Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 6 Mawrth 2019.
A gaf fi ddweud un peth am y cyfansoddiad ac am y broses yma, oherwydd dyma'r tro cyntaf i mi gael y fraint o ymateb i ddadl fer, ac yn wir i gymryd rhan mewn dadl fer o gwbl? Pan oedden ni'n sefydlu Rheolau Sefydlog yn y lle yma, flynyddoedd maith yn ôl, roeddem ni'n meddwl bod y ddadl fer yn bwysig iawn, oherwydd nid dadl ydy hi mewn gwirionedd, ond cyfle i Aelod neu Aelodau gyfrannu ar fater neu bwnc sydd o ddiddordeb iddyn nhw, ac maen nhw'n teimlo y dylai fo gael ei wrando arno yn gyhoeddus. A gallwn i ddim meddwl am enghraifft well, John, o ddefnyddio'r ddadl yma i'r pwrpas na'r hyn rydym ni wedi ei glywed y prynhawn yma.
Mae'n bwysig inni gael ein hatgoffa, rydw i'n credu, fod tirwedd Cymru—wel, tirwedd pobman yn y byd, ond y dirwedd rydym ni'n gyfreithiol gyfrifol amdano fo yn y lle hwn yr ydym ni'n siarad amdano fo'r prynhawn yma—mae tirwedd Cymru yn nodedig ac yn unigryw. A'r elfen arall amdano fo, wrth gwrs, ydy pan mae yna newidiadau yn cael eu gwneud i dirwedd am ba resymau bynnag—mae John wedi sôn, ac mi wnaf innau sôn am rai o'r digwyddiadau hanesyddol dros gyfnod, a digwyddiadau yn ymwneud efo hinsawdd—ond mae unrhyw newid fel yna yn aml iawn yn newid na allwch chi ei droi nôl; mae'n ddiwrthdro. Does dim modd ichi ymyrryd yn ôl, a dyna ydy natur y greadigaeth, natur y byd rydym ni'n byw ynddo fo.
Ac mae'r amrywiaeth yma o dirwedd yn cyfrannu tuag at ansawdd bywyd mewn ffordd sydd yn anfesuradwy, mewn gwirionedd, ac fel rydym ni wedi'i glywed yn glir iawn gan John yn ei gyflwyniad, mae yma filoedd o flynyddoedd o effaith y natur ddynol ac o bobl ar dirwedd arbennig. Mae'r dirwedd yma yn nodweddiadol gan ei bod hi yn dirwedd llawn ymyrraeth—mae'n dirwedd artiffisial iawn ar un ystyr, er bod peth o'r gweithgarwch artiffisial yna wedi cael ei wneud gan natur a thywydd. Mae hynny yn rhoi diddordeb hanesyddol eithriadol iddi hi, a diddordeb o ran adloniant ac amwynder a mwynhad.
Mae'n bwysig cofio hefyd fod y dirwedd bob amser yn dirwedd fyw. Hynny yw, nid rhywbeth wedi ei gosod ar un amser yn y gorffennol; mae'r dirwedd yn dal i ddatblygu. A beth sydd wedi fy nharo i bob tro y byddaf i'n cerdded lefelau Gwent ydy bod gennych chi anferthedd pwerdai ac adeiladau diwydiannol ar un ochr, ac anferthedd yr Hafren ei hun—Môr Hafren fel rydym ni'n ei alw fo yn y Gymraeg, wrth gwrs—anferthedd natur ac anferthedd adeiladau dynol yn cyfosod â'i gilydd. Mae cael natur mor ddwys â hynna mewn ardal ddiwydiannol yn rhywbeth arbennig iawn, dwi'n meddwl, i Gymru ac i ymwelwyr â Chymru, oherwydd mae o'n dangos sut ydym ni'n gallu achub a chadw a diogelu a chynnal tirwedd naturiol nodedig, er ein bod ni'n cael datblygiadau hanesyddol a datblygiadau cysylltiadau o bob math yn effeithio ar ein hamgylchedd ni.
Mae John wedi sôn dipyn am yr amgylchiadau hanesyddol, ac mae'r rhain yn wir o ddiddordeb mawr. Wrth gwrs, fuaswn i ddim yn Weinidog sy'n cynrychioli Cadw yn y lle hwn heblaw fy mod i'n sôn am y darganfyddiadau archaeolegol cyffrous mae John hefyd wedi cyfeirio atyn nhw—yr olion traed dynol mesolithig 8,000 o flynyddoedd oed, y cwch o'r Oes Efydd y clywson ni amdano fo, adeiladau a llwybrau yr Oes Haearn, a'r cyfan sydd wedi goroesi o'r cyfnod Rhufeinig a'r cyfnod canoloesol. Dwi ddim yn meddwl bod yna unrhyw amgylchedd arall yng Nghymru lle rydych chi'n gallu darllen hanes Cymru o’ch cwmpas jest wrth edrych. Does dim rhaid ichi gael llyfr, dŷch chi'n gweld—fe allwch chi gael llyfr neu, o hyn ymlaen, fe allwch chi fynd ag araith John a’r ychydig o ymatebion gen i fan hyn fel rhyw fath o arweinlyfr i weld beth sydd o’ch cwmpas chi—y mae hanes yn adrodd ei hun, fel petai, yn yr amgylchedd yma.