Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 6 Mawrth 2019.
Diolch. Edrychwn ymlaen at y diweddariad yna, felly. Yn ôl eich rhagflaenydd, Alun Davies, un o ddibenion Bil y Gymraeg oedd, a dwi'n dyfynnu,
‘creu sefydliad o'r radd flaenaf a rhyngwladol ei fri a fyddai'n dwyn ynghyd y màs critigol o dalent ac arbenigedd i arwain cynllunio ieithyddol i lefel newydd ehangach a mwy soffistigedig.’
Er bod y Bil wedi mynd erbyn hyn, ydych chi'n cytuno ein bod ni'n parhau i fod angen corff hyd braich o Lywodraeth, yn ychwanegol at y comisiynydd, i wneud y gwaith cynllunio iaith y mae Alun Davies a minnau'n credu sy'n angenrheidiol i lwyddiant eich strategaeth miliwn o siaradwyr?