Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 20 Chwefror 2019.
A gaf fi gofnodi fy niolch i bawb a roddodd dystiolaeth yn yr ymchwiliad hwn, gan gydnabod pa mor anodd oedd gwneud hynny i gynifer ohonynt? Yn ystod ein gwaith eang ar y pwyllgor iechyd, rydym yn ystyried rhai materion anodd. Rydym wedi ymdrin â theuluoedd sy'n byw gyda dementia, y defnydd o gyffuriau gwrthseicotig, heriau unigedd ac unigrwydd, i enwi ond ychydig, ond roeddwn yn ystyried mai'r ymchwiliad i atal hunanladdiad oedd y mwyaf heriol, a'r mwyaf dirdynnol ar adegau, o'r profiadau hyn. Yn wir, ar yr adeg pan benderfynasom gynnal yr ymchwiliad, fel y gwyddom, ac fel y mae Jack wedi siarad mor rymus yn ei gylch heddiw, rydym ni yn y lle hwn wedi cael ein cyffwrdd yn uniongyrchol gan drychineb hunanladdiad, felly rwy'n ymwybodol o ba mor agos yw'r pwnc i bob un ohonom.
I mi, un o'r negeseuon allweddol o'r ymchwiliad oedd yr angen am fwy o ymwybyddiaeth. Daeth hynny'n amlwg ar ôl gwrando ar hanesion rhieni, plant, gwŷr, gwragedd, chwiorydd, brodyr mewn profedigaeth—pobl sy'n chwilio am atebion i pam y gwnaeth eu hanwyliaid gyflawni hunanladdiad. Roedd yn dorcalonnus. Ac fel rhiant fy hun, teimlais y fath dristwch llethol ar ôl siarad â'r rhieni yn Sefydliad Jacob Abraham fel na allwn aros i gyrraedd adref y noson honno i siarad â fy nau fab fy hun i dawelu fy meddwl bod popeth yn eu bywydau yn iawn ac i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod ei bod yn iawn i siarad â mi am unrhyw beth oedd yn achosi pryder iddynt. Ac eto, ar ôl ystyried, mae'n debyg ei bod hi'n sioc bersonol i mi hefyd i sylweddoli pa mor gymharol gyfyngedig oedd fy ymwybyddiaeth o hunanladdiad a sut i sylwi ar yr arwyddion, neu i fod yn ymwybodol o'r technegau ar gyfer gwneud ymyriadau. Sylweddolais y dylai diffyg ymwybyddiaeth fod yn ysgytwad i bawb ohonom. Oherwydd clywsom y teuluoedd hynny'n dweud pan oedd pobl yn siarad â hwy wedyn am yr arwyddion, eu bod yn gallu gweld eu bod yno, ond nad oeddent yn eu hadnabod neu'n gwybod beth i fod wedi'i wneud. Bod yn ymwybodol o'r arwyddion hynny yw'r cam cyntaf i gael y sgwrs a allai atal trychineb. Rwy'n ymwybodol o'r dystiolaeth i'r ymchwiliad gan Zero Suicide Alliance a ddywedodd wrthym nad oes unrhyw ffordd rwydd o ofyn i rywun os ydynt yn bwriadu lladd eu hunain, ond ni fydd hynny'n ei wneud yn fwy tebygol.
Yna, roedd clywed nad chafodd teuluoedd mewn profedigaeth fawr ddim cymorth yn union ar ôl eu trasiedi, dim mynediad at wybodaeth berthnasol ar daflen hyd yn oed, yn rhoi cyngor ymarferol iddynt ar beth i'w wneud nesaf—roedd hynny'n syfrdanol hefyd a dweud y lleiaf. Felly, ar ôl buddsoddi mewn cymorth fel Cymorth wrth Law Cymru, mae angen inni wneud yn siŵr fod y cymorth hwnnw ar gael ar draws ein gwasanaethau gofal sylfaenol, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau trydydd sector eraill, a bod gan bobl y wybodaeth angenrheidiol i gynnig cyngor ymarferol pan fo'i angen, oherwydd nid yw wedi digwydd hyd yn hyn.
Am wybodaeth ynghylch profiadau ar y rheng flaen, roedd hefyd yn ddefnyddiol clywed tystiolaeth ynglŷn â sut y mae'r heddlu yn ymdrin ag achosion o hunanladdiad. Nodais y dystiolaeth ynglŷn â'u rhaglenni hyfforddi presennol. Rhaid inni adeiladu ar y math hwnnw o brofiad hefyd. Ond er bod gan yr heddlu waith annymunol o fynd i ddweud wrth berthynas am farwolaeth o ganlyniad i hunanladdiad, am nad oes trosedd wedi'i chyflawni, cefais fy nharo nad ydynt yn treulio fawr o amser os o gwbl yn siarad â theuluoedd neu'n eu cysuro er mor gydymdeimladol ydynt ar lefel bersonol. Mewn cyferbyniad, fodd bynnag, mae'r heddlu'n darparu cymorth i deuluoedd mewn amgylchiadau eraill drwy eu swyddogion cyswllt teulu os yw'r unigolyn ymadawedig wedi dioddef trosedd. Felly, roedd tystiolaeth fel hyn yn cadarnhau sut y gallwn helpu fwyfwy ar draws y gwasanaethau cyhoeddus i wneud yn siŵr fod hunanladdiad yn fusnes i bawb a pham y mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r holl bartneriaid i ganolbwyntio ar fynd i'r afael ag achosion, gan ddarparu cymorth a gweithio ar atal.
Lywydd, er bod ein hymchwiliad yn eang ac yn edrych ar amrywiaeth eang o ystadegau hunanladdiad, i mi, fel Lynne Neagle, yn yr wythnos y clywsom ganfyddiadau cwêst Derek Brundrett 14 oed o Sir Benfro a gyflawnodd hunanladdiad yn 2013, daeth yn glir i mi fod hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yn destun pryder arbennig. Mae pobl ifanc yn agored i ddylanwadau, maent yn ymdrin â llawer o newidiadau yn eu bywydau, drwy'r glasoed, ysgol, prifysgol, symud oddi cartref. Yn aml nid ydynt yn barod ar gyfer y pwysau y mae'r newidiadau hyn yn ei achosi a gallant ddioddef yn ofnadwy o ddiffyg hunan-barch a theimladau o ddiymadferthedd a methu gwybod ble i fynd neu at bwy i droi am help. Er bod y dystiolaeth yn awgrymu mai ymwybyddiaeth a thrafod yw'r ffordd orau o atal yn aml, fel y crybwyllwyd o'r blaen, clywsom hefyd fod ysgolion yn aml yn amharod i fynd i'r afael â hyn ac i siarad am hunanladdiad.
Ond yn fwyaf pryderus, pan fydd pobl ifanc yn estyn allan, yn ymarferol anaml y ceir y lefel o gymorth sydd ar gael yn ddamcaniaethol ar yr adeg y mae ei angen. Clywsom am bobl ifanc sydd wedi cyflawni hunanladdiad tra'n aros am gymorth cynghori, am feddygon teulu nad ydynt yn gallu cael mynediad uniongyrchol at gyngor proffesiynol, am apwyntiadau'n cael eu canslo am fod seicolegydd neu gwnselydd yn absennol oherwydd salwch. Cefais fy nharo gan y gymhariaeth a roddwyd i ni ynglŷn â hyn. Roedd hi'n annhebygol, er enghraifft, y byddai apwyntiad yn cael ei ganslo pe baech yn glaf canser a oedd yn mynd am eich triniaeth radiotherapi. Byddai rhywun arall yn ei gymryd. Roedd y ddadl ynglŷn â pharch cydradd i iechyd corfforol ac iechyd meddyliol yn amlwg yn yr enghraifft honno.
Fodd bynnag, rhwng ymdrechion Lynne Neagle ac adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cadernid Meddwl', a'r adroddiad hwn yn awr, rwy'n fodlon ein bod yn darparu tystiolaeth ar gyfer achos parhaus dros newid sylweddol yn ein gwasanaethau ymyrryd. Dim ond drwy ddarparu—