Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 6 Mawrth 2019.
Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl bod lot o waith yn cael ei wneud yn y maes yma, ac mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yna'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru. Un o'r pethau rŷn ni wedi gwneud, wrth gwrs, yw cael hyd i tua 12 o bobl sy'n mynd o gwmpas Cymru i roi cyngor i bobl ym maes busnes ynglŷn â sut maen nhw'n gallu ehangu defnydd o'r Gymraeg tu fewn i'r gweithle. Wrth gwrs, mae hefyd gyda ni ddarpariaeth i bobl ddysgu Cymraeg yn y gweithle, a dwi'n awyddus iawn i sicrhau bod pobl yn gwybod am y gwasanaethau hyn, a dyna'r sialens nawr. Nawr, rŷn ni eisoes yn gwneud lot i sicrhau bod pobl yn gwybod am y llinell ffôn. Dwi'n meddwl bod rhaid i ni wneud mwy o fasnach yn y maes yma i sicrhau—. Mae hynny yn digwydd eisoes, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni drio gwneud mwy i godi'r profile fel bod pobl yn ymwybodol bod y gwasanaeth yma'n bodoli.