Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 6 Mawrth 2019.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Nawr, yn naturiol, yn ddiweddar, wrth ymateb i'r ffaith bod Aelodau Seneddol Llafur wedi gadael y blaid honno yn Llundain a'u grŵp seneddol, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a dwi'n dyfynnu:
os ydych chi'n cael eich ethol yn gynrychiolydd plaid benodol ac eich bod chi'n penderfynu nad ydych am wneud hynny yn y dyfodol, dylech fynd yn ôl at y bobl sydd wedi eich rhoi chi yno a gadael iddynt hwy gael y dewis hwnnw eto.
Dyfyniad uniongyrchol o eiriau Mark Drakeford. Nawr, dwi'n cytuno efo'r farn honno yn llwyr, ac oherwydd ein bod ni wedi gweld symudiadau tebyg yma yn y Senedd yma, pa asesiad, felly, mae'r Comisiwn am ei wneud o'r posibilrwydd o ddatblygu deddfwriaeth a fyddai'n gorfodi Aelod sy'n gadael plaid wleidyddol i wynebu is-etholiad? Neu ynte ydyn ni ddim ond i ddibynnu ar gynsail beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol ac felly yn amddifadu pobl o gynrychiolydd o'r blaid y gwnaethon nhw bleidleisio drosti hi yn y lle cyntaf?