Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 20 Chwefror 2019.
Nid oeddwn yn aelod o'r pwyllgor pan ddaeth y dystiolaeth i law wrth gwrs, ac rwyf am ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon drwy fynegi fy niolch i bawb oedd yn rhan o'r gwaith pwysig iawn hwn—i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, i staff, ac yn bennaf oll, wrth gwrs, i'r rhai a roddodd dystiolaeth. Mae hwn yn adroddiad eang a chynhwysfawr, ac fel y dywedodd Lynne Neagle, credaf y gallai unrhyw un ohonom sy'n cyfrannu at y ddadl hon siarad amdano am oriau. Rwyf am ganolbwyntio ar dri o'r argymhellion yn unig.
Rwyf am ddechrau gydag argymhelliad 2 ynghylch ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae'n hanfodol ein bod yn creu hinsawdd lle mae pawb o ddifrif yn deall bod hunanladdiad yn fusnes i bawb. Gall hunanladdiad effeithio ar unrhyw deulu mewn unrhyw gymuned ar unrhyw adeg, ac mae'n dal yn anodd iawn siarad amdano. Mae cywilydd o hyd, mae stigma o hyd, ac ni ddylai hynny fod o gwbl. Mae angen inni i gyd fod yn ymwybodol pan fydd rhai o'n cwmpas yn teimlo'n ynysig, yn unig ac yn ddiobaith, fod angen inni fod yn barod i ofyn os yw rhywun yn iawn, ac i wrando, i wrando go iawn ar eu hateb, ac efallai'n anad dim ar yr hyn nad ydynt yn ei ddweud.
Ac mae angen inni fod yn fwy agored, ac yn yr ysbryd hwn y rhannaf gyda'r Siambr hon heddiw y ffaith bod fy nheulu fy hun yn un o'r rhai yr effeithiwyd arnynt. Pan oeddwn yn ferch fach iawn, fe wnaeth fy nghefnder David, a oedd yn ei arddegau hwyr, gyflawni hunanladdiad. Rwy'n cofio'n bennaf sut nad oedd yno mwyach yn sydyn iawn, a phan ofynnais lle'r oedd, dywedwyd wrthyf am fod yn ddistaw. Ni siaradwyd am beth oedd wedi digwydd, a chymerodd flynyddoedd i mi wybod yn iawn. Un peth y gwyddwn oedd na fu fy modryb annwyl byth yr un fath eto.
Nawr, roedd hynny flynyddoedd lawer yn ôl wrth gwrs, ac mae llawer wedi newid, ond nid yw'n ddigon. A daw hyn â mi at argymhelliad 15 a'r rhai eraill sy'n cyfeirio at yr angen i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y rhai sydd mewn galar. Hoffwn ategu pob gair a ddywedodd Lynne Neagle yn awr. Wrth gwrs, yn y 1960au, pan gollasom fy nghefnder, nid oedd dim i'w gael. Ni chafodd fy modryb ei chynorthwyo i fynd i'r afael â'r galar ofnadwy a'r emosiynau cymhleth y mae'r rhai sydd mewn profedigaeth yn eu dioddef, ac nid yw hyn yn syndod. Yr hyn sy'n syndod ac yn syfrdanol yn wir, yw bod llawer o deuluoedd yr effeithir arnynt gan hunanladdiad heddiw yn dal i fethu cael unrhyw gymorth profedigaeth, heb sôn am y cymorth profedigaeth hunanladdiad arbenigol sydd ei angen arnynt ac y dylai fod ganddynt hawl iddo. Clywodd y pwyllgor am enghreifftiau ardderchog o arferion da, ond mae Aelodau'n dweud yn yr adroddiad eu bod wedi'u 'syfrdanu' ynghylch y diffyg cymorth sydd ar gael o hyd i'r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad, ac rwyf innau wedi fy syfrdanu hefyd. Ni all hyn barhau. Nid oes angen i gymorth o'r fath fod yn ddrud, ond ni ellir mesur y gost i'r rhai nad ydynt yn cael yr help. Rhaid i Lywodraeth Cymru, gydag asiantaethau priodol, sicrhau bod cymorth profedigaeth priodol ar gael i bawb sydd ei angen, pan fo'i angen, ar ffurf sy'n gweithio iddynt, ym mhob rhan o Gymru. Yn benodol, mae angen iddynt gefnogi sefydliadau trydydd sector sy'n rhagori ar hyn. A rhaid imi ddweud, fel y dywedodd Lynne Neagle wrth y Gweinidog, yn hyn o beth, nid yw derbyn mewn egwyddor yn ddigon. Yn rhy aml, mae derbyn mewn egwyddor yn golygu gwthio o'r neilltu. Rwy'n gobeithio'n fawr nad dyna yw bwriad y Gweinidog, a hoffwn ofyn iddo adolygu'r penderfyniad hwnnw i dderbyn mewn egwyddor a'i droi heddiw'n dderbyniad llawn.
Yn olaf, hoffwn droi'n gyflym at argymhelliad 18, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod hunanladdiad ymhlith dynion fel blaenoriaeth genedlaethol. Nid oes unrhyw amheuaeth nad yw stereoteipiau rhywiaethol ynglŷn ag ymddygiad gwrywaidd derbyniol yn cyfrannu'n uniongyrchol at y gyfradd hunanladdiad uchel iawn mewn dynion. Mae'r gymdeithas yn dal i fethu annog dynion a bechgyn i fod yn agored am eu mannau gwan—gwgir ar wendid o hyd. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn ymwybodol o effeithiau negyddol rhywiaeth a normau patriarchaidd ar fywydau menywod a merched. Mae angen inni gofio bod y rhywiaeth honno, y normau patriarchaidd hyn, weithiau'n llythrennol angheuol i ddynion a bechgyn hefyd. Mae argymhelliad 18 yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddyrannu cyllid priodol ac i roi dulliau newydd ar waith i annog dynion i siarad am eu hiechyd meddwl a gofyn am help. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu. Ond mae un peth y gallai pob un ohonom ei wneud. Gadewch i bawb ohonom ymrwymo heddiw i beidio byth eto â dweud wrth fachgen bach, 'Nid yw bechgyn mawr yn crio.'
Mae ymateb cyffredinol cadarnhaol Llywodraeth Cymru i argymhellion y pwyllgor i'w groesawu ar y cyfan, ond mae angen brys, fel y dywedodd Dai Lloyd a Lynne Neagle ac eraill. Ni ddylai unrhyw un ohonom orffwyso hyd nes y bydd Cymru yn rhydd rhag hunanladdiad. Bydd y pwyllgor yn craffu'n agos ar gyflawniad y Llywodraeth ar yr agenda hanfodol hon, a bydd yn fraint gennyf gymryd rhan yn y gwaith hwnnw.