Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 6 Mawrth 2019.
Yn Chwefror 2018, cyhoeddasom ein hadroddiad 'Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd', a diben hwnnw oedd archwilio'r cysylltiadau rhynglywodraethol presennol i weld a ydynt yn addas i'r diben ac asesu a oes angen eu newid. Cynhaliwyd ein hymchwiliad nid yn unig yng nghyd-destun 20 mlynedd ers datganoli, ond hefyd, o gofio bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a'n hawydd i sicrhau nad yw buddiannau Cymru yn cael eu gwthio i'r cyrion yn y trefniadau cyfansoddiadol a fydd yn ymddangos yn y DU o ganlyniad. Argymhelliad olaf ein hadroddiad oedd bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gytundeb cysylltiadau rhynglywodraethol gyda'r pwyllgor i gefnogi ei waith craffu ar weithgarwch Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.
Rwy'n falch felly o fod mewn sefyllfa heddiw i groesawu'n ffurfiol ein hymrwymiad i gytundeb o'r fath, sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad byr sydd gerbron y Cynulliad heddiw. Mae'r cytundeb yn ddogfen bwysig iawn. Bydd y berthynas sy'n bodoli rhwng Llywodraethau yn y DU yn newid os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd yn hanfodol, felly, i bwyllgorau'r Cynulliad a'r Cynulliad Cenedlaethol allu craffu ar sut y mae Llywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd er budd ein dinasyddion ar draws y sbectrwm polisi ac mewn perthynas â sefydlu fframweithiau polisi cyffredin. Credwn y bydd y cytundeb rhyngsefydliadol sydd ger ein bron heddiw yn helpu i hwyluso'r broses honno.
Mae'r cytundeb yn mabwysiadu'r un dull o weithredu sy'n bodoli mewn cytundeb rhwng Llywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Datganoli (Pwerau Pellach) Senedd yr Alban yn 2015:
Bydd effeithiolrwydd y Senedd wrth graffu ar gysylltiadau rhynglywodraethol yn dibynnu'n rhannol ar ei gallu i gael gwybodaeth am y deunydd pwnc ac amserlen y trafodaethau rhwng llywodraethau.
Roedd y safbwynt hwnnw'n canu cloch gyda ni, ac yn benodol, ein cred fod angen tryloywder mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol a'r mecanweithiau i'w hwyluso. Rydym yn credu bod y cytundeb yn cyflawni'r pwyntiau hyn, ac rwyf am roi amlinelliad byr iawn o'i ofynion, sy'n amlwg wedi'u nodi'n fwy manwl yn y ddogfen hon, sydd gerbron yr Aelodau.
Mae'r cytundeb yn sefydlu tair egwyddor a fydd yn rheoli'r berthynas rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol. Y tair egwyddor yw tryloywder, atebolrwydd, a pharch tuag at, a chydnabyddiaeth i’r rhan y mae trafodaethau cyfrinachol yn ei chwarae rhwng Llywodraethau, yn enwedig wrth ddatblygu polisi. Mae’r cytundeb yn berthnasol i'r rhan y bydd Gweinidogion Cymru yn ei chwarae mewn strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol, gan gynnwys Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ym mhob un o'i fformatau gweithredu, y fforwm gweinidogol ar y berthynas yn y dyfodol rhwng y DU a’r UE, y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a fforymau rhyngweinidogol ad hoc amrywiol o statws cyffelyb sy'n bodoli'n barod neu a allai gael eu sefydlu.
Mae'n darparu dwy fantais bwysig ar gyfer gwaith y pwyllgorau. Yn gyntaf, bydd fy mhwyllgor ac eraill, yn derbyn, cyn belled ag y bo'n ymarferol, o leiaf un mis o rybudd mewn perthynas â materion agenda a materion allweddol i'w trafod cyn cyfarfodydd perthnasol a drefnwyd, oni bai bod cyfranogiad Llywodraeth Cymru yn digwydd ar fyr rybudd. Bydd hyn yn galluogi pwyllgor i fynegi barn ar y pwnc ac os yn briodol, i wahodd y Gweinidog cyfrifol i fynychu cyfarfod o'r pwyllgor cyn y cyfarfod rhynglywodraethol.
Yn ail, ar ôl pob cyfarfod gweinidogol rhynglywodraethol o fewn cwmpas y cytundeb, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu crynodeb ysgrifenedig o'r materion a drafodwyd yn y cyfarfod i'r pwyllgorau perthnasol cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn pythefnos os yn bosibl. Bydd crynodeb o'r fath yn cynnwys unrhyw ddatganiad ar y cyd a ryddhawyd ar ôl y cyfarfod ac unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â'r cyfarfod, gan gynnwys amlinelliad o'r safbwyntiau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Er mwyn monitro cynnydd, bydd Llywodraeth Cymru yn paratoi adroddiad blynyddol ar gysylltiadau rhynglywodraethol. Bydd yn cael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol a'i gyflwyno i fy mhwyllgor. Bydd yr adroddiad blynyddol yn crynhoi'r allbynnau allweddol o weithgaredd sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau'r cytundeb hwn, gan gynnwys unrhyw adroddiadau a gyhoeddir gan fforymau rhynglywodraethol perthnasol. Bydd hefyd yn gwneud sylwadau ar yr ystod ehangach o waith cysylltiadau rhynglywodraethol a wnaed yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys datrys anghydfodau, sy'n mynd i fod yn bwysig iawn.
Fel y dywedais pan gawsom ddadl ar ein hadroddiad 'Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd' ychydig dros flwyddyn yn ôl erbyn hyn, mae'r DU yng nghanol un o'r diwygiadau cyfansoddiadol mwyaf pwysig a heriol y mae wedi'u hwynebu erioed, gyda goblygiadau hirdymor i weithrediad a llywodraethiant y DU a gwledydd a rhanbarthau unigol y DU. Bydd yn rhaid i'r DU addasu ei threfniadau mewnol er mwyn sicrhau na fydd gadael yr UE yn arwain at fwy o ganoli grym yn Llundain. Mae'r cytundeb hwn yn gam pwysig yn y ffordd y byddwn ni yn y Cynulliad yn craffu ar y broses honno wrth iddi ddatblygu.
Cyn cloi, hoffwn fynegi fy niolch i'r Prif Weinidog, y Cwnsler Cyffredinol a'u swyddogion am y ffordd gadarnhaol y maent wedi cymryd rhan yn natblygiad y cytundeb hwn. Os byddwn yn parhau yn yr un modd, rwy'n siŵr y bydd y cytundeb hwn yn esgor ar fanteision, nid yn unig i'r Cynulliad a'r Llywodraeth, ond hefyd i ddinasyddion Cymru, y genedl rydym yn ei gwasanaethu. Diolch.