Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 6 Mawrth 2019.
Weinidog, yn y strategaeth ryngwladol rydych yn ei datblygu, gwn y byddwch yn rhoi sylw i 'Gwerthu Cymru i'r Byd', adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a chredaf ei bod yn hynod bwysig, wrth ddatblygu'r strategaethau allforio hyn, ein bod yn sylweddoli, yn ogystal â'r cwmnïau mawr—maent yn bwysig iawn—fod BBaChau ym maes gweithgynhyrchu uwch gwerth uchel a'r diwydiannau digidol yn allweddol, mewn gwirionedd, i'n twf yn y dyfodol. A gobeithiaf, pan fyddwch yn dewis teithiau masnach, y byddwch yn rhoi cydnabyddiaeth lawn i anghenion a dyheadau ac argymhellion BBaChau mewn perthynas â marchnadoedd a allai fod yn fwy agored i fasnachu â Chymru.