Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 20 Chwefror 2019.
Mi ddaeth rhywun i'm gweld i yn y gymhorthfa'r wythnos diwethaf, yn digwydd bod—mam a oedd yn galaru ar ôl i'w merch farw o hunanladdiad. Mi oedd hi'n galaru ac yn gofyn 'Pam?' Pam fod dim mwy wedi gallu cael ei wneud i'w helpu hi? Pam fod beth sy'n amlwg iddi hi rŵan fel arwyddion bod bywyd ei merch mewn peryg ddim wedi cael digon o sylw ar y pryd? Mi oedd hi wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl. Mi driodd gymryd ei bywyd ei hun unwaith, meddai'r fam. Dair wythnos yn ddiweddarach, mi gafodd hi gynnig ymgynghoriad iechyd meddwl ar y ffôn.
Nid dyma y tro cyntaf i fi eistedd mewn stafell efo teulu yn galaru mewn amgylchiadau tebyg ers i fi gael fy ethol, ac mae llawer gormod o famau, o dadau, o frodyr a chwiorydd, plant, cyfeillion hefyd yn gofyn 'Pam?' A dyna wnaethon ni fel pwyllgor, mewn difri, ac mi ges i fy sobri wrth gymryd rhan yn yr ymchwiliad. Mi gafodd pob un ohonon ni. Mi glywsom ni am brofiadau pobl sydd wedi dioddef effeithiau hunanladdiad. Mi dderbynion ni dystiolaeth am y mesurau all gael eu mabwysiadau yma yng Nghymru i ymateb i'r argyfwng cenedlaethol yma. Dwi'n cydnabod bod yna waith yn cael ei wneud gan y Llywodraeth, ond dyma dŷn ni yn ei wynebu—argyfwng, dim llai. Hunanladdiad ydy'r prif achos o farwolaeth mewn dynion ifanc yng Nghymru, fel dŷn ni wedi clywed; y prif achos o farwolaeth ymhlith pawb o dan 35. Mae o'n deillio o rywbeth a all gael ei atal. Pe bai o'n salwch corfforol, fel dŷn ni wedi clywed yn barod, mi fyddai popeth yn cael ei daflu ato fo i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ond ar hyn o bryd dydyn nhw ddim.
Mae angen codi ymwybyddiaeth, felly, am y materion sydd ynghlwm â hunanladdiad. Mae angen mwy o hyfforddiant, mae angen ansawdd uwch o hyfforddiant, mae angen llwybrau cliriach drwy'r system iechyd i helpu'r rheini sy'n dangos risg o hunanladdiad. Ond yn ganolog, dwi'n meddwl, o'm rhan i, i'r argymhellion, yw bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd pob cam posib i sicrhau bod cydraddoldeb rhwng darpariaeth gofal iechyd a darpariaeth gofal meddwl. Dwi’n clywed yn llawer rhy aml gan etholwyr am eu trafferthion yn cael mynediad at ofal iechyd meddwl. Yn aml, mae o’n cynnwys trafferth cael mynediad at wasanaethau i blant a phobl ifanc, ac mae’n rhaid i hyn newid. Mae angen gwneud mwy i sicrhau ac i annog pobl i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw ac i chwilio am hwnnw yn fuan. Mae angen codi ymwybyddiaeth am y math o gymorth sydd ar gael cyn iddyn nhw gyrraedd y pwynt o argyfwng.
A dwi’n clywed yn rhy aml am bobl fregus yn cael eu troi i ffwrdd o wasanaethau pan maen nhw’n mynd i chwilio amdano fo—yn clywed, o bosib, nad ydy eu cyflwr iechyd meddwl nhw yn cael ei ystyried yn ddigon difrifol. Mi oedd yna achos diweddar yn Ynys Môn dros y Nadolig: hogyn ifanc wedi lladd ei hun er iddo fo fynd i’r ysbyty i chwilio am help. Yn anffodus, doedd yna ddim gwely iddo fo; ystyriwyd nad oedd angen hynny arno fo. Mi benderfynodd o ei hun beth oedd angen ei wneud er mwyn lleddfu ei boen. Ac mi oedd yn ergyd drom iawn i’r gymuned yna—cymuned sydd wedi ymateb drwy dynnu at ei gilydd ac adnabod bod hunanladdiad, fel dŷn ni’n ei drafod heddiw, yn fusnes i bawb. A dwi’n falch iawn o ymateb mudiadau fel y ffermwyr ifanc, unigolion fel Laura Burton o’r mudiad Amser i Newid Cymru, sydd wedi ymateb drwy benderfynu lledaenu’r neges yna o fewn ein cymunedau ni am effeithiau hunanladdiad a'r ffactorau all arwain ato fo. Mae yna rôl inni gyd chwarae wrth warchod ein gilydd.
Mae’r rheini sydd wedi colli rhywun i hunanladdiad yn erfyn arnon ni i sicrhau nad oes rhaid i’r un rhiant neu bartner neu blentyn arall ddioddef fel y gwnaethon nhw. Dŷn ni wedi clywed yr apêl yna gan Jack eto y prynhawn yma. Ydyn, mi ydyn ni’n siarad mwy am iechyd meddwl y dyddiau yma nag y buon ni, ac mae hynny’n gam bositif, heb amheuaeth, tuag at gael gwared ar y stigma sydd yna o gwmpas iechyd meddwl. Ond mae yna ffordd bell iawn i fynd o hyd. Mae chwarter y boblogaeth, fel dŷn ni’n ei glywed fel ystadegyn yn aml iawn, yn mynd i ddioddef o afiechyd meddwl o ryw fath yn ystod eu hoes. Dŷn ni i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi cael ei daro ac mi allem ninnau gael ein taro ein hunain ar unrhyw adeg hefyd. Felly, mae’n rhaid inni barhau i siarad am iechyd meddwl ac mae’n rhaid inni siarad am hunanladdiad, ond mae’n rhaid hefyd inni gofio bod yn rhaid i’r siarad yna fynd law yn llaw â gweithredu.