Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 6 Mawrth 2019.
Ni fu'r berthynas rhwng yr ardal isel hon a'r môr heb ei thrasiedi. Dangosir yr elfen o densiwn a pherygl yn fwyaf amlwg gan lifogydd trychinebus 1607. Rhoddodd ymchwydd llanw—tswnami yn ôl rhai—ardaloedd mawr o dan y dŵr ar ddwy ochr Môr Hafren. Amcangyfrifir bod 2,000 neu fwy o bobl wedi boddi, a thai a phentrefi wedi'u hysgubo ymaith pan aeth oddeutu 200 milltir sgwâr o dir amaethyddol o dan ddŵr, a lladdwyd da byw, gan chwalu economïau lleol. Dywedwyd bod arfordir Dyfnaint a Gwastatir Gwlad yr Haf cyn belled i mewn i'r tir ag Ynys Wydrin, 14 milltir o'r arfordir, wedi'u heffeithio. Mae'r trychineb hwn a nifer o ddigwyddiadau llifogydd dilynol yn tynnu sylw at yr angen parhaus i reoli amddiffynfeydd rhag llifogydd, lefelau dŵr a'r system ddraenio yn ofalus, ond hefyd maent yn ein hatgoffa pam na ddylem byth anghofio ein straeon lleol. Bydd ymweliad ag Eglwys Mair Magdalen yn Allteuryn neu Eglwys y Santes Fair yn Nhre'ronnen yn dangos placiau a marciau wal sy'n cofnodi'r llifogydd ac uchder y dŵr.
Ac wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd, mae mwy na gwerth hanesyddol y gwastatir yn unig i'w ddathlu. Mae ei ecoleg yn aruthrol o arwyddocaol, yn cynnal amrywiaeth fawr o fywyd gwyllt. Mae'r ffosydd a'r corsydd yn darparu llu o gyfleoedd i rywogaethau gwahanol, o'r planhigion fasgwlaidd blodeuol lleiaf yn y byd a'r chwilen blymio fwyaf i ysglyfaethwyr uchaf fel nadredd y gwair, crehyrod bach copog a dyfrgwn. Cadarnhawyd bod nifer o rywogaethau gwarchodedig Ewrop a'r DU yn bresennol, gan gynnwys pathewod, nadredd y gwair, rhai rhywogaethau ystlumod, y fadfall ddŵr gribog a llygoden bengron y dŵr. Mae'r llygoden bengron y dŵr garismatig—un o fy ffefrynau, gan fy mod yn hyrwyddwr rhywogaeth llygod pengrwn y dŵr yr Ymddiriedolaeth Natur—wedi diflannu'n lleol, ond bellach ceir cannoedd ohonynt ac mae eu niferoedd yn cynyddu, diolch i raglen ailgyflwyno a rheoli mincod a reolir gan Ymddiriedolaeth Natur Gwent.
Mae gwarchodfa a chanolfan ymwelwyr yr RSPB, a grëwyd fel modd o wneud iawn am golli cynefin wrth datblygu morglawdd Bae Caerdydd, yn baradwys i bobl sy'n gwylio adar. Dyma'r unig le yng Nghymru y gallwch weld y crychydd godidog yn nythu am y tro cyntaf ers 400 mlynedd, ac mae hefyd yn gartref i rywogaethau prin eraill yng Nghymru megis y titw barfog, adar y bwn a bodaod tinwen. Mae'r amodau arbennig a grëir gan y gwahanol gyfundrefnau ar gyfer rheoli lefelau dŵr a llystyfiant yn cyfrannu at yr amgylchedd cyfoethog hwn. Ceir wyth safle gwlyptir o ddiddordeb gwyddonol arbennig sy'n gartref i adar prin a bregus a rhywogaethau amrywiol â chynefinoedd cymhleth.
Mae'r ardal yn meddu ar yr amrediad llanw mwyaf ond un yn y byd, gyda 15m wedi'i gofnodi rhwng y llanw uchaf a'r llanw isaf. Mae'n ardal hynod ag iddi werth mawr i Gymru, ei phreswylwyr, ei phoblogaethau lleol ac ymwelwyr posibl, yn enwedig ymwelwyr o ardaloedd trefol gerllaw. Mae ganddi lawer iawn i'w gynnig, ond mae ei stori a'i thirwedd yn gynnil ac yn amlach na pheidio, ni chânt eu gwerthfawrogi'n llawn.
O ystyried gwerth amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd y lle, mae'n galonogol gweld gwaith ar y gweill i gydnabod a dathlu'r pwysigrwydd hwn yn well. Mae ein planed, yr hinsawdd, yr amgylchedd, bioamrywiaeth a bywyd gwyllt o dan fygythiad ac mewn perygl, ac yn anffodus, nid yw pobl erioed wedi bod mor bell oddi wrth y byd naturiol yn eu bywydau bob dydd ag yr ydym heddiw. Mae angen dimensiwn dynol cryf i greu mwy o ymdeimlad o ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'r gwlyptiroedd hyn a dyma lle mae prosiect Lefelau Byw, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, wedi camu i'r adwy. Daeth eu partneriaeth dirweddol ynghyd i gyflwyno rhaglen waith a fydd yn hyrwyddo ac yn ailgysylltu pobl â'r hanes, y bywyd gwyllt a'r harddwch gwyllt. Mae'n werth tua £4 miliwn ac yn cael ei hariannu gan gronfa dreftadaeth y loteri, a'i harwain gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar. Y nod yw gwarchod ac adfer nodweddion treftadaeth naturiol pwysig yr ardal, i ddatblygu gwerthfawrogiad llawer cryfach o werth y dirwedd, ac i ysbrydoli pobl i ddysgu am ei threftadaeth ac i gymryd rhan ynddi. Mae'n golygu ailgyflwyno perllannau afalau, cysylltu ag ysgolion lleol, gwaith ar y cyd â Chyngor Dinas Casnewydd i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon, a phoblogrwydd caffis a bwytai yn Allteuryn a chanolfan gwlyptiroedd yr RSPB. Ceir cyfle newydd yn awr i ddatblygu'n gynaliadwy a defnyddio rhyfeddod y gwastatir.
Ddirprwy Lywydd, rhaid inni annog rhagor o bobl i ymweld â'r ardal arbennig hon a mwynhau'r hyn sydd ganddi i'w gynnig. Bydd cerdded, beicio, archwilio a phrofi yn sicrhau gwell dealltwriaeth ynglŷn â pham y dylid gofalu amdani a'i gwarchod. Mae'n hafan o heddwch a llonyddwch tawel, sy'n gymorth i hybu lles ac iechyd. Braf yw gweld canolfan yr RSPB ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent yng ngwarchodfa natur cors Magwyr yn croesawu miloedd o ymwelwyr bob wythnos, gan gynnwys llawer iawn o blant ysgol sy'n cyflawni gweithgareddau ac yn mwynhau dysgu am natur.
Wrth gwrs, mae'n gyfnod heriol, ac mae'r dirwedd yn wynebu peryglon yn ogystal â chynnig cyfleoedd. Mae llwybr ffordd liniaru arfaethedig yr M4 ar draws y gwastatir yn fygythiad mawr a fyddai'n achosi difrod sylweddol a pharhaol os yw'r cynllun yn mynd rhagddo, tra bo Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gyda'i gilydd yn creu fframwaith ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd fwy cynaliadwy, yn gydweithredol ac ar raddfa fawr.
Mae buddsoddiad mawr drwy lwybr arfordir Cymru a llwybrau beicio'r rhwydwaith cenedlaethol wedi cynyddu potensial yr ardal i wasanaethu nifer gynyddol o breswylwyr ac ymwelwyr sy'n chwilio am gyfleoedd hamdden o'r dinas-ranbarth ac ymhellach i ffwrdd. Rhaid sicrhau mwy o werthfawrogiad a buddsoddiad er mwyn gwneud yn siŵr fod yr ardal, ei bywyd gwyllt, ei hanes a'r bobl y mae wedi'i chysylltu wrthynt yn gynhenid yn cael eu cynnal ar gyfer Cymru a chenedlaethau'r dyfodol. Mae'r dirwedd yn eiconig ond yn fregus, a rhaid inni weithio gyda'n gilydd i adeiladu dyfodol mwy gwydn. Bydd deall treftadaeth, hanes a bioamrywiaeth ein cymunedau yn sicrhau ein bod i gyd yn teimlo perchnogaeth dros eu cadwraeth.
Felly, hoffwn annog pawb i ymweld â'r lle arbennig iawn hwn yn ne-ddwyrain Cymru. Boed drwy syllu ar ryfeddod haid o ddrudwennod ar wlyptiroedd Casnewydd, gwylio llygod pengrwn y dŵr ar gors Magwyr, cymryd rhan mewn un o'r nifer o weithdai diddorol a gynhelir gan brosiect Lefelau Byw, neu gerdded ar hyd y wal fôr yn Allteuryn i chwilio am ddarganfyddiad cynhanesyddol, y ffordd orau o ddysgu am y rhan unigryw a rhyfeddol hon o Gymru yw dod yno i'w mwynhau, a dysgu drwy wneud hynny pam y mae'r gwastatir yn haeddu cael ei ddiogelu a'i gynnal ar gyfer heddiw a chenedlaethau'r dyfodol.
Diolch yn fawr.