Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 6 Mawrth 2019.
Ers blynyddoedd bellach, yr hyn a dderbynid yn gyffredinol oedd y byddai tai ar gyfer y farchnad a adeiledid gan ddatblygwyr yn sicrhau'r tai fforddiadwy sydd eu hangen i ateb y galw. Nawr, ar y meinciau hyn rydym am herio hynny, oherwydd, er yr holl addewidion a wnaed a'r targedau a osodwyd, nid yw'r cyflenwad wedi darparu'r niferoedd y mae galw amdanynt. Yn wir mae'r cyflenwad—fel y clywsom gan Leanne, nid yw'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn cyfateb i'r niferoedd y rhoddwyd caniatâd ar eu cyfer dros y degawd diwethaf. Mae Stats Cymru yn dweud bod awdurdodau lleol wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer 13,355 o dai fforddiadwy, ond 6,746 yn unig a adeiladwyd mewn gwirionedd—ychydig dros 50 y cant. Mewn rhai awdurdodau, roedd y ffigur hyd yn oed yn waeth. Yn Wrecsam, er enghraifft, 16 y cant yn unig o'r rhai y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer a gafodd eu darparu.
Mae cynghorau sydd â llai a llai o adnoddau yn dibynnu ar ddatblygwyr preifat i gyrraedd targedau ar gyfer tai fforddiadwy. Felly, pam fod cyn lleied o'r tai fforddiadwy hyn yn cael eu cyflenwi? Mewn rhai achosion, fel y clywsom, nid oes unrhyw amheuaeth fod datblygwyr yn ceisio camu'n ôl rhag gorfod cyflenwi tai fforddiadwy, sef 25 y cant fel arfer ar ddatblygiadau mwy o faint, drwy honni nad ydynt yn hyfyw yn ariannol. Byddant yn honni, a chânt eu cefnogi gan arolygwyr cynllunio, fod angen elw o 15 i 20 y cant er mwyn gwneud tai yn ariannol hyfyw. Rwy'n siwr y byddai llawer o ddiwydiannau eraill wrth eu bodd yn gallu dangos elw o 15 i 20 y cant.
Mewn achosion eraill, ni adeiladir tai ar gyfer y farchnad, ac felly ni adeiladir tai fforddiadwy mawr eu hangen, gan adael miloedd o bobl yn gaeth i restrau aros am dai mewn llety gorlawn neu wynebu digartrefedd cudd. Mewn rhai achosion, mae cymalau ynghlwm wrth dai fforddiadwy yn gofyn am flaendaliadau mawr er mwyn eu gwneud yn anfforddiadwy i'r union bobl y cawsant eu llunio ar eu cyfer. Mae'n amlwg o'r ystadegau rwyf newydd eu dyfynnu nad yw'r mecanwaith cyflenwi a ffafrir ar hyn o bryd ar gyfer tai fforddiadwy fel y'u gelwir yn gweithio. Nid tai ar y farchnad agored yw'r ffordd o gyflenwi tai fforddiadwy.
Mae hefyd yn amlwg bod dibynnu ar ddatblygwyr i arwain ar dai yn golygu bod cymunedau yn aml yn ôl-ystyriaeth yn ein proses gynllunio. Dylai cynlluniau datblygu lleol ymwneud â datblygiadau dan arweiniad y gymuned, nid cymunedau dan arweiniad datblygwyr. Dylent hefyd sicrhau bod y seilwaith cymunedol angenrheidiol, fel y dywedodd Leanne—boed yn ffyrdd, ysgolion, darpariaeth iechyd a darpariaeth gymdeithasol—yn cael ei ddatblygu ochr yn ochr ag unrhyw ddatblygiad ar raddfa fawr, ac nid fel ôl-ystyriaeth os o gwbl. Nid yw byrddau iechyd yn ymgyngoreion statudol hyd yn oed ar faterion cynllunio, er gwaethaf yr effaith enfawr y byddai poblogaethau newydd yn amlwg yn ei chael ar feddygfeydd meddygon teulu, ar adrannau damweiniau ac achosion brys ac ar wasanaethau ysbyty sydd oll o dan bwysau. Unwaith eto, heb y ddarpariaeth gywir, gall adeiladu cartrefi newydd fod yn drychinebus mewn rhai ardaloedd. Golyga cyfyngiadau ar y grant tai cymdeithasol a phwysau ariannol arall nad yw cymdeithasau tai yn darparu tai fforddiadwy fel yr arferent ei wneud.
Un llygedyn o oleuni yw bod rhai cynghorau yng Nghymru, am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth, fel y clywsom, yn dechrau adeiladu tai cyngor unwaith eto. Mae sir Gaerfyrddin, Abertawe, sir y Fflint a Wrecsam, ymhlith eraill, wedi dechrau ailgyflenwi stociau tai sydd wedi crebachu, ond ar ôl degawdau heb unrhyw adeiladu newydd, mae'n broses boenus o araf, ac nid yw'n ateb yr angen dirfawr am dai yn llwyr mewn llawer o'n cymunedau. Hefyd nid yw'n mynd i'r afael â'r ffaith nad oes gan hanner ein hawdurdodau unrhyw dai cyngor bellach, oherwydd y polisi o drosglwyddo stoc a fabwysiadwyd dros ddegawd yn ôl. Tybed sut y mae'r cynghorau a drosglwyddodd eu stoc yn teimlo bellach gyda'r gallu i adeiladu tai newydd ar gael i'r rhai a gadwodd eu stoc dai. Un nodwedd bwysig, er na chaiff ei gwerthfawrogi'n llawn, yw'r ffaith nad rhaglen adeiladu yn unig yw hon: mae hi hefyd yn rhaglen prynu'n ôl, fel bod tai a oedd yn dai cyngor yn flaenorol yn cael eu prynu'n ôl i berchnogaeth cyngor.
Mewn rhai ardaloedd ni cheir cronfeydd digonol i adnewyddu tai. Ceir miloedd o gartrefi gwag ar draws Cymru, gyda llawer ohonynt yn eiddo i bobl heb fodd o adnewyddu fel y gellir eu gosod neu eu gwerthu. Mae cynllun ar raddfa fach yn bodoli lle mae cynghorau'n darparu benthyciadau o hyd at £50,000 i wneud y math hwn o waith. Caiff y benthyciad ei ad-dalu pan werthir y tŷ neu wrth ei osod, felly cedwir y pot, ond mae hyn yn galw am swyddogion i bwyso ar berchnogion tai a chysylltu â hwy i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud, a chydag adnoddau cyfyngedig, nid yw'r math hwn o waith yn digwydd yn ddigon cyflym os o gwbl.
Felly, mae'n amlwg y ceir mwy nag un ffordd o fynd i'r afael â'r argyfwng tai cymdeithasol, ond mae angen inni gynyddu'r arian sydd ar gael i sicrhau bod mentrau'n cyflawni. Rwy'n ategu'r alwad heddiw am fwy o fuddsoddi mewn tai cymdeithasol, tai cyngor, i ateb y galw yn ein cymunedau ac i unioni'r cydbwysedd yn ein stoc dai. Mae'r degawd diwethaf wedi gweld cynnydd dramatig mewn tai rhent preifat, ac yn yr achosion gwaethaf nid yw'r rhain fawr gwell na landlordiaid slymiau yn gosod ystafelloedd am £90 i £100 yr wythnos. Mae diffyg tai o ansawdd da, fforddiadwy wedi caniatáu i'r mathau hyn o landlordiaid elwa ar drueni pobl. Nid adeilad yn unig yw cartref. Mae'n rhoi to uwch bennau pobl. Mae'n darparu sicrwydd a diogelwch. Mae cartref diogel yn galluogi teuluoedd i gynllunio ar gyfer y dyfodol, mae'n lleihau straen a dibyniaeth ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae angen inni weld y tu hwnt i frics a morter a deall effaith ehangach tai fforddiadwy o ansawdd da yn ein gwlad.