Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 6 Mawrth 2019.
Y cwestiwn i mi yw: sut y mae'r Cynulliad hwn yn dylanwadu ar sut y mae ein dwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod uniondeb y setliad datganoledig yn cael ei amddiffyn? Ac er nad oeddwn yn aelod o'r pwyllgor hwn pan oedd y gwaith yn cael ei wneud ar y cytundeb penodol hwn, mae'r gwaith rwyf wedi'i wneud ar y pwyllgor ers hynny wedi lliwio sut rwyf eisiau gosod fy nghyflwyniad i chi, felly rwy'n gobeithio y byddwch yn amyneddgar gyda mi wrth i mi ddilyn llwybr troellog braidd tuag at fy nghasgliad.
Deddf gwladwriaeth y DU sy'n ein galluogi i gadw cyfraith yr UE o fewn ffiniau ein gwladwriaeth, a'r un Ddeddf sy'n caniatáu creu is-ddeddfwriaeth, sy'n gwneud yr acquis hwnnw'n weithredol. Bydd rhywfaint o'r is-ddeddfwriaeth, a wnaed gan Senedd y DU, yn aml yn effeithio ar gymwyseddau datganoledig. Mae'r is-ddeddfwriaeth honno'n gallu ymwneud â rhywbeth mor annadleuol â gosod enw corff DU neu Gymreig yn lle enw sefydliad UE, neu gall fod mor bwysig â rhoi pwerau a chyfrifoldebau newydd i Lywodraeth Cymru nad ydynt wedi'u cael o'r blaen. Ac ochr yn ochr â hynny, mae gennym sefyllfa lle mae'r ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd tuag at amrywiaeth o gytundebau a choncordatau, megis y fframweithiau DU gyfan, a dylid gallu cyflawni llawer drwy'r strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol hynny, megis Cyd-bwyllgor y Gweinidogion a'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ac ati.
Ond canlyniad anochel y gwaith hwn yw y gallai Gweinidogion Cymru gaffael pŵer a chyfrifoldeb eu hunain, neu'n wir, i'r gwrthwyneb, gallant ildio pŵer a chyfrifoldeb i Weinidogion y DU, a gofyn iddynt ar rai achlysuron i ddeddfu ar ran Cymru mewn meysydd datganoledig lle mae'n fanteisiol i wneud hynny. A dylai hynny'n unig wneud i ni dalu sylw, oherwydd, er ein bod eisoes yn gyfarwydd â'r syniad o gynigion cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol, nid ydym mor gyfarwydd â Senedd arall yn cyflwyno is-ddeddfwriaeth ar ein rhan, ac mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Brexit, mae llawer iawn ohoni, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cydsynio i lawer iawn ohoni yn uniongyrchol ar ein rhan.
Nawr, nid yw'r ddadl hon yn ymwneud ag is-ddeddfwriaeth yn unig, ond mae'n gymhariaeth ddefnyddiol â'r sefyllfa rydym yn ei thrafod, sef rôl y Cynulliad hwn yn craffu ar ran ein hetholwyr ar weithgareddau Llywodraeth Cymru yn yr holl ryngweithio y mae'n ei wneud â Llywodraethau eraill, ond yn enwedig pan fo'r camau gweithredu hynny'n arwain at ennill neu golli pwerau mewn ffyrdd heblaw drwy ganiatâd datganedig y Cynulliad hwn, neu pan fônt yn arwain at wneud penderfyniadau mewn meysydd datganoledig gan Lywodraeth arall, heb sôn am Senedd arall, heb inni eu craffu'n uniongyrchol.
Felly, yn amodol ar y mesurau diogelu disgwyliedig i ddiogelu cyfrinachedd neu ymgysylltu ar fyr rybudd, mae'n gwbl briodol fod y Cynulliad hwn wedi argymell—neu wedi mynnu, hyd yn oed, gan mai dyna sut y teimlai i mi—cael protocol rhyngom ni a Llywodraeth Cymru lle mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i ni am gyfarfodydd rhynglywodraethol mewn da bryd. Mae hynny'n galluogi pwyllgorau'r Cynulliad hwn i alw Gweinidogion i mewn cyn y cyfarfodydd hynny er mwyn rhoi gwybod iddynt beth yw'r safbwynt a ffafrir gan y Cynulliad hwn ar y pwnc dan sylw cyn eu bod yn mynychu cyfarfod rhynglywodraethol o'r fath. Yna, rhaid i Lywodraeth Cymru adrodd yn ôl i'r pwyllgorau, fel y clywsom, gydag adroddiadau cynnydd neu fanylion unrhyw gytundebau a wnaed neu unrhyw newidiadau i'r trefniadau presennol, ac mae hynny yn ei hun yn caniatáu i'r Aelodau yma graffu ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud—ychydig bach yn rhy hwyr efallai o ran newid yr hyn a allai fod wedi'i wneud, ond o leiaf gellir dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei dewisiadau ar ein rhan.
A dyna pam y dechreuais y cyfraniad hwn drwy siarad am yr hyn sy'n ymddangos fel mater digyswllt, sef is-ddeddfwriaeth, oherwydd credaf y gellir rhagweld y bydd rhai cytundebau rhynglywodraethol—nid pob un ohonynt—yn arwain at Senedd y DU yn cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol ac yn craffu arni yno. Mae angen i ni fod yn sicr yma fod Gweinidogion Cymru wedi cymryd camau priodol cyn hyn i ddiogelu budd gorau Cymru cyn drafftio unrhyw beth, yn enwedig os bydd yr hyn a fydd yn cael ei ddrafftio yn ymdrin â materion datganoledig.
Mae proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sy'n dilyn yn darparu lefel o graffu a dylanwad ar gyfraith o'r fath yn y DU i'r Aelodau yma, a chafwyd synau calonogol o natur Sewel o du Llywodraeth y DU mewn perthynas â hynny. Ond mewn perthynas â'r is-ddeddfwriaeth a fydd yn deillio o'r gyfraith honno, a fydd ei hun wedi'i llunio ar sail Cymru a Lloegr, bydd ein gallu i graffu arni fel y dylem fod eisiau craffu arni yn cael ei herio'n fawr, ac mae'n cael ei herio'n fawr yn barod, gydag is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Ychydig wythnosau'n ôl yn unig, buom yn siarad ynglŷn â pha mor anodd oedd hi i Lywodraeth Cymru baratoi memoranda esboniadol digon manwl, a gwelsom yr un broblem gyda datganiadau Rheol Sefydlog 30. Er ein bod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru dan bwysau mawr i drefnu a chrynhoi hyn, mae camgymeriadau neu wybodaeth anghyflawn yn amharu ar ein gallu i ymddiried yn eu gwaith craffu rhagarweiniol ar yr hyn y maent yn ei dderbyn gan y DU.
Felly, nid yw'n ymddangos bod y protocolau ar gyfer hynny'n gweithio'n gwbl foddhaol, a dyna pam fod y protocol rhwng y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru, sy'n darparu ar gyfer hysbysu ac adrodd, ac sy'n rhoi cyfle i fynd yn groes i'r llif a dylanwadu ar drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda'r DU, mor bwysig, oherwydd, ar ôl mynd drwy broses ddeddfwriaethol, ni chawn lawer o gyfle i graffu neu ddylanwadu'n gyson, a dylai hynny beri pryder i ni. Diolch.