordd i wneud rhywbeth am y gwahanol anghyfiawnderau—boed am iaith, amgylchedd, beth bynnag—ac maen nhw’n wirioneddol frwdfrydig dros y peth. Mewn ffordd, mae rhai pobl wedi'u dadrithio efo’r systemau gwleidyddol. Dwi ddim yn gweld hynny efo’n pobl ifanc, felly. Rydw i'n credu ei bod hi’n bwysig pwysleisio’r pwynt yna.
Dwi'n gweld bod yr amser yn llamu ymlaen, a dwi'n gweld y ffordd y mae'r Dirprwy Lywydd yn edrych arnaf i, felly fe wnaf i jest crybwyll y pwynt ynglŷn ag enw'r sefydliad yma. Dwi'n credu ei fod yn teilyngu cael ei enwi yn 'Senedd', achos, fel dŷch chi wedi cyfeirio eisoes, dŷn ni wedi gwneud y cam yna rŵan o fod yn Gynulliad oedd â dim pwerau, a dim pwerau dros drethu. Dŷn ni rŵan gyda phwerau deddfu cynradd, a gyda'r pwerau i godi trethi—hynny yw, dŷn ni yn Senedd, felly beth am gael enw fel 'Senedd', yn gydradd, felly, yn nhermau enwau, efo'r Senedd sydd yn yr Alban, a hyd yn oed efo'r Senedd sydd yn San Steffan. Dwi'n deall ambell i sensitifrwydd, ac wrth gwrs mi fyddwn ni'n craffu, llinell wrth linell, ar hyn, ond dwi hefyd yn credu ein bod ni wedi gwneud y cam yna i fod yn Senedd—man a man jest dweud, 'Ie, dŷn ni yn Senedd.' Diolch yn fawr.
Diolch i Dai Lloyd am ei gyfraniad, a diolch am y gefnogaeth i'r gwahanol elfennau mae e wedi cyfeirio atyn nhw yn y Mesur. Fe wnaf i ddim ailadrodd beth dwi wedi ei ddweud eisoes ynglŷn â rhai o'r materion hynny, dim ond i, efallai, bwyntio allan, fel mae Dai Lloyd wedi gwneud—mae yna drafodaeth weddol o hir wedi bod yn arwain lan at y pwynt lle rŷm ni nawr yn edrych i ddeddfu ar newid yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17. Nid rhywbeth newydd sydd yn digwydd am y tro cyntaf erioed unrhyw le yn y byd yma yw hyn yng Nghymru; mae'n digwydd mewn mannau eraill yn y byd, ac mae e'n digwydd o fewn y Deyrnas Gyfunol erbyn hyn hefyd, yn yr Alban. Ac felly, mae yna drafodaeth wedi bod yn y gorffennol am gyflwyno hyn, ond tan nawr, wrth gwrs, tan Ddeddf Cymru 2017, doedd gennym ni ddim y pŵer yn y Senedd yma i wneud y newid yna. Roedden ni'n gallu ei drafod e, yn y trydydd Cynulliad, fel roedd Dai Lloyd yn cyfeirio ato, ond nawr, yn y pumed Cynulliad yma, rŷm ni wedi cael y grymoedd yna i ddeddfu ar ein hetholiadau ni ein hunain, a dyna pam ŷm ni'n medru gwneud hynny nawr, ac rŷm ni'n medru edrych i alw ein hunain yn 'Senedd' oherwydd dyna beth ŷm ni'n ei wneud: deddfu.
A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu'r Bil hwn yn fawr iawn ac yn croesawu'r modd y mae wedi'i ddrafftio? Rwy'n sicr yn edrych ymlaen, ar ôl treulio'r rhan fwyaf o fy mywyd yn dadlau ac yn trafod datganoli, at weld y patrwm hwn o ddiwygio cyfansoddiadol ar waith. Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn uchelgeisiol iawn yn ei weledigaeth wrth ymateb ar ran y Llywodraeth. Sylwais, wrth edrych drwy rai bocsys gartref, fy mod, pan oeddwn yn fy 20au cynnar, wedi ymgyrchu dros 'senate' yng Nghaerdydd. Roedd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, y cefais, rywsut, fy ethol i'w arwain ar y pryd, wedi rhoi caniatâd i mi gynnal yr ymgyrch hon. Fe wnaethom ddewis y term 'senate' oherwydd ei fod yn swnio fel 'senedd' ac oherwydd ei fod yn ddealladwy i bawb—roedd hyn yn ôl yn yr 1980au—a chredaf fod yr hyn rydym yn galw ein hunain yn bwysig, fel mae'n digwydd. Nid wyf yn credu ei fod yn ymarfer technegol neu academaidd, ac nid wyf yn credu ei fod yn ymarfer sy'n porthi balchder neu hunan-dyb. Credaf ei fod yn hanfodol i'r lle hwn, a'r hyn y mae'n ceisio bod. Arthur Henderson, ysgrifennydd cyffredinol y Blaid Lafur ym 1918, a ddywedodd wrth gwrs y gallai Cymru ddod yn baradwys gyda hunanlywodraeth. Nawr, rwy'n siŵr fod eraill wedi'i ddyfynnu yma heddiw. Ond ar y pryd, wrth gwrs, roedd penderfyniad—penderfyniad go iawn—mewn gwahanol rannau o Senedd y DU ar y pryd, i sicrhau ymreolaeth i bawb, a chredaf mai dyna'r fframwaith cyfansoddiadol cywir a phriodol ar gyfer bwrw ymlaen â'r materion hyn, lle mae gan Gymru a'r Alban Seneddau sy'n gallu penderfynu ar y trefniadau domestig ar gyfer y gwledydd hynny o fewn fframwaith y Deyrnas Unedig. Ac rwy'n gobeithio, ar ryw bwynt yn ystod yr ymarfer enghreifftiol hwn o ddiwygio cyfansoddiadol, y byddwn yn edrych ar y materion sy'n effeithio ar ein cymheiriaid, ein ffrindiau a'n cymdogion yn Lloegr yn ogystal. Ond mae hynny y tu hwnt i gwmpas y datganiad hwn y prynhawn yma.
Nid oes llawer o ots gennyf a ydym yn galw ein hunain yn 'Senedd' neu'n 'Parliament'. Yn bersonol, rwy'n defnyddio'r ddau ac mae fy etholwyr yn defnyddio'r ddau. Rwy'n hapus i fod yn 'Aelod Seneddol', ac rwyf yr un mor hapus i fod yn 'Member of the Welsh Parliament'. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw'r pwerau sydd gennym a sut rydym yn arfer y pwerau hynny. Dywedais yn gynharach yn fy sylwadau imi fod yn edrych yn ôl ar fy 20au cynnar—wel, roeddwn yn dathlu fy mhen blwydd yn bum deg bump ddoe. [Torri ar draws.] Diolch yn fawr iawn. Gwn fod llawer o fy etholwyr yn edrych ymlaen at fy ymddeoliad. [Chwerthin.] Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gwneud hynny gyda setliad digonol a phwerau digonol. Y prynhawn yma, rydym eisoes wedi trafod y ffaith bod angen i ni fynd ar ofyn Llywodraeth Dorïaidd er mwyn gallu adeiladu gorsaf drenau yn Abertyleri. Nid yw hynny'n iawn, does bosib. Rydym angen setliad i'n galluogi i wneud hynny ac i fynd i'r afael â materion iechyd meddwl yng ngharchar Caerdydd yn briodol. Fel rydym wedi'i glywed y prynhawn yma, ni allwn wneud hynny chwaith. Felly, yn bersonol, pwerau'r lle hwn sydd bob amser wedi fy nghymell i, a'n gallu i sicrhau newid ar ran y bobl a gynrychiolwn.
Mae gennyf ddiddordeb yn y Dáil yn Iwerddon, a chredaf ei fod yn enghraifft go iawn o sut y mae dwyieithrwydd—fel y mae David Melding wedi'i nodi'n gywir—yn gallu golygu mwy na dim ond defnyddio dau enw ym mhob achos. Fel siaradwr Cymraeg, dywedir wrthyf yn aml mai dwyieithrwydd yw fi'n siarad Saesneg, a chredaf fod angen i ni sicrhau bob hyn a hyn fod gennym dermau yn ein hiaith bob dydd ac yn ein bywyd cenedlaethol sy'n adlewyrchu pwysigrwydd ein hiaith genedlaethol hefyd. Ond mae'n rhywbeth rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu ei ystyried.
Ond y pwynt yr hoffwn ei wneud y prynhawn yma yw fy mod yn gobeithio y bydd hyn yn ddechrau ar ddiwygio mwy sylweddol yn ogystal. I fod yn effeithiol—yng ngeiriau'r Llywydd—rydym angen mwy o Aelodau yma. I fod yn effeithiol, mae'n rhaid i ni hefyd gynrychioli pobl ym mhob rhan o'r wlad yn gyfartal ac i mi, mae hynny'n golygu system gyfrannol, a byddai'n well gennyf system y bleidlais sengl drosglwyddadwy o'n hethol, gan y credaf y byddai'n darparu un dull o ethol ar gyfer yr holl bobl yma, yn hytrach na'r system ddwy haen sydd gennym ar hyn o bryd, sy'n gwneud cam â phawb yn fy marn i. Felly, credaf y dylai hyn fod yn ddechrau proses ac nid ei diwedd, ac edrych wedyn ar sut y gallwn wireddu dinasyddiaeth weithgar. A Lywydd, mwynheais eich rhagymadrodd i'r datganiad hwn yn fawr iawn. I mi, mae dinasyddiaeth weithgar yn ymwneud â sut y diffiniwn ein democratiaeth yn y dyfodol. Am ein bod yn wleidyddion ac wedi ein hethol, mae pawb ohonom yma yn mwynhau math 'pensel fach ar linyn' o ddemocratiaeth. Ni fydd fy mhlant yn adnabod y math hwnnw o ddemocratiaeth, ac mae'n rhaid i'n democratiaeth fod yn wahanol yn y dyfodol i'r un rydym wedi'i phrofi yn y gorffennol, ac mae hynny'n golygu dinasyddiaeth weithgar, cymryd rhan yn weithredol, nid yn unig yn y trafodaethau yn y lle hwn, ond Parliament a Senedd sy'n gallu estyn allan dros Gymru gyfan.
Felly, rwy'n croesawu'r newidiadau i'r etholfraint. Nid wyf yn rhannu'r pryderon sydd wedi'u hamlinellu mewn mannau eraill, ac rwy'n gobeithio hefyd y byddwn yn gallu ymestyn yr etholfraint ymhellach i gynnwys y rheini sy'n bwrw dedfrydau carchar cymharol fyr a'r rheini sy'n ddinasyddion o wledydd eraill ond sydd wedi gwneud eu cartref yn y wlad hon, oherwydd mae angen i ni fod yn Senedd gynhwysol yn ogystal ag un ddemocrataidd.
Felly, wrth groesawu dechrau'r ddadl hon, a chroesawu'r datganiad y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y byddwn yn edrych y tu hwnt i'r hyn y mae'r Bil yn ei ddweud, ac y byddwn yn edrych ar y math o Senedd y mae hon eisiau bod a'r math o wlad lle rydym eisiau i'n Senedd estyn allan a chreu rhywbeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Diolch, Alun. Fe dreulioch gryn dipyn o'ch cyfraniad yn hel atgofion am eich amser yn eich 20au. Roedd yn fy atgoffa o'r amser yn eich 20au pan oeddem ein dau'n aelodau o Gyngor Tref Aberystwyth, y ddau ohonom yn ein 20au bryd hynny, y ddau ohonom ar yr un meinciau bryd hynny hefyd.
Ond wrth gwrs, Cyngor Tref Aberystwyth—. Pan gefais fy ethol yma yn 1999, mewn rhai meysydd roedd gan Gyngor Tref Aberystwyth fwy o bwerau na'r corff y cefais fy ethol iddo, y Cynulliad Cenedlaethol. A dyma ni 20 mlynedd yn ddiweddarach â chorff gwahanol iawn, sefydliad, Senedd bellach sy'n deddfu a chodi trethi. Ac rydym yn Senedd—dyna a wnawn yma ac felly dyna beth y dylem alw ein hunain. Fel y dywedasoch, mae yna Senedd yn yr Alban ac yng Nghymru. Felly, gadewch i ni alw ein hunain yn hynny yn awr.
Ar rai o'r pwyntiau y gorffennoch chi â hwy, wrth gwrs, ceir meysydd eraill ar gyfer diwygio y gallai'r Bil hwn fod wedi edrych arnynt ac a fyddai wedi edrych ar agweddau eraill ar waith adroddiad Laura McAllister ar ymestyn, cynyddu, nifer yr Aelodau sydd eu hangen arnom yn y Senedd hon, yn ogystal â newid y system etholiadau ar gyfer hynny o bosibl. Gwn eich bod chi ac eraill yn y lle hwn yn cefnogi hynny. Mae'r materion hynny yn aros gyda ni, ond pethau ar gyfer rhyw dro eto a Bil arall ydynt.
Ac yn olaf, Gareth Bennett.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Lywydd, am y datganiad heddiw. Rydym yn sylweddoli bod yna gonsensws tebygol, gyda dyfodiad pwerau trethu, y bydd enw'r ddeddfwrfa hon yn newid. Felly, nid ydym yn gwrthwynebu newid fel y cyfryw. Mae llawer o bobl wedi siarad am yr enw. Y cynnig gan y Llywydd heddiw, yn dilyn ymgynghori, yw galw'r ddeddfwrfa yn Senedd. Nawr, pan drafodasom hyn ddiwethaf, gwnaeth Llyr hefyd y pwynt a wnaeth Alun Davies yn awr am Iwerddon fel enghraifft, lle mae ganddynt yr enwau Gwyddeleg Dáil a Taoiseach mewn gwlad lle nad oes cyfradd arbennig o uchel o siaradwyr Gwyddeleg. Felly, o ystyried yr enghraifft hon, mae yna achos dros efelychu hynny yma yng Nghymru drwy ddefnyddio termau fel 'Senedd' ac 'Aelod o'r Senedd'.
Edrychais ar hanes yr enwau Gwyddeleg felly y gallwn gael mwy o oleuni ar hyn. Nawr, defnyddiwyd yr enw 'Dáil' yn gyntaf pan oedd y ddeddfwrfa Wyddelig yn cael ei sefydlu yn y 1920au cynnar. Felly, un fantais a oedd ganddynt yno oedd nad oedd yn fater o ailenwi sefydliad; câi sefydliad newydd ei greu, yn y bôn. Daeth 'Taoiseach' ychydig yn ddiweddarach. Ni chyflwynwyd hwnnw tan 1937, ond tan hynny nid oedd ganddynt Brif Weinidog fel y cyfryw; roedd ganddynt gadeirydd cyngor gweithredol. Felly, unwaith eto, roedd 'Taoiseach' yn enw ar swydd newydd. Credaf y gallai fod anawsterau yma yng Nghymru yn yr ystyr fod gennym y sefydliad hwn eisoes, ac wrth gwrs mae gennym enw ar ei gyfer eisoes, ac mae llawer o bobl yn gyfarwydd â'r termau 'Assembly' ac 'Assembly Members'. Felly, credaf fod dryswch yn mynd i fod ar y cychwyn. Wrth gwrs, gellir goresgyn y dryswch hwn, rwy'n siŵr.
Nawr, os ydym am ddewis 'Senedd', credaf fod hynny wedyn yn arwain at 'Aelod o'r Senedd', sef AS, yn hytrach nag AM. Credaf fod Lee Waters wedi codi mater y tro diwethaf—mater bach eto—y gallai hynny ddrysu gwylwyr rhaglenni Cymraeg, gan mai AS yw'r term a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer 'MPs'.
Mae teitl y Prif Weinidog yr un fath yn Gymraeg—[Anghlywadwy.]
A! Ie, ac mae hynny'n wir hefyd, ond mae'n siŵr y gellir goresgyn y dryswch. Ac wrth gwrs—[Torri ar draws.] O, nid oes dryswch, o'r gorau; fe ymchwiliaf ymhellach.
Ond y pwynt yr oeddwn yn mynd i'w wneud yw hwn: pe baem yn defnyddio 'Parliament' fel arall, byddai hynny'n creu mwy o ddryswch yn ôl pob tebyg, felly credaf fod 'Senedd' yn bosibilrwydd pendant. Er y credaf na fydd newid yr enw yn y modd hwnnw hyd yn oed yn gwarantu y cawn yr orsaf reilffordd y mae Alun Davies ei heisiau yn Abertyleri.
Nawr, gostwng yr oedran pleidleisio—fel y crybwyllais o'r blaen, yn gyffredinol nid yw UKIP yn cefnogi hyn, ond wrth gwrs, rwy'n derbyn y gallai'n hawdd fod uwchfwyafrif yn y lle hwn sy'n ei gefnogi. Felly, os ydym yn gwneud y newid hwn, credaf fod angen inni sicrhau bod gennym raglen glir o addysg wleidyddol. Crybwyllwyd hynny gan nifer o bobl. Gwn fod gan y Llywydd ddiddordeb arbennig yn hyn, a gobeithio y gallwn ddefnyddio profiad y Senedd Ieuenctid i ddatblygu hynny, ac unrhyw oleuni pellach y gallwn ei gael gan wledydd fel Denmarc a Sweden, sydd wedi arloesi gyda hyn yn y gorffennol. Buaswn yn nodi un mater yn unig. Mae hyn yn cael ei gyflwyno ar gyfer etholiadau nesaf y Cynulliad, felly mae amser yn allweddol os ydym yn mynd i ddatblygu rhywbeth. Felly, gobeithio y byddwn yn cadw hynny mewn cof wrth inni fynd ymlaen. Diolch yn fawr iawn.
Diolch am eich ymateb, Gareth Bennett, ac am edrych yn ddyfnach i hanes Iwerddon ar enwi eu Senedd nag y gwnes i, er fy mod wedi gallu mynychu dathliad 100 mlynedd ers sefydlu Dáil Iwerddon ychydig wythnosau yn ôl. Rydych yn gwneud rhai pwyntiau dilys iawn ynglŷn ag agweddau sydd angen eu goresgyn gyda chyflwyno newid enw o'r Cynulliad, boed yn Senedd neu Parliament neu'r ddau. Mae'r rhain yn faterion y mae angen inni fod yn ymwybodol iawn ohonynt wrth wneud y newid hwn, oherwydd mae angen gwneud y newid gyda phobl Cymru'n deall natur y newid hwnnw.
Eisoes rydym wedi ymgynghori â phobl Cymru ac ymatebodd nifer fawr o bobl a oedd yn cydnabod ac yn cefnogi'r angen i newid yr enw o Gynulliad i Senedd, Parliament. Ond cytunaf â chi fod angen inni sicrhau y ceir rhaglen gyfan o ymgysylltiad â phobl er mwyn sicrhau eu bod yn glir iawn, erbyn y daw hyn i rym, mai enw eu sefydliad cenedlaethol gwleidyddol democrataidd yw 'Senedd' yma , nid 'Assembly'.
Yna, yn bendant iawn ar bleidlais i rai 16 a 17 mlwydd oed, deallaf fod eich plaid yn gwrthwynebu hynny mewn egwyddor, ond rwy'n gobeithio, o ystyried y modd y caiff hyn ei gyflwyno yng Nghymru—y caiff ei gyflwyno ar gyfer etholiadau cenedlaethol ac etholiadau lleol, un etholfraint, i bob unigolyn 16 a 17 mlwydd oed sy'n cymryd rhan yn y broses wleidyddol yng Nghymru, a chyda rhaglen ymgysylltu wleidyddol ddatblygedig—efallai y bydd hyd yn oed y rheini ohonoch sy'n amheus ar y pwynt hwn ynglŷn â chyflwyno pleidlais i rai 16 a 17 oed yn gweld bod y pecyn yn ei gyfanrwydd yn gallu ennyn diddordeb pobl ifanc yng Nghymru. Rydym wedi gweld ymateb hynod o frwdfrydig i sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru. Credaf y dylid manteisio ar y brwdfrydedd hwnnw. Mae'r bobl ifanc yn dweud wrthym, yn dangos inni, fod ganddynt ddiddordeb, a dylem eu galluogi felly i gael perchnogaeth ar eu democratiaeth eu hunain er mwyn i bobl ifanc, am yr 20 mlynedd a mwy nesaf, wybod y bydd ganddynt bleidlais yn y modd y gwneir penderfyniadau, a pha un a fydd Alun Davies yn cael gorsaf reilffordd yn ei etholaeth neu beidio. Mae unigolion 16 a 17 oed yn yr etholaeth honno yn haeddu llais yn hynny lawn cymaint â neb arall.
Ac yn olaf, Rhun ap Iorwerth.
Diolch. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Ni wnaf eich cadw; roeddwn am ychwanegu at y ddadl fer iawn a gawsom ar y gyfatebiaeth â Gweriniaeth Iwerddon. Oireachtas—a maddeuwch fy ynganiad—yw enw'r Senedd; mae gennych y Dáil Éireann a'r Seaned Éireann fel Siambrau o fewn y Senedd honno. Os ewch ar Google a rhoi 'Oireachtas' i mewn, mae'n dweud 'homepage of the Irish Parliament'. Nawr, nid yw Irish Parliament yn enw swyddogol o gwbl ar y Senedd, ond mae'n ddisgrifydd, a chredaf fod angen inni symud tuag at gael enw, un enw, 'Senedd', am ein Senedd genedlaethol newydd, ond mae angen y ddeddfwriaeth hon arnom hefyd, wrth gwrs, i ddisgrifio ein newid ar y daith honno o fod yn Gynulliad, a oedd yn derm a oedd yn ein rhoi ar lefel is na Senedd yr Alban. Mae angen y ddeddfwriaeth hon i fynd â ni ar y daith i fod yn Senedd. Felly, credaf fod angen 'Senedd' fel enw, mae arnom angen ffordd drwy'r ddeddfwriaeth hon i gael 'Parliament' yno fel disgrifydd, ac edrychaf ymlaen at ein gweld yn defnyddio hyn fel cam i sefydlu ein hunain hyd yn oed ymhellach yng nghalonnau a meddyliau pobl Cymru dros ein 20 mlynedd nesaf a thu hwnt.
Diolch, Rhun—diolch ichi am ganiatáu cyfle i mi gau yn awr, mae'n debyg, drwy ddweud bod y Bil yn ailenwi'r Cynulliad Cenedlaethol yn 'Senedd' yn swyddogol, ond mae'n caniatáu ar wyneb y Bil i 'Senedd' gael ei ddisgrifio fel 'Welsh Parliament'. Dyna beth fydd, beth ydyw, beth ydym—'Welsh Parliament'—ond ein henw swyddogol fydd y Senedd. Ond dechrau'r ddeddfwriaeth yw hyn. Mae'n cael ei chyflwyno ar y pwynt hwn a bydd y pwyllgorau a'r Cynulliad—Senedd—yn ei gyfanrwydd yn craffu ar hynny a bydd ganddynt safbwyntiau gwahanol ar ble y byddwn yn y pen draw ar ddiwedd y Bil hwn. Ond diolch i chi am y cyfle i gyflwyno'r Bil hwn, ac edrychaf ymlaen at fynd gerbron y pwyllgor o bobl o ewyllys da i graffu ar y ddeddfwriaeth hon ymhellach.
Diolch yn fawr iawn. Credaf ei bod yn bwysig ein bod wedi ymestyn yr amser ar hynny, fel y gwnaethom ar y rhan fwyaf o'r teithiau cyfansoddiadol y mae rhai ohonom wedi bod arnynt ers 1999. Felly, dyna ni.