6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: 'Busnes Pawb: Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 4:28, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Rwyf am ddechrau heddiw drwy groesawu'r adroddiad hwn a'r gwaith caled a wnaeth y pwyllgor ar y mater, ac ategaf y sylwadau a wnaed gan Aelodau ar draws y Siambr y prynhawn yma hefyd. Mae'n hen bryd inni drafod y mater hynod bwysig hwn yn Siambr y Senedd, ac wrth baratoi ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, roeddwn yn meddwl y buaswn yn mynd yn ôl at rywbeth y daeth fy mam a minnau ar ei draws wrth inni fynd drwy ddillad fy nhad ar ôl ei farwolaeth drist. Pryd bynnag yr arferem edrych yn siacedi ei siwtiau, byddem yn aml yn dod o hyd i feiro nad oedd yn gweithio, sbectol wedi torri neu ruban gwyn. Ond ar yr achlysur hwn, gwelsom ddarn o bapur, bwydlen o ginio cyngor tref yng Nghei Connah, ac ar y cefn roedd wedi ysgrifennu'r geiriau hyn yr oedd yn mynd i seilio ei araith arnynt: 'Edrych ar ôl ein gilydd'.

Ddirprwy Lywydd, rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad i'r ddadl hon heddiw yn yr ysbryd hwnnw. Ni all dim eich paratoi ar gyfer effaith barhaol hunanladdiad. Mae'n dorcalonnus a gall yr effeithiau ar aelodau o'r teulu ac anwyliaid fod yn ddifrifol a phellgyrhaeddol. Mae'r effaith grychdonnog yn eich taro'n arbennig—mae'n fy nharo i. Mae wedi effeithio ar ffrindiau agos yn ogystal â ffrindiau i ffrindiau, ac roedd llawer o fy ffrindiau yn edrych ar fy nhad fel ail dad. Rai dyddiau, bydd yr effeithiau hyn yn fach, ac weithiau byddwn yn gwneud cynnydd. Ac ar ddyddiau eraill, rwy'n cael trafferth codi o'r gwely.

Yn anffodus, mae ffrindiau a theulu y rhai sydd wedi cyflawni hunanladdiad yn profi effeithiau ar eu hiechyd meddwl eu hunain. Mae deall eich bod wedi colli rhywun rydych yn eu caru drwy hunanladdiad yn ddigon trawmatig. Yn bersonol, gallaf ddweud eich bod yn dechrau cael teimladau eraill, ac mae'r teimladau hynny'n effeithio ar eich iechyd a'ch lles eich hun—y teimlad o euogrwydd, dicter, dryswch, trallod ynghylch materion sydd heb eu datrys a llawer iawn mwy—a gwn fod pob un wedi cael effaith hirdymor arnaf fi a byddant yn parhau i wneud hynny. A gwn eu bod wedi cael effaith hirdymor ar eraill mewn llawer o ffyrdd gwahanol hefyd.

Mae'n hynod o syfrdanol fod ystadegau yn 2017 yn dangos bod 360 o bobl wedi cyflawni hunanladdiad yng Nghymru yn unig, ac mae'n deimlad ofnadwy fod fy nhad yn un o'r 360 hynny. Mae'n arswydus fod miloedd o bobl eraill wedi cael teimladau hunanladdol. Fel y gŵyr yr Aelodau, rwy'n ceisio siarad yn agored am y mater hwn oherwydd gwn fod eraill yn dioddef yn dawel. Ni waeth pa mor galed yw hi, byddaf yn parhau i siarad. Dyna fyddai fy nhad wedi ei ddymuno; dyna fyddai ef wedi'i wneud.

Ddirprwy Lywydd, rhaid i mi dalu teyrnged i Abbie Penell o Bontypridd a oedd yn y newyddion yn ddiweddar am siarad am effeithiau hunanladdiad yn dilyn hunanladdiad ei thad. Ac roedd hi'n hollol gywir ynglŷn â'r angen am gymorth i'r rhai sydd wedi cael profedigaeth yn sgil hunanladdiad, a rhaid imi ddweud fy mod yn parchu ei dewrder.

Ddirprwy Lywydd, rwyf am orffen drwy ddweud y geiriau a ddywedodd Dai Lloyd yn gynharach: mae hunanladdiad yn fusnes i bawb. Rhaid i bawb ohonom wneud mwy i gefnogi ei gilydd. Rhaid i bawb ohonom wneud mwy i atal hunanladdiad. Nid wyf am i deulu arall fynd drwy'r hyn rydym ni'n dal i fynd drwyddo. Felly, gadewch imi fynd â chi'n ôl i ddechrau fy araith, gadewch i ni gofio'r geiriau a oedd gan fy nhad ar y darn hwnnw o bapur yn siaced ei siwt: Edrych ar ôl ein gilydd. Diolch, Ddirprwy Lywydd.