11. Dadl Fer: Gwastatir Gwent: Tirwedd Unigryw a Hanesyddol

– Senedd Cymru am 5:31 pm ar 6 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:31, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Felly, symudwn at eitem 11, sef y ddadl fer, a galwaf ar John Griffiths i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis. John.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle heddiw i ddathlu tirwedd unigryw a hanesyddol gwastatir Gwent. Mae'n un o'r ardaloedd mwyaf o arfordir a gorlifdir pori yn y DU, yn cynnwys clytwaith cyfoethog o wahanol gynefinoedd a thirwedd yn rhedeg ar hyd arfordir aber yr Hafren, o Gaerdydd a Chasnewydd, heibio i'r ail bont Hafren a thu hwnt. Mae rhan sylweddol o'r gwastatir yn dod o fewn ffiniau Dwyrain Casnewydd—safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac ardal o harddwch naturiol ag iddi werth amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd sylweddol iawn i ranbarth de-ddwyrain Cymru a Chymru gyfan.

Defnyddiwyd y tir a'r môr gan bobl o leiaf ers yr oes Fesolithig. Mae olion traed ac arteffactau cynhanesyddol o Oes yr Iâ a'r Oes Efydd sydd wedi goroesi ym mwd aber yr Hafren yn dal i ddatgelu cliwiau gyda phob llanw newydd ynglŷn â sut y defnyddiwyd y dirwedd hon. Yn wir, mae'r forwedd yn llawn o gliwiau daearegol am ei gorffennol a'r oes cyn i bobl wneud defnydd ohoni. Mae'r clogwyni coch sy'n codi o'r morfeydd heli yn Black Rock yn llawn o ffosiliau plesiosoriaid a phryfed o'r adeg pan drawsnewidiwyd yr ardal o fod yn anialwch poeth a sych i fod yn fôr cynnes trofannol, tua 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Yn archeolegol, mae'r gwastatir llaid rhynglanwol wedi datgelu olion aneddiadau o'r Oes Efydd fel y gwelir wrth yr olion troed dynol, y darganfyddiadau caregaidd, esgyrn anifeiliaid wedi'u cigydda, llwybrau prysgwydd a thai crwn. Canfuwyd darganfyddiadau o'r Oes Haearn yn Allteuryn, gydag adeiladau pren hirsgwar, llwybrau, a thrapiau pysgod ar silff o fawn cors.

Datgelwyd tystiolaeth o arwyddocâd morwrol yr ardal hefyd. Darganfu archeolegwyr dameidiau o gwch o'r Oes Efydd ger castell Cil-y-coed sy'n dyddio o tua 1,800 Cyn Crist, a darganfuwyd olion cwch Celtaidd-Rufeinig Fferm Barland o'r bedwaredd ganrif ger Magwyr, mewn cyflwr rhyfeddol o gyflawn, cwch a rannai rai o nodweddion cychod o dde-orllewin Llydaw a ddisgrifiwyd gan Iwl Cesar yn 56 CC.

Mae'r darganfyddiadau pwysig hyn, i enwi ond ychydig ohonynt, yn pwysleisio cyflwr cadwraethol nodedig y deunydd archeolegol ar y gwastatir ac o'i gwmpas. Mae cofnodion hanesyddol yn datgelu llawer o straeon dynol am yr ymdrech galed a chorfforol oedd ei hangen er mwyn cynnal y dirwedd unigryw hon dros ganrifoedd lawer. Câi llawer ohono ei ddraenio â llaw gan ddefnyddio offer sylfaenol tan mor ddiweddar â'r 1960au. Mae cymeriad cymunedau lleol yn adlewyrchu'r cysylltiad hynafol rhwng pobl ac aber yr Hafren. Blodeuodd pwysigrwydd yr aber i fasnach forol o'r cyfnod canoloesol ymlaen, ac yn enwedig yn dilyn y chwyldro diwydiannol a drawsnewidiodd Gaerdydd i fod yn un o borthladdoedd glo mwyaf y byd. Câi cymunedau yn Allteuryn, Redwick, Llanrhymni a Llan-bedr Gwynllŵg eu gwasanaethu gan y mannau glanio bach, traddodiadol ar gyfer masnachu ar draws y sianel. Bydd llawer o bobl leol yn cofio'r basgedi llanw ysgerbydol traddodiadol a ddefnyddid i ddal eogiaid. Mae olion y strwythur cynhaliol yn amlwg o hyd ar y glannau ar adeg llanw isel. Heddiw, pysgotwyr Black Rock yw'r rhai olaf i ddefnyddio rhwydi golchi yng Nghymru. Trosglwyddwyd y traddodiad i lawr drwy'r cenedlaethau a bellach mae'r pysgotwyr wrthi'n weithredol yn hyrwyddo treftadaeth y bysgodfa fel atyniad i dwristiaid yn rhan o'u nod i gadw hanes ac arferion yn fyw i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau. Mae'r ardal yn dirwedd a luniwyd yn bendant iawn â llaw gan y cymunedau a fu'n byw yno ers ei hadfer o'r aber, gwaith a ddechreuodd yn y cyfnod Rhufeinig, a dylid dathlu'r straeon hyn am gysylltiadau pobl â'u hamgylchedd.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 5:36, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Ni fu'r berthynas rhwng yr ardal isel hon a'r môr heb ei thrasiedi. Dangosir yr elfen o densiwn a pherygl yn fwyaf amlwg gan lifogydd trychinebus 1607. Rhoddodd ymchwydd llanw—tswnami yn ôl rhai—ardaloedd mawr o dan y dŵr ar ddwy ochr Môr Hafren. Amcangyfrifir bod 2,000 neu fwy o bobl wedi boddi, a thai a phentrefi wedi'u hysgubo ymaith pan aeth oddeutu 200 milltir sgwâr o dir amaethyddol o dan ddŵr, a lladdwyd da byw, gan chwalu economïau lleol. Dywedwyd bod arfordir Dyfnaint a Gwastatir Gwlad yr Haf cyn belled i mewn i'r tir ag Ynys Wydrin, 14 milltir o'r arfordir, wedi'u heffeithio. Mae'r trychineb hwn a nifer o ddigwyddiadau llifogydd dilynol yn tynnu sylw at yr angen parhaus i reoli amddiffynfeydd rhag llifogydd, lefelau dŵr a'r system ddraenio yn ofalus, ond hefyd maent yn ein hatgoffa pam na ddylem byth anghofio ein straeon lleol. Bydd ymweliad ag Eglwys Mair Magdalen yn Allteuryn neu Eglwys y Santes Fair yn Nhre'ronnen yn dangos placiau a marciau wal sy'n cofnodi'r llifogydd ac uchder y dŵr.

Ac wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd, mae mwy na gwerth hanesyddol y gwastatir yn unig i'w ddathlu. Mae ei ecoleg yn aruthrol o arwyddocaol, yn cynnal amrywiaeth fawr o fywyd gwyllt. Mae'r ffosydd a'r corsydd yn darparu llu o gyfleoedd i rywogaethau gwahanol, o'r planhigion fasgwlaidd blodeuol lleiaf yn y byd a'r chwilen blymio fwyaf i ysglyfaethwyr uchaf fel nadredd y gwair, crehyrod bach copog a dyfrgwn. Cadarnhawyd bod nifer o rywogaethau gwarchodedig Ewrop a'r DU yn bresennol, gan gynnwys pathewod, nadredd y gwair, rhai rhywogaethau ystlumod, y fadfall ddŵr gribog a llygoden bengron y dŵr. Mae'r llygoden bengron y dŵr garismatig—un o fy ffefrynau, gan fy mod yn hyrwyddwr rhywogaeth llygod pengrwn y dŵr yr Ymddiriedolaeth Natur—wedi diflannu'n lleol, ond bellach ceir cannoedd ohonynt ac mae eu niferoedd yn cynyddu, diolch i raglen ailgyflwyno a rheoli mincod a reolir gan Ymddiriedolaeth Natur Gwent.

Mae gwarchodfa a chanolfan ymwelwyr yr RSPB, a grëwyd fel modd o wneud iawn am golli cynefin wrth datblygu morglawdd Bae Caerdydd, yn baradwys i bobl sy'n gwylio adar. Dyma'r unig le yng Nghymru y gallwch weld y crychydd godidog yn nythu am y tro cyntaf ers 400 mlynedd, ac mae hefyd yn gartref i rywogaethau prin eraill yng Nghymru megis y titw barfog, adar y bwn a bodaod tinwen. Mae'r amodau arbennig a grëir gan y gwahanol gyfundrefnau ar gyfer rheoli lefelau dŵr a llystyfiant yn cyfrannu at yr amgylchedd cyfoethog hwn. Ceir wyth safle gwlyptir o ddiddordeb gwyddonol arbennig sy'n gartref i adar prin a bregus a rhywogaethau amrywiol â chynefinoedd cymhleth.

Mae'r ardal yn meddu ar yr amrediad llanw mwyaf ond un yn y byd, gyda 15m wedi'i gofnodi rhwng y llanw uchaf a'r llanw isaf. Mae'n ardal hynod ag iddi werth mawr i Gymru, ei phreswylwyr, ei phoblogaethau lleol ac ymwelwyr posibl, yn enwedig ymwelwyr o ardaloedd trefol gerllaw. Mae ganddi lawer iawn i'w gynnig, ond mae ei stori a'i thirwedd yn gynnil ac yn amlach na pheidio, ni chânt eu gwerthfawrogi'n llawn.

O ystyried gwerth amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd y lle, mae'n galonogol gweld gwaith ar y gweill i gydnabod a dathlu'r pwysigrwydd hwn yn well. Mae ein planed, yr hinsawdd, yr amgylchedd, bioamrywiaeth a bywyd gwyllt o dan fygythiad ac mewn perygl, ac yn anffodus, nid yw pobl erioed wedi bod mor bell oddi wrth y byd naturiol yn eu bywydau bob dydd ag yr ydym heddiw. Mae angen dimensiwn dynol cryf i greu mwy o ymdeimlad o ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'r gwlyptiroedd hyn a dyma lle mae prosiect Lefelau Byw, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, wedi camu i'r adwy. Daeth eu partneriaeth dirweddol ynghyd i gyflwyno rhaglen waith a fydd yn hyrwyddo ac yn ailgysylltu pobl â'r hanes, y bywyd gwyllt a'r harddwch gwyllt. Mae'n werth tua £4 miliwn ac yn cael ei hariannu gan gronfa dreftadaeth y loteri, a'i harwain gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar. Y nod yw gwarchod ac adfer nodweddion treftadaeth naturiol pwysig yr ardal, i ddatblygu gwerthfawrogiad llawer cryfach o werth y dirwedd, ac i ysbrydoli pobl i ddysgu am ei threftadaeth ac i gymryd rhan ynddi. Mae'n golygu ailgyflwyno perllannau afalau, cysylltu ag ysgolion lleol, gwaith ar y cyd â Chyngor Dinas Casnewydd i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon, a phoblogrwydd caffis a bwytai yn Allteuryn a chanolfan gwlyptiroedd yr RSPB. Ceir cyfle newydd yn awr i ddatblygu'n gynaliadwy a defnyddio rhyfeddod y gwastatir.

Ddirprwy Lywydd, rhaid inni annog rhagor o bobl i ymweld â'r ardal arbennig hon a mwynhau'r hyn sydd ganddi i'w gynnig. Bydd cerdded, beicio, archwilio a phrofi yn sicrhau gwell dealltwriaeth ynglŷn â pham y dylid gofalu amdani a'i gwarchod. Mae'n hafan o heddwch a llonyddwch tawel, sy'n gymorth i hybu lles ac iechyd. Braf yw gweld canolfan yr RSPB ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent yng ngwarchodfa natur cors Magwyr yn croesawu miloedd o ymwelwyr bob wythnos, gan gynnwys llawer iawn o blant ysgol sy'n cyflawni gweithgareddau ac yn mwynhau dysgu am natur.

Wrth gwrs, mae'n gyfnod heriol, ac mae'r dirwedd yn wynebu peryglon yn ogystal â chynnig cyfleoedd. Mae llwybr ffordd liniaru arfaethedig yr M4 ar draws y gwastatir yn fygythiad mawr a fyddai'n achosi difrod sylweddol a pharhaol os yw'r cynllun yn mynd rhagddo, tra bo Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gyda'i gilydd yn creu fframwaith ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd fwy cynaliadwy, yn gydweithredol ac ar raddfa fawr.

Mae buddsoddiad mawr drwy lwybr arfordir Cymru a llwybrau beicio'r rhwydwaith cenedlaethol wedi cynyddu potensial yr ardal i wasanaethu nifer gynyddol o breswylwyr ac ymwelwyr sy'n chwilio am gyfleoedd hamdden o'r dinas-ranbarth ac ymhellach i ffwrdd. Rhaid sicrhau mwy o werthfawrogiad a buddsoddiad er mwyn gwneud yn siŵr fod yr ardal, ei bywyd gwyllt, ei hanes a'r bobl y mae wedi'i chysylltu wrthynt yn gynhenid yn cael eu cynnal ar gyfer Cymru a chenedlaethau'r dyfodol. Mae'r dirwedd yn eiconig ond yn fregus, a rhaid inni weithio gyda'n gilydd i adeiladu dyfodol mwy gwydn. Bydd deall treftadaeth, hanes a bioamrywiaeth ein cymunedau yn sicrhau ein bod i gyd yn teimlo perchnogaeth dros eu cadwraeth.

Felly, hoffwn annog pawb i ymweld â'r lle arbennig iawn hwn yn ne-ddwyrain Cymru. Boed drwy syllu ar ryfeddod haid o ddrudwennod ar wlyptiroedd Casnewydd, gwylio llygod pengrwn y dŵr ar gors Magwyr, cymryd rhan mewn un o'r nifer o weithdai diddorol a gynhelir gan brosiect Lefelau Byw, neu gerdded ar hyd y wal fôr yn Allteuryn i chwilio am ddarganfyddiad cynhanesyddol, y ffordd orau o ddysgu am y rhan unigryw a rhyfeddol hon o Gymru yw dod yno i'w mwynhau, a dysgu drwy wneud hynny pam y mae'r gwastatir yn haeddu cael ei ddiogelu a'i gynnal ar gyfer heddiw a chenedlaethau'r dyfodol.

Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:44, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ymateb i'r ddadl?

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 5:45, 6 Mawrth 2019

A gaf fi ddweud un peth am y cyfansoddiad ac am y broses yma, oherwydd dyma'r tro cyntaf i mi gael y fraint o ymateb i ddadl fer, ac yn wir i gymryd rhan mewn dadl fer o gwbl? Pan oedden ni'n sefydlu Rheolau Sefydlog yn y lle yma, flynyddoedd maith yn ôl, roeddem ni'n meddwl bod y ddadl fer yn bwysig iawn, oherwydd nid dadl ydy hi mewn gwirionedd, ond cyfle i Aelod neu Aelodau gyfrannu ar fater neu bwnc sydd o ddiddordeb iddyn nhw, ac maen nhw'n teimlo y dylai fo gael ei wrando arno yn gyhoeddus. A gallwn i ddim meddwl am enghraifft well, John, o ddefnyddio'r ddadl yma i'r pwrpas na'r hyn rydym ni wedi ei glywed y prynhawn yma.

Mae'n bwysig inni gael ein hatgoffa, rydw i'n credu, fod tirwedd Cymru—wel, tirwedd pobman yn y byd, ond y dirwedd rydym ni'n gyfreithiol gyfrifol amdano fo yn y lle hwn yr ydym ni'n siarad amdano fo'r prynhawn yma—mae tirwedd Cymru yn nodedig ac yn unigryw. A'r elfen arall amdano fo, wrth gwrs, ydy pan mae yna newidiadau yn cael eu gwneud i dirwedd am ba resymau bynnag—mae John wedi sôn, ac mi wnaf innau sôn am rai o'r digwyddiadau hanesyddol dros gyfnod, a digwyddiadau yn ymwneud efo hinsawdd—ond mae unrhyw newid fel yna yn aml iawn yn newid na allwch chi ei droi nôl; mae'n ddiwrthdro. Does dim modd ichi ymyrryd yn ôl, a dyna ydy natur y greadigaeth, natur y byd rydym ni'n byw ynddo fo. 

Ac mae'r amrywiaeth yma o dirwedd yn cyfrannu tuag at ansawdd bywyd mewn ffordd sydd yn anfesuradwy, mewn gwirionedd, ac fel rydym ni wedi'i glywed yn glir iawn gan John yn ei gyflwyniad, mae yma filoedd o flynyddoedd o effaith y natur ddynol ac o bobl ar dirwedd arbennig. Mae'r dirwedd yma yn nodweddiadol gan ei bod hi yn dirwedd llawn ymyrraeth—mae'n dirwedd artiffisial iawn ar un ystyr, er bod peth o'r gweithgarwch artiffisial yna wedi cael ei wneud gan natur a thywydd. Mae hynny yn rhoi diddordeb hanesyddol eithriadol iddi hi, a diddordeb o ran adloniant ac amwynder a mwynhad. 

Mae'n bwysig cofio hefyd fod y dirwedd bob amser yn dirwedd fyw. Hynny yw, nid rhywbeth wedi ei gosod ar un amser yn y gorffennol; mae'r dirwedd yn dal i ddatblygu. A beth sydd wedi fy nharo i bob tro y byddaf i'n cerdded lefelau Gwent ydy bod gennych chi anferthedd pwerdai ac adeiladau diwydiannol ar un ochr, ac anferthedd yr Hafren ei hun—Môr Hafren fel rydym ni'n ei alw fo yn y Gymraeg, wrth gwrs—anferthedd natur ac anferthedd adeiladau dynol yn cyfosod â'i gilydd. Mae cael natur mor ddwys â hynna mewn ardal ddiwydiannol yn rhywbeth arbennig iawn, dwi'n meddwl, i Gymru ac i ymwelwyr â Chymru, oherwydd mae o'n dangos sut ydym ni'n gallu achub a chadw a diogelu a chynnal tirwedd naturiol nodedig, er ein bod ni'n cael datblygiadau hanesyddol a datblygiadau cysylltiadau o bob math yn effeithio ar ein hamgylchedd ni. 

Mae John wedi sôn dipyn am yr amgylchiadau hanesyddol, ac mae'r rhain yn wir o ddiddordeb mawr. Wrth gwrs, fuaswn i ddim yn Weinidog sy'n cynrychioli Cadw yn y lle hwn heblaw fy mod i'n sôn am y darganfyddiadau archaeolegol cyffrous mae John hefyd wedi cyfeirio atyn nhw—yr olion traed dynol mesolithig 8,000 o flynyddoedd oed, y cwch o'r Oes Efydd y clywson ni amdano fo, adeiladau a llwybrau yr Oes Haearn, a'r cyfan sydd wedi goroesi o'r cyfnod Rhufeinig a'r cyfnod canoloesol. Dwi ddim yn meddwl bod yna unrhyw amgylchedd arall yng Nghymru lle rydych chi'n gallu darllen hanes Cymru o’ch cwmpas jest wrth edrych. Does dim rhaid ichi gael llyfr, dŷch chi'n gweld—fe allwch chi gael llyfr neu, o hyn ymlaen, fe allwch chi fynd ag araith John a’r ychydig o ymatebion gen i fan hyn fel rhyw fath o arweinlyfr i weld beth sydd o’ch cwmpas chi—y mae hanes yn adrodd ei hun, fel petai, yn yr amgylchedd yma.

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 5:50, 6 Mawrth 2019

Ac mae’n debyg y gallech chi ddadlau mai’r Rhufeiniad sydd yn bennaf gyfrifol am y strwythur hanfodol yma, fel rydw i’n ei ddeall, oherwydd yr adennill a wnaed o’r ardal o’r môr a gosod rhai caeau sy’n cael eu defnyddio hyd heddiw. A bob tro roedd y môr yn gorlifo dros yr ardal wedyn, roedd yna ymdrech i ailwladychu'r ardal, ac rŷm ni wedi clywed sôn am yr unfed ganrif ar ddeg fel yr amser y digwyddodd hynny. I mi, mae yna ddiddordeb mawr yn yr ymdrechion cyfreithiol a chadwraethol i reoli yr ardal yma. Roeddwn i â diddordeb mawr yn llys carthffosydd sir Fynwy, er enghraifft, a oedd yn ymdrech i sicrhau bod y rhwydwaith o ddraeniau a morgloddiau yn cael eu cynnal a’u cadw. Er bod gorlif mawr y cyfeiriodd John ato fo ar ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg, fe barhawyd i adfer yr ardal a’r patrwm cymhleth yma o ddraeniau a ffosydd draenio. Roeddwn i’n gyfarwydd â’r math yma o beth mewn rhai ardaloedd ar fae Ceredigion, megis dyffryn Dysynni, ond does yna ddim byd yn nyffryn Dysynni sydd yn debyg i’r cymhlethdod o ddraeniau a’r hierarchaeth o ffosydd draenio a dyfrffosydd ar gyfeiliorn a’r cyfan rhyfeddol yma sydd yn cael eu cyfosod â’i gilydd.

Felly, fe garwn i grynhoi drwy ddiolch i bawb sydd wedi gofalu am y tirlun yma, ac yn arbennig Partneriaeth Lefelau Byw. Mae’r rhaglen yma’n ailgysylltu pobl â chymunedau a thirwedd lefelau Gwent ac yn helpu i ddarparu dyfodol cynaliadwy i’r ardal. Mi garwn i, yn arbennig, nodi cyfraniad y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, yr RSPB—mi ddylwn i ddatgan diddordeb fel aelod ers blynyddoedd o’r gymdeithas yma. Dwi’n hoff iawn o’r modd y mae’r gymdeithas yn gweithio mewn partneriaeth—gweithio’n agos efo cymunedau lleol—ac mae’r ganolfan sydd gyda nhw ar y gwastadeddau, ar lefelau Gwent, yn cymharu’n ffafriol iawn, yn fy ngolwg i, i’r ganolfan sydd ar lan yr Afon Conwy. Mae’r gwaith sydd yn cael ei wneud gan y gymdeithas yma yn tynnu sylw at bob math o fywyd gwyllt, ac mae’n rhaid imi gael yr esgus fan hyn i ddefnyddio’r gair Cymraeg am water vole—llygoden bengron y dŵr. Mae hwnna yn un o’r disgrifiadau—mae’r pen crwn ac mae’r clustiau, a dyna’r cyfan mae rhywun yn ei weld o’r anifeiliaid rhyfeddol yma pan maen nhw’n dod allan o dyllau o fewn corsydd ac ar lannau afonydd. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud i warchod y creaduriaid prin yma hefyd yn rhan allweddol o warchod yr amgylchedd.

Wel, fe wnaeth John gyfeirio yn gynnil at rai o’r bygythiadau sydd yn wynebu ardal fel hyn, fel y maen nhw yn wynebu sawl ardal o gadwraeth arall. Mae hi’n amlwg bod yn rhaid inni fod yn ystyriol iawn o’r anghenion amgylcheddol os ydym ni yn ystyried ymyrryd mewn unrhyw ffordd ar y dirwedd nodedig yma. Mi fydd John yn gwbl ymwybodol bod y Prif Weinidog bellach wedi cael yr adroddiad, sydd bron yn 550 o dudalennau, ar brosiect yr M4, ac mi fydd hwn—does dim rhaid imi ddweud o yma ar ran y Prif Weinidog—yn cael ystyriaeth gyfan gwbl drwyadl. Ac mi fydd yr agweddau amgylcheddol yn cael eu pwyso'n llawn, ac yn sicr, mae hwn yn ymrwymiad sydd yn werth ei ailadrodd.

Ond mae’r prosiect tirlun y lefelau byw a’r rhaglen maen nhw’n ei gwneud ar lefelau Gwent yn enghraifft wych o sut mae modd cydweithio er mwyn diogelu treftadaeth nodedig Cymru. Dwi am, yn olaf, ddiolch i John am ei gyfraniad fo’i hun, drwy arwain a datblygu’r polisi ddaeth yn Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Mae hyn wedi rhoi Cymru ar y blaen o ran diogelu treftadaeth yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt, ac mae’n dda gen i, felly, ddiolch i John am ei gyfraniad ac ailadrodd ei alwad o am i ni gyd fynd i chwilio am lygoden bengron y dŵr ar lefelau Gwent. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:56, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:56.