2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 20 Chwefror 2019.
5. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod datblygwyr yn cadw at amodau cynllunio? OAQ53468
Mae rhwymedigaeth gynllunio yn gontract preifat cyfreithiol rwymol rhwng datblygwr ac awdurdod cynllunio lleol. Felly, nid yw ymlyniad datblygwr i gytundeb o'r fath yn fater ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Wel, dwi'n anghytuno gyda hynny, oherwydd mae yna enghreifftiau cyson iawn erbyn hyn o achosion lle mae yna ddatblygwyr, hyd yn oed ar ôl cael caniatâd cynllunio, yn gwrthod darparu'r canran angenrheidiol o dai fforddiadwy y maen nhw wedi cytuno i'w darparu fel rhan o'r amod cynllunio, a'r rheswm, yn syml iawn, wrth gwrs, yw achos nad ydyn nhw'n gallu gwneud digon o elw allan o'r cynllun. Os nad oes yna reidrwydd iddyn nhw gadw at y cymal hwnnw doed a ddelo, yna pam gosod y cymal yn y lle cyntaf? Felly, beth ŷch chi am ei wneud fel Llywodraeth—a ddim golchi'ch dwylo o'r mater yma, oherwydd mae'n broblem genedlaethol—i gynorthwyo awdurdodau lleol i sicrhau bod cymalau fel hyn sy'n dynodi nifer y tai fforddiadwy angenrheidiol yn cael eu parchu a'u gwireddu gan ddatblygwyr?
Clywaf yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Pan fo rhwymedigaethau cynllunio yn cael eu negodi gan awdurdodau lleol a datblygwyr—ac maent yn cynrychioli amodau pwysig, gan gynnwys amodau y mae llawer ohonom yn y Siambr hon o'u plaid—mae'n bwysig fod y datblygwr yn diogelu hynny er budd y cyhoedd. Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, os yw'r cyhoedd wedi bod yn dilyn cais cynllunio penodol gyda disgwyliad penodol, mae ganddynt hawl i ddisgwyl y cedwir at y rhwymedigaethau hynny, ac rwy'n ymwybodol, fel y dywedwch, o ddatblygwyr sy'n ceisio ailnegodi rhai o'r ceisiadau cynllunio hynny ar ôl sicrhau cydsyniad i ddatblygu. Gwn fod hynny'n rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn ymwybodol iawn ohono, ac mae'n edrych ar y mater.
Ddirprwy Weinidog, buaswn yn ddiolchgar pe gallech egluro i mi faint o gynnydd rydych yn ei wneud mewn gwirionedd o ran dod i benderfyniad ynghylch yr asesiad o'r effaith amgylcheddol sydd ei angen ar gyfer boeler biomas y Barri. Mae'n rhwymedigaeth roeddech yn bwriadu ei chefnogi. Mae rhwymedigaethau'n mynd y ddwy ffordd—fe'u gosodir gan awdurdodau cynllunio ar ddatblygwyr, ond lle mae'r Llywodraeth wedi nodi eu dyhead amlwg i roi rhywbeth ar waith, yna does bosib nad yw 13 mis yn amser digonol i chi allu ffurfio barn a gwneud datganiad yn ei gylch? Mae trigolion yn y Barri, a'r datblygwr hefyd bellach, wedi bod yn aros ers cryn dipyn o amser. A allwch roi syniad clir inni y prynhawn yma, o leiaf o'r amserlen rydych yn gweithio iddi er mwyn caniatáu i'r penderfyniad hwnnw gael ei wneud?
Rwy'n ymwybodol iawn o'r sylwadau a wnaed yn ddyfal eisoes gan yr Aelod ynglŷn â'r mater hwn, ac o'r sylw lleol a chyhoeddus a'r teimlad cyhoeddus wrth ei wraidd, a pham. O ran y penderfyniad, rydych yn gofyn mewn perthynas ag asesiad effaith amgylcheddol y cais cynllunio yr ymdrinnir ag ef gan gyngor Bro Morgannwg, a gwn fod y cyn Brif Weinidog wedi ysgrifennu atoch i ddweud nad oedd yn rhagweld penderfyniad cyn y Nadolig, ond mae eglurhad cyfreithiol pellach ar agweddau ar yr achos wedi bod yn angenrheidiol. Rwy'n deall rhwystredigaeth yr Aelod ynglŷn â hyn a pham ei fod yn gwthio ar ran ei etholwyr, ond rwy'n siŵr y bydd yn cytuno, ar fater fel hwn, ei bod yn bwysig fod pethau'n cael eu gwneud, ac y cawn yr holl ystyriaeth gyfreithiol orau y gallwn ei chael er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniad gorau, a bydd penderfyniad yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl.