Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 6 Mawrth 2019.
Wel, credaf fod hon yn un o'r hen straeon diflas y mae aelodau o UKIP a phobl Brexit eraill wedi eu gwthio dros y blynyddoedd. Maent am ddychwelyd at y ddelfryd o adeg pan oedd Prydain yn fawr ac roeddem yn rheoli'r byd ac roedd gennym ymerodraethau, ac mewn gwirionedd, mae'r byd wedi newid ers hynny. Yr hyn sydd gennym bellach yw byd cwbl ryng-gysylltiedig lle rydym yn gwbl ddibynnol ar ein gilydd. A gallwch weld mai'r hyn sydd wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf yw bod cwmnïau fel Honda wedi cydnabod, oherwydd y cysylltiadau a'r gadwyn gyflenwi na ellir ei thorri, y bydd cydgysylltedd a'r ffaith na fydd gennym gydgysylltedd os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn achosi problemau ac yn achosi diweithdra. Ac rydych yn llygad eich lle: credaf y dylem fod yn falch o'r lefelau uchaf erioed o gyflogaeth sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae gennym broblemau o hyd mewn perthynas â chyflogau isel, a dyna pam mai'r hyn rydym yn ei wneud yn awr yw ceisio canolbwyntio ar geisio creu swyddi newydd sy'n swyddi medrus ar gyflogau uchel, ac rwy'n credu bod yn rhaid i mi ddweud wrthych, wrth geisio siarad yn ddiweddar â mewnfuddsoddwyr, mai'r broblem go iawn yw sut i gadw pobl sydd wedi buddsoddi yma eisoes a hwythau'n gwybod, mewn gwirionedd, y gallai fod rhwystrau i fasnach yn y dyfodol. Mae'n neges anodd dros ben inni ei gwerthu ar hyn o bryd. Rwy'n hyderus, mewn gwirionedd, fod gennym y sgiliau, y gallu a'r doniau yng Nghymru i sicrhau y bydd pobl yn parhau i fuddsoddi yn ein gwlad, ond mae'n rhaid imi ddweud wrthych na fydd Brexit yn gwneud hynny'n haws.