Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 6 Mawrth 2019.
Wel, dwi'n derbyn bod angen i ni wneud lot mwy yn y maes cynllunio ieithyddol. Dwi wedi gofyn i'r swyddogion ddod ymlaen â syniadau ataf fi ynglŷn â lle fyddai'r lle mwyaf priodol i osod hynny. Dwi'n awyddus i drafod gydag arbenigwyr yn y maes i weld ble yw'r lle gorau. Mae rhai yn credu dylai fe fod yn hyd braich o'r Llywodraeth. Mae rhai eraill yn dweud, 'Actually, mae'n rhaid iddo fe fod yn rili agos at y Llywodraeth achos dyna ble mae'r levers i gael i wneud y newidiadau.' Felly, dwi'n awyddus i weld beth yw'r opsiynau yn gyntaf cyn gwneud penderfyniad ar ble ddylai'r sefydliad neu'r arbenigwyr newydd yma fod o fewn y system, ai tu fewn y system neu led braich.