Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 20 Chwefror 2019.
Rwy'n credu'n gryf fod atal hunanladdiad yn fusnes i bawb ac yn gyfle i bawb. Hoffwn siarad am bob argymhelliad ond o gofio'r cyfyngiadau amser, rwyf am ganolbwyntio ar ddau faes. Mae'r cyntaf yn arbennig o agos at fy nghalon—hunanladdiad ymhlith pobl ifanc a'r gorgyffwrdd rhwng yr adroddiad hwn ac adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, oherwydd ceir cysylltiad anorfod rhwng y ddau. Hunanladdiad yw'r prif achos marwolaeth ymhlith pobl ifanc rhwng 15 a 19 oed. Mae mwy na 200 o blant yn marw drwy hunanladdiad bob blwyddyn yn y DU. Yn 2017, bu farw 226 o blant drwy hunanladdiad. Mae'n sgandal genedlaethol. Fel y dywedodd Papyrus wrth ein hymchwiliad, pe bai Ebola neu HIV neu unrhyw glefyd arall yn lladd 200 o blant ysgol bob flwyddyn, byddem yn taflu miliynau o bunnoedd ato. Rwy'n cytuno. Roedd canfyddiadau 'Cadernid Meddwl' yn glir. Mae'r her uniongyrchol yn awr i'w gweld ar ben ataliol y llwybr, gyda lles emosiynol, cydnerthedd ac ymyrraeth gynnar.
Mae dameg yr afon yn teimlo'n fwy perthnasol yn awr nag erioed. Rwy'n siŵr fod rhai ohonoch yn gwybod amdani, ond i grynhoi: un noson, roedd pentrefwyr yn eistedd ar lan yr afon, yn barod i fwyta, pan sylwodd un pentrefwr ar blentyn ifanc yn arnofio â'i ben i lawr yn yr afon. Neidiodd sawl pentrefwr i mewn a cheisio achub y plentyn. Roedd yn rhy hwyr. Ychydig amser yn ddiweddarach, gwelwyd plentyn ifanc arall yn pesychu ac yn sgrechian wrth iddo ymdrechu i gadw ei ben uwchben y dŵr. Y tro hwn, roedd y pentrefwyr yn fwy ffodus ac fe oroesodd y plentyn, er ei fod yn gleisiau byw. Parhaodd y digwyddiadau hyn, a bu'n rhaid i'r pentrefwyr achub mwy a mwy o blant o'r afon—weithiau'n llwyddiannus, ond nid bob amser. Yn fuan, câi holl adnoddau a grym pobl y pentref eu cyfeirio at achub cymaint o blant ag y gallent. Roedd yn mynd â sylw cyson y pentrefwyr, a bu'n rhaid iddynt anghofio am bethau eraill yr arferent eu gwneud. Câi hyn ei dderbyn am ei fod yn achos mor deilwng. Un diwrnod, dechreuodd dau o'r pentrefwyr gerdded i ffwrdd o'r pentref, gan anelu i fyny'r afon. Gofynnwyd iddynt, 'I ble rydych chi'n mynd? Mae eich angen yma i helpu i achub y plant.' Atebodd y pentrefwyr, 'Rydym yn mynd i fyny'r afon i ddarganfod pam y mae'r plant hyn yn yr afon yn y lle cyntaf.'
Dyna'n bendant lle credaf fod angen inni fod—i fyny'r afon, cyn i bobl ifanc ddisgyn i'r afon yn y lle cyntaf. Dyna pam rwy'n falch iawn fod 'Busnes Pawb' wedi llwyr gymeradwyo'r argymhellion yn 'Cadernid Meddwl', sy'n anelu at wneud yn union hynny. Dyma'r tro cyntaf i un adroddiad pwyllgor gymeradwyo a chefnogi un arall yn llawn yn y modd hwn, a hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am y ffordd golegaidd y mae'n arwain y pwyllgor iechyd ac am y bartneriaeth adeiladol sydd wedi datblygu rhwng ein dau bwyllgor ar fater sylfaenol iechyd meddwl ein cenedl. Oherwydd nid pobl ifanc yn unig a fydd yn elwa o argymhellion 'Cadernid Meddwl'—maent yn sefydlu map ffordd ar gyfer datblygu cydnerthedd i bawb.
Rydym wedi clywed heddiw am faint yr her mewn perthynas â hunanladdiad ymhlith dynion. Dyma'r prif achos marwolaeth ymhlith dynion o dan 45 oed. Heb rithyn o amheuaeth, mae'n argyfwng iechyd cyhoeddus. Eto, nid yw'r rhan fwyaf o ddynion sy'n marw drwy hunanladdiad wedi cael unrhyw gyswllt blaenorol â gwasanaethau iechyd meddwl cyn eu marwolaeth. Felly, sut mae eu cyrraedd? Gyda hanner yr holl broblemau iechyd meddwl yn dechrau yn ystod plentyndod, mae Samariaid Cymru wedi dweud wrthym fod gan ddatblygu cydnerthedd ac ymyrraeth gynnar yn yr ysgolion ran bwysig i'w chwarae yn atal hunanladdiad ymhlith dynion. Rwy'n cytuno.
Byddaf fi ac aelodau eraill y pwyllgor yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud cynnydd gyda 'Cadernid Meddwl'. Ond yn y cyfamser, mae angen inni barhau i dynnu pobl ifanc o'r afon. Felly, roeddwn yn siomedig iawn fod yr argymhellion a wnaed yn 'Cadernid Meddwl' a'u hailadrodd yn llawn bron flwyddyn yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn ar yr angen i gyhoeddi canllawiau brys i ysgolion ar siarad am hunanladdiad ond wedi'u derbyn mewn egwyddor yn unig unwaith eto.
Nawr, rwy'n croesawu'n fawr y gwaith sydd wedi'i wneud ar baratoi canllawiau ar gyfer ysgolion gan yr Athro Ann John, ond rwy'n pryderu'n fawr nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw ymrwymiad i wneud y canllawiau hyn yn statudol. Nid yw siarad am hunanladdiad yn achosi hunanladdiad. Mae siarad am hunanladdiad yn achub bywydau. Mae pob diwrnod a gollir ar hyn yn ddiwrnod pan allem weld plentyn arall yn marw drwy hunanladdiad fel y gwelsom, yn wir, ers cyhoeddi 'Cadernid Meddwl'. Ni all aros tan ein bod wedi gweithredu'r diwygiadau eraill.
Mae colli rhywun rydych yn ei garu i hunanladdiad yn golled fwy dinistriol na'r un. Mae pobl sydd wedi cael profedigaeth yn sgil hunanladdiad yn wynebu risg lawer uwch eu hunain o farw drwy hunanladdiad. Felly, roeddwn yn siomedig mai mewn egwyddor yn unig y derbyniwyd argymhelliad 15 ar gymorth i bobl sydd wedi cael profedigaeth yn sgil hunanladdiad. Yn ystod yr ymchwiliad, cyfarfuom â grŵp o berthnasau yn Sefydliad Jacob Abraham a oedd wedi colli meibion, gwŷr, tadau i hunanladdiad. Roedd un wraig wedi colli ei dau fab yn sgil hunanladdiad—sy'n atgoffa'n dorcalonnus o'r risg y mae profedigaeth hunanladdiad yn ei chreu. Mae'n arswydus na chafodd yr un o'r teuluoedd hynny unrhyw gymorth arbenigol, ar wahân i'r cymorth y mae'r sefydliad yn ei gynnig, sefydliad nad yw'n derbyn unrhyw arian statudol ac sy'n gweithredu o'r llaw i'r genau. Weinidog, nid wyf angen adolygiad arall i ddweud wrthyf fod cymorth profedigaeth hunanladdiad yng Nghymru yn druenus o annigonol a bod angen inni roi sylw iddo ar fyrder.
I gloi, gwn fod y pwyllgor iechyd a fy mhwyllgor i'n gofyn llawer gan y Llywodraeth ar iechyd meddwl, ac nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Hefyd rwy'n cydnabod ymrwymiad y Gweinidog a'r Gweinidog Addysg i'r grŵp gorchwyl a gorffen i gyflawni argymhellion 'Cadernid Meddwl'. Mae Llywodraeth Cymru yn ein hatgoffa'n rheolaidd fod iechyd meddwl yn flaenoriaeth yn 'Ffyniant i Bawb', ond eto nid ydym yn gweld digon o dystiolaeth o hynny ar lawr gwlad. Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl a chorfforol yn cael ei wireddu yng Nghymru.