2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 6 Mawrth 2019.
2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gyflawniad Cynllun Gweithredu 2018-19 Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr? OAQ53484
Mae cynllun gweithredu 2018-19 strategaeth Cymraeg 2050 yn seiliedig ar raglen waith 2017-21. Byddwn yn adrodd ar y cynnydd yn erbyn yr amcanion yn yr hydref wedi i ni gasglu a dadansoddi’r data. Mae’r amcanion yn canolbwyntio ar greu galw, cynyddu'r niferoedd a chynyddu defnydd.
Diolch. Edrychwn ymlaen at y diweddariad yna, felly. Yn ôl eich rhagflaenydd, Alun Davies, un o ddibenion Bil y Gymraeg oedd, a dwi'n dyfynnu,
‘creu sefydliad o'r radd flaenaf a rhyngwladol ei fri a fyddai'n dwyn ynghyd y màs critigol o dalent ac arbenigedd i arwain cynllunio ieithyddol i lefel newydd ehangach a mwy soffistigedig.’
Er bod y Bil wedi mynd erbyn hyn, ydych chi'n cytuno ein bod ni'n parhau i fod angen corff hyd braich o Lywodraeth, yn ychwanegol at y comisiynydd, i wneud y gwaith cynllunio iaith y mae Alun Davies a minnau'n credu sy'n angenrheidiol i lwyddiant eich strategaeth miliwn o siaradwyr?
Wel, dwi'n derbyn bod angen i ni wneud lot mwy yn y maes cynllunio ieithyddol. Dwi wedi gofyn i'r swyddogion ddod ymlaen â syniadau ataf fi ynglŷn â lle fyddai'r lle mwyaf priodol i osod hynny. Dwi'n awyddus i drafod gydag arbenigwyr yn y maes i weld ble yw'r lle gorau. Mae rhai yn credu dylai fe fod yn hyd braich o'r Llywodraeth. Mae rhai eraill yn dweud, 'Actually, mae'n rhaid iddo fe fod yn rili agos at y Llywodraeth achos dyna ble mae'r levers i gael i wneud y newidiadau.' Felly, dwi'n awyddus i weld beth yw'r opsiynau yn gyntaf cyn gwneud penderfyniad ar ble ddylai'r sefydliad neu'r arbenigwyr newydd yma fod o fewn y system, ai tu fewn y system neu led braich.
Un nod i'r cynllun yw, wrth gwrs, cynyddu darpariaeth dysgu Cymraeg ar ôl 16 i helpu pobl i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle, ac rwyf fi'n falch—rwy'n credu fy mod i'n falch anyway—i weld syniadau fel llinell ffôn cymorth i helpu darparu gwasanaethau cyfieithu am ddim i fusnesau bach ac elusennau, er enghraifft, ond cam bach iawn, iawn yw hynny tuag at darged 2050. Beth ydych chi'n ei ddweud wrth fusnesau bach tebyg, sydd ddim wedi clywed am neu gan eich swyddogion Cymraeg i fusnes am sut i fanteisio ar adnoddau bach fel y llinell ffôn cymorth, heb sôn am gymryd y naid i fod yn cymryd o ddifrif y ffaith bod gyda nhw rhywbeth i wneud i helpu creu'r nifer o bobl sy'n siarad Cymraeg i gyrraedd y targed?
Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl bod lot o waith yn cael ei wneud yn y maes yma, ac mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yna'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru. Un o'r pethau rŷn ni wedi gwneud, wrth gwrs, yw cael hyd i tua 12 o bobl sy'n mynd o gwmpas Cymru i roi cyngor i bobl ym maes busnes ynglŷn â sut maen nhw'n gallu ehangu defnydd o'r Gymraeg tu fewn i'r gweithle. Wrth gwrs, mae hefyd gyda ni ddarpariaeth i bobl ddysgu Cymraeg yn y gweithle, a dwi'n awyddus iawn i sicrhau bod pobl yn gwybod am y gwasanaethau hyn, a dyna'r sialens nawr. Nawr, rŷn ni eisoes yn gwneud lot i sicrhau bod pobl yn gwybod am y llinell ffôn. Dwi'n meddwl bod rhaid i ni wneud mwy o fasnach yn y maes yma i sicrhau—. Mae hynny yn digwydd eisoes, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni drio gwneud mwy i godi'r profile fel bod pobl yn ymwybodol bod y gwasanaeth yma'n bodoli.