Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 20 Chwefror 2019.
Wel, Ddirprwy Lywydd, yn yr holl flynyddoedd y bûm mewn bywyd cyhoeddus, nid wyf wedi teimlo'n fwy annigonol wrth godi ar fy nhraed i gymryd rhan mewn dadl, yn dilyn yr araith rymus honno gan Jack Sargeant, oherwydd ni all yr un ohonom, wrth gwrs, gymharu ag ef mewn profiad na gwybodaeth—er mor drasig yw gorfod dweud hynny. Cefais fy nghyffwrdd gan hunanladdiad yn anuniongyrchol, ond nid yn uniongyrchol, ac mae'n beth ofnadwy iawn, wedi'i wneud yn fwy grymus fyth, rwy'n credu, gan y ffordd y disgrifiodd Jack ei effaith ar ei deulu.
Fe wnaeth gwraig i ffrind agos iawn i mi o ddyddiau prifysgol gyflawni hunanladdiad ychydig cyn y Nadolig heb unrhyw fath o rybudd, a gwn pa mor ddinistriol yw effaith hyn ar bawb. Roedd Jack yn llygad ei le wrth ddweud ei fod yn effeithio nid yn unig ar y teulu agos, ond hefyd ar y cylch ehangach o ffrindiau yn ogystal. Ac mae'n anodd dychmygu, mewn gwirionedd, y lle du y mae rhywun ynddo, yn teimlo mor ddiobaith mai dyma'r unig ffordd allan, ac mae'n cyffwrdd â chalonnau pawb, rwy'n credu, i ddim ond meddwl amdano. Ac rwyf fi wedi bod mewn mannau du yn fy mywyd innau hefyd. Cefais fy nghyhuddo drwy dwyll am gamymddygiad rhywiol a chyrraedd tudalennau blaen y papurau newydd a'r eitem gyntaf mewn bwletinau newyddion, a gwn am y pwysau a'r effaith y gall hynny ei chael arnoch. Ni chefais fy nhemtio i gyflawni hunanladdiad erioed, ond profais ymdeimlad o unigrwydd ac anobaith, a dyna'r unigrwydd sydd wrth wraidd yr holl broblem hon. Fel y dywedodd Jack yn dda iawn, mae angen inni edrych ar ôl ei gilydd yn hyn o beth. Pan fydd pobl yn teimlo nad oes neb y gallant droi atynt, am ba reswm bynnag—. Credaf eto fod Helen Mary Jones wedi taro'r hoelen ar ei phen pan ddywedodd, yn enwedig mewn perthynas â dynion, ein bod—yn sicr dynion yn fy nghenhedlaeth i, o leiaf—yn llawer rhy dawedog. Nid wyf yn cael unrhyw anhawster i fynegi fy hun yn gyhoeddus, ond rhaid imi ddweud, ar faterion emosiynol, caf anhawster o'r mwyaf i fod yn agored yn breifat, mewn amgylchiadau lle byddai o fudd i mi fod yn agored. Ac rwy'n bell o fod yr unig un i fod felly. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn i gael gwared ar ba stigma bynnag sy'n weddill mewn perthynas â hunanladdiad neu feddyliau hunanladdol. Rydym wedi dod yn bell iawn ers Deddf Iechyd Meddwl 1959, pan oedd unrhyw un a oedd â rhyw fath o salwch meddwl yn cael ei ddisgrifio'n swyddogol fel ynfytyn moesol a meddyliol. Wrth gwrs, mae llawer mwy o ddealltwriaeth yn y gymdeithas heddiw nag a oedd yn y byd y cefais fy ngeni iddo, ond mae gennym ffordd bell iawn i fynd, ac mae gan Lywodraeth rôl bwysig iawn yn hyn o beth rwy'n meddwl, ac yn enwedig mewn perthynas â dynion, fel y nododd Helen Mary. Yn wir, nododd Dai Lloyd hefyd yn ei araith agoriadol ein bod wedi darganfod bod dynion canol oed yn benodol—. Yn anffodus, nid oeddwn yn aelod o'r pwyllgor pan gawsant y dystiolaeth, ond rwyf wedi darllen yr adroddiad a llawer o'r dogfennau sydd ynghlwm wrtho gyda diddordeb mawr. Mae problem arbennig gyda dynion, a gorau po fwyaf o bobl fy nghenhedlaeth i sy'n gallu siarad am y peth yn gyhoeddus, gan y gallai hynny helpu rhywun.
Mae rolau elusennau a'r trydydd sector yn hyn i gyd yn gwbl hanfodol yn ogystal. Mewn byd lle mae teuluoedd yn chwalu, yn aml iawn caiff y dyn ei anghofio am mai menywod yw mwyafrif llethol y dioddefwyr trais yn y cartref, ond gall dynion hefyd fod yn ddioddefwyr trais yn y cartref weithiau. Lle mae teuluoedd yn chwalu, a phlant yn cael eu dwyn ymaith, mae hynny hefyd yn aml yn achos hunanladdiad ymhlith dynion, ac efallai fod angen mwy o sylw i hynny. Fel llawer o'r Aelodau, mae elusen o'r enw Both Parents Matter wedi cysylltu â mi i ddwyn hyn i fy sylw, a dyna pam rwy'n tynnu sylw ato yn y ddadl heddiw. Heb leihau pwysigrwydd gofalu am fenywod yn yr amgylchiadau hyn mewn unrhyw ffordd, mae'n bwysig i ni gofio hefyd y gall dynion fod yn ddioddefwyr hefyd.
Mae'n drasiedi ac efallai yn gondemniad o gymdeithas heddiw fod hunanladdiad ar gynnydd. Mae'n baradocs, onid yw, mewn byd o gyfathrebu byd-eang a chyfathrebu ar amrantiad, ac mewn byd sy'n fwyfwy trefol, y gall pobl deimlo'n fwy unig nag erioed. Rhaid inni wneud popeth y gallwn, bob un ohonom mewn bywyd cyhoeddus, i sicrhau ein bod yn lleihau'r stigma ac yn manteisio i'r eithaf ar y cymorth y gellir ei roi i bobl sydd mor ddiobaith fel eu bod yn cael eu temtio i gyflawni hunanladdiad.