– Senedd Cymru am 2:16 pm ar 5 Mawrth 2019.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw'r datganiad—. Nage, mae'n ddrwg gen i. Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol.
Roedd y ddau ohonom wedi camgymryd ar y pwynt hwnnw, rwy'n credu.
Felly, y cwestiwn cyntaf i'r Cwnsler Cyffredinol yw cwestiwn gan Helen Mary Jones.