Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 6 Mawrth 2019.
Un nod i'r cynllun yw, wrth gwrs, cynyddu darpariaeth dysgu Cymraeg ar ôl 16 i helpu pobl i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle, ac rwyf fi'n falch—rwy'n credu fy mod i'n falch anyway—i weld syniadau fel llinell ffôn cymorth i helpu darparu gwasanaethau cyfieithu am ddim i fusnesau bach ac elusennau, er enghraifft, ond cam bach iawn, iawn yw hynny tuag at darged 2050. Beth ydych chi'n ei ddweud wrth fusnesau bach tebyg, sydd ddim wedi clywed am neu gan eich swyddogion Cymraeg i fusnes am sut i fanteisio ar adnoddau bach fel y llinell ffôn cymorth, heb sôn am gymryd y naid i fod yn cymryd o ddifrif y ffaith bod gyda nhw rhywbeth i wneud i helpu creu'r nifer o bobl sy'n siarad Cymraeg i gyrraedd y targed?