Gwleidyddion yn Newid Pleidiau

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 6 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:09, 6 Mawrth 2019

Wel, fel y dywedais i yn fy ateb i, does yna ddim asesiad wedi ei wneud hyd yn hyn o'r mater yma. Mae Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) wedi cael ei gyflwyno yn yr wythnosau diwethaf. Doedd yna ddim mandad o'r Cynulliad yma, unrhyw un o'i bwyllgorau, na chwaith oedd y mater yma wedi cael ei gynnwys yng nghylch gorchwyl adroddiad annibynnol Laura McAllister. Ond mae'n fater, wrth gwrs. Mae'n cael ei godi fan hyn o bosib am y tro cyntaf, neu un o'r troeon cyntaf. Mae'n fater efallai y bydd y pwyllgor sy'n scrwtineiddio'r Mesur sydd ar hyn o bryd o flaen y Cynulliad eisiau ei ystyried o bosib, neu mae'n fater i Aelodau yn y lle yma nawr fod y pwerau gan y lle yma ers Deddf Cymru 2017 i ni fod yn deddfu ar ein systemau etholiadol ein hunain. Felly, gaf i annog, os oes yna ddiddordeb yn y lle yma, i chi fod yn trafod hyn a dod ag unrhyw gynigion gerbron? Ond, tan i'r cynigion hynny ddod gerbron, fydd yna ddim mandad gan y Comisiwn i fod yn symud ymlaen â deddfwriaeth i'r perwyl yma.